Iechyd Pridd
Iechyd pridd yw'r sylfaen y mae amaethyddiaeth gynaliadwy yn cael ei hadeiladu arni ac mae arferion rheoli’n effeithio’n sylweddol arno. Mae priddoedd iach yn cynyddu gwytnwch y cnwd i bwysau fel dyddodiad trwm, cyfnodau o sychder, a phwysau gan blâu a chlefydau. Mae hyn yn cefnogi cynhyrchu bwyd cynaliadwy, hirdymor. Mae priddoedd iach hefyd yn cynnal amrywiaeth eang o swyddogaethau ecolegol ac yn darparu amrywiaeth eang o 'nwyddau cyhoeddus'.