11 Rhagfyr 2024

Mae adroddiad gan Cyswllt Ffermio ar briddoedd amaethyddol wedi dangos bod llawer o ffermydd Cymru yn colli allan ar gynhyrchion glaswellt posib oherwydd nad oes ganddynt y lefelau pH a macrofaetholion allweddol (P, K, Mg) sydd eu hangen.

Casglwyd mwy na 3,000 o samplau pridd gan Cyswllt Ffermio o gaeau glaswelltir ar ffermydd da byw ledled Cymru yn y 12 mis hyd at fis Mawrth 2024.

Mae dadansoddi’r samplau hyn wedi amlygu’r cyfle i lawer o ffermydd gywiro pH y pridd a’r mynegeion sydd eu hangen ar gyfer y cynhyrchiant glaswellt a’r buddion amgylcheddol gorau posibl.

Roedd llai na 50% o’r samplau pridd ar pH 6.0 – 7.0, sef yr amrediad optimwm ar gyfer glaswelltir, ac roedd y mwyafrif (53%) yn is na’r amrediad pH optimwm.

Mae pH pridd yn hanfodol i gynhyrchiant porthiant oherwydd gall lefelau annigonol ddylanwadu’n negyddol ar argaeledd maetholion mewn priddoedd ac, o ganlyniad, ar berfformiad porthiant.

Bydd priddoedd o fewn yr ystod pH optimwm o fudd i berfformiad da byw ac economeg ffermydd, yn ogystal â sicrhau buddion i’r amgylchedd trwy wneud y mwyaf o effeithlonrwydd adnoddau fel un o Ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy.

Mae’n bosibl felly y bydd angen adolygu’r defnydd o galch a gwrtaith fel cam cyntaf i sicrhau nad yw pH yn effeithio’n negyddol ar y defnydd o wrtaith; ar yr un pryd, gall hefyd leihau’r risg o golli maetholion trwy ddŵr ffo, a fydd yn gwella ansawdd dŵr.

Gwelwyd sefyllfa debyg ar gyfer ffosfforws (P) a photasiwm (K), eto gyda llai na hanner y samplau pridd ar y mynegeion optimwm ar gyfer y maetholion hyn. Mewn gwirionedd, cafodd cyfran fawr o’r samplau pridd eu categoreiddio fel rhai sydd islaw'r mynegeion P a K optimwm.

Ar gyfer P a K, nid yw newid y mynegeion yn ateb cyflym, gan mai cyngor y diwydiant yw cynyddu lefelau sydd wedi’u disbyddu, a lleihau crynodiadau o faetholion sy'n uwch nag y dylent fod.

Roedd canran fawr yn uwch na'r mynegai optimwm ar gyfer magnesiwm (Mg), sy'n gallu achosi priddoedd i fod yn anodd eu gweithio.

Adroddwyd hefyd am grynodiadau Mg ar fynegai o 0 ac mae amgylchiadau lle mae risg i dda byw o hypomagnesaemia (dera’r borfa) ymysg y prif resymau dros gywiro lefelau'r maetholyn hwn.

Dywedodd Siwan Howatson, pennaeth technegol Cyswllt Ffermio: “Mae’r canlyniadau hyn yn dangos pwysigrwydd profi pridd yn rheolaidd a rheoli maetholion wedi’u targedu ar ffermydd. Cysylltwch â’ch Swyddog Datblygu lleol heddiw i ddysgu mwy am sut y gall Cyswllt Ffermio eich cefnogi i wella iechyd eich pridd. Bydd hyn yn ei dro yn cyflawni’r Canlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan liniaru perygl llifogydd a sychder hefyd, yn ogystal â gwneud y mwyaf o ddal a storio carbon.’’

Rhoddodd clinigau pridd Cyswllt Ffermio gyfle i fusnesau cofrestredig drefnu i’w priddoedd gael eu dadansoddi.

Cynhaliwyd gwaith  samplo a dadansoddi hefyd ar Ffermydd Rhwydwaith Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio.

Cymharwyd y samplau â’r safonau a dderbynnir yn y diwydiant, fel y nodir yng Nghanllaw Rheoli Maetholion AHDB RB209, a ddiweddarwyd ddiwethaf ym mis Mehefin 2023.

Cawsant eu categoreiddio fesul rhanbarth – sef y Gogledd-ddwyrain, Gogledd-orllewin, Powys, y De-ddwyrain a’r De-orllewin, a dangosodd hyn fod gan y rhanbarth ddylanwad ar lefel rhai maetholion, yn arbennig Mg.
 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffermwr arobryn, Ynyr Pugh o Ganolbarth Cymru, yn trafod ei lwyddiant o ganlyniad i Ffermio Cyfran
16 Chwefror 2026 Mae Ynyr Pugh yn ffermwr ymroddedig, llawn
Sut mae cofnodi perfformiad yn llunio gwelliannau gwerthfawr mewn diadell fynydd yng Nghymru
10 Chwefror 2026 Mae enillion mamol a gyflawnwyd trwy gofnodi
Bwydo glaswellt trwy'r dail yn rhoi hwb i borthiant india-corn mewn cyfnod o sychder, yn ôl arbrawf fferm
Bu i ddefnyddio’r dull bwydo drwy’r dail ar india-corn a oedd yn