Enw
Stuart Jones
Lleoliad
Ynys Môn
Prif Arbenigedd
Isadeiledd fferm, cyngor a chydymffurfiaeth gyda rheoliadau amgylcheddol.
Sector
- Llaeth
- Bîff
- Defaid
Pam eich bod chi’n Ymgynghorydd effeithiol?
- Yn ogystal â bod yn ffermwr llaeth, bîff a defaid gweithredol gyda chefndir rheoliadol mewn cydymffurfiaeth amgylcheddol, mae Stuart yn ceisio cynnig dull ymarferol drwy waith ymgynghori technegol i ddod o hyd i’r ateb cywir sy’n addas ar gyfer y fferm.
- Mae arbenigedd technegol yn ymwneud â gofynion y Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol a deddfwriaeth arall wedi rhoi’r gallu i Stuart ddarparu cyngor technegol cywir sy’n cydymffurfio â’r gyfraith.
- Mae Stuart yn cynnig datrysiadau sy’n canolbwyntio ar fusnes, gan ddeall yr angen i fuddsoddi mewn seilwaith fferm a goblygiadau economaidd hynny ar y busnes fferm.
- Mae Stuart wedi gweithio ar brosiectau trawsnewid o systemau bîff/defaid i ffermydd llaeth yn y DU a Seland Newydd, ac mae’n deall yr heriau’n ymwneud ag ehangu ffermydd, gan gynnwys siediau, ymdrin â slyri a storio silwair ar ffermydd.
Cymwysterau/Llwyddiannau/Profiad
- BSc (Anrh.) mewn Amaethyddiaeth o brifysgol Harper Adams
- Profiad ymarferol parhaus o reoli ffermydd llaeth, bîff a defaid yng Nghymru
- Profiad rheoleiddio yn y gorffennol o ganlyniad i weithio i Cyfoeth Naturiol Cymru
- Profiad o weithio ar ffermydd llaeth tramor gan weithio yn Southland, Seland Newydd
Awgrym /Dyfyniad
“Mae ateb i bob problem; weithiau, yr unig beth sydd ei angen yw edrych o safbwynt gwahanol.”