Enw
Jason Gittins
Lleoliad
Y Trallwng, Powys
Prif Arbenigedd
Da Byw
Sector
- Cig dofednod ac wyau
Pam eich bod chi’n Ymgynghorydd effeithiol?
- Mae gan Jason bron i 40 mlynedd o brofiad yn y sector dofednod ac mae wedi datblygu arbenigedd sylweddol wrth weithio gydag ystod eang o gleientiaid gan gynnwys ffermwyr, cwmnïau corfforaethol a banciau, cyrff masnach a chyrff cynrychioladol, ynghyd ag adrannau ac asiantaethau llywodraethol.
- Mae ganddo ddealltwriaeth fanwl o gynhyrchu dofednod yn fasnachol ledled y DU, ac ar hyn o bryd mae’n arwain mewnbynnau ymgynghori ADAS yn y sector hwn, gan weithio gyda thîm bach o arbenigwyr dofednod.
- Mae wedi gweithio ar brosiectau dofednod ar lefel yr UE ar ran y Comisiwn Ewropeaidd, ac mae wedi darparu gwasanaeth ymgynghori mewn ystod o wledydd y tu allan i’r UE yn Nwyrain Ewrop. Mae hyn yn golygu bod ganddo ddealltwriaeth fanwl o’r sector dofednod a’r cyfleoedd, y problemau a’r heriau sy’n ei wynebu.
- Mae arbenigedd Jason yn cynnwys cynhyrchu dofednod, lles anifeiliaid, costau cynhyrchu, materion amgylcheddol a diogelwch bwyd, ac felly mae mewn sefyllfa ddelfrydol i allu darparu gwasanaeth ymgynghori cyflawn i gleientiaid. Mae wedi gweithio’n bennaf yn y sector cynhyrchu wyau a chig cyw iâr, ond mae hefyd wedi bod yn ymwneud â chynhyrchu tyrcwn a hwyaid.
- Mae gan Jason brofiad o ddatblygu protocolau ar gyfer arbrofion ar ffermydd dofednod, gan oruchwylio’r gwaith ac adrodd ar y canlyniadau. Mae’n rhoi pwyslais ar gyfathrebu rheolaidd gyda phawb sydd ynghlwm â’r gwaith fel bod y gwaith yn mynd rhagddo yn unol â’r cynllun ac yn brydlon.
- Mae Jason yn brofiadol iawn wrth ysgrifennu adroddiadau, ac mae’n gallu cyfleu negeseuon allweddol a gwybodaeth gymhleth i gleientiaid mewn modd hawdd i’w ddeall gyda phwyslais ar argymhellion ac effeithiau. Mae hyn yn sicrhau dull effeithiol fel bod y cleientiaid yn gallu gweithredu ar y gwasanaeth ymgynghori a ddarperir.
- Mae gan Jason flynyddoedd o brofiad yn trefnu, cyflwyno a chadeirio cyfarfodydd ar gyfer ffermwyr dofednod ac eraill, yn seiliedig ar ei brofiad a’i ddealltwriaeth o’r sector. Mewn cyfarfodydd grŵp, gall Jason hwyluso trafodaethau fel bod ffermwyr yn gallu rhannu a chyfrannu i’r broses o gyfnewid gwybodaeth.
Cymwysterau/Llwyddiannau/Profiad
- Mae gan Jason radd BSc mewn gwyddor amaethyddol ac mae wedi gweithio fel ymgynghorydd, uwch ymgynghorydd, rheolwr tîm a chyfarwyddwr technegol ar ran ADAS ym maes da byw ers bron i 40 mlynedd.
- Mae’n aelod o Gymdeithas Gwyddoniaeth Dofednod y Byd ac mae’n cynrychioli’r DU ar Weithgor 1 (Pwyllgor Marchnata ac Economeg).
- Ar hyn o bryd, mae’n rheoli gwaith ADAS yn y sector dofednod ac mae’n rhan o’r gwaith o baratoi cardiau cyfraddau dofednod ar gyfer Prydain, Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon. Mae’r rhain yn cael eu defnyddio gan y llywodraeth at ddibenion iawndal mewn achosion o ffliw adar.
- Mae Jason wedi gweithio’n uniongyrchol i’r Comisiwn Ewropeaidd ac i EFSA fel arbenigwr golchi wyau, ac mae wedi gweithio ar brosiectau ymgynghori ar ddofednod mewn gwledydd gan gynnwys Wcráin, Belarus a Kazakhstan.
Awgrym /Dyfyniad
“Mae’r sector dofednod yn rhan effeithlon a phwysig iawn o’r sector amaeth. Ar gyfer y dyfodol, dylid rhoi blaenoriaeth i gynhyrchu bwyd da gan hefyd gynnal safonau da o ran lles anifeiliaid a lleihau effeithiau amgylcheddol. ”