Enw

Tony Lathwood

Lleoliad

Aberystwyth

Prif Arbenigedd

Ymgynghorydd arbenigol ym maes Rheoliadau Rheoli Llygredd – cyngor a chydymffurfiaeth, cydymffurfiaeth â rheoliadau SSAFO ac archwiliadau isadeiledd, cynllunio rheoli maetholion gan ddefnyddio PLANET a Manner NPK, pridd a dŵr, rheoli glaswelltir technegol a rheoli gwastraff.

Sector

  • Amaethyddiaeth

Pam eich bod chi’n Ymgynghorydd effeithiol?

  • Mae Tony yn Ymgynghorydd Amaethyddiaeth, Amgylchedd a Rheoli Tir profiadol sydd wedi gweithio i ADAS yng Nghymru ers dros 40 mlynedd. Mae’n gyfathrebwr ardderchog mewn cyfarfodydd grŵp a gydag unigolion.
  • Mae’n cadw gwybodaeth gyfredol ar ddatblygiadau newid ym myd amaeth drwy hyfforddiant parhaus.
  • Mae ganddo ystod eang o brofiadau yn seiliedig ar brofiad sylweddol o fewn y diwydiant ffermio yng Nghymru mewn rheoli pridd, Rheoliadau Rheoli Llygredd, rheoli maetholion a thail, rheoliadau SSAFO a chyngor ar isadeiledd.
  • Profiadol iawn wrth ddarparu cyngor i ffermwyr ar ystod o faterion technegol a chynnal cyrsiau hyfforddi.
  • Mae’n gallu trosglwyddo gwybodaeth yn effeithiol rhwng ffermwyr, y rhai sy’n gyfrifol am wneud penderfyniadau a gwyddonwyr i ddarparu’r wybodaeth a’r datrysiadau gorau posibl er mwyn rheoli priddoedd amaethyddol yn gynaliadwy yng Nghymru.
  • Tony yw prif ymgynghorydd ADAS ar y Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2023 ac mae wedi cwblhau nifer o gyrsiau hyfforddi digidol ac wyneb i wyneb ar ran Cyswllt Ffermio.  Yn ateb galwadau ar linell gymorth Llywodraeth Cymru.
  • Arbenigwr mewn problemau llygredd gwasgaredig mewn priddoedd amaethyddol o ganlyniad i erydiad pridd a symudiad maetholion drwy briddoedd.

Cymwysterau/Llwyddiannau/Profiad

  • Dros 40 mlynedd o brofiad o gynnal gwaith ymchwil a darparu cyngor o fewn y sector amaeth. Mae wedi cyhoeddi nifer o bapurau sydd wedi’u hadolygu gan gymheiriaid.
  • HNC mewn Bioleg Gymhwysol, cymhwyster BASIS Facts, BASIS Pridd a Dŵr.

Awgrym /Dyfyniad

“I ffermwr, mae pridd yn fwy na phridd yn unig - mae’n golygu cyfoeth. Os byddwch yn gofalu amdano, bydd yn talu ar ei ganfed.”