Enw
Helen Ovens
Lleoliad
Aberystwyth
Prif Arbenigedd
Sgiliau hwyluso, meincnodi busnes, rheoli allyriadau carbon
Sector
- Da byw
Pam eich bod chi’n Ymgynghorydd effeithiol?
- Pam fyddech chi’n Gynghorydd effeithiol? • Mae gan Helen 25 mlynedd o brofiad eang ym maes amaethyddiaeth a datblygu gwledig, gan ganolbwyntio ar ddatblygu busnes a chynorthwyo busnesau amaethyddol drwy gyfnodau o newid.
- Rheolwr a gweithiwr tîm profiadol, sy’n gweithredu mewn dull manwl yn seiliedig ar ganlyniadau.
- Mae sgiliau amlddisgyblaethol Helen yn ei gwneud yn addas ar gyfer darparu cyngor i ffermwyr ar sail un i un ac ar sail grŵp, gan weithredu’n systematig i ymateb i faterion sy’n wynebu’r diwydiant ffermio a rheoli cyfalaf naturiol.
- Siaradwr Cymraeg rhugl.
- Mae gan Helen sgiliau hwyluso, casglu data a chynghori da, gan ganolbwyntio ar waith un i un a gwaith grŵp gyda ffermwyr
- Mae ganddi brofiad helaeth ym maes gwella busnesau fferm, ac arbenigedd mewn meincnodi ar draws ystod o fentrau
- Mae ganddi gymwysterau proffesiynol a phrofiad mewn archwilio carbon a chynlluniau gweithredu allyriadau fferm
- Mae’n canolbwyntio ar ddefnyddio adnoddau’n gynaliadwy mewn perthynas â chynhyrchu bwyd a rheoli tir, cydymffurfiaeth ac egwyddorion arferion fferm da, gan gynnwys materion iechyd a lles
- Mae enghreifftiau o’r arbenigedd hwn yn cynnwys cyflawni archwiliadau carbon ledled Cymru i grwpiau Cyswllt Ffermio yn ystod 2022. Mae ganddi brofiad o ddefnyddio Agrecalc ac adnodd Cool Farm Tool i gyfrifo ôl troed carbon a chreu cynlluniau lliniaru gyda ffermwyr.
- Mae tystiolaeth ddiweddar o arbenigedd Helen yn cynnwys cefnogi Rhaglen Ffermydd Strategol AHDB. Bu’n gyfrifol am feincnodi busnesau fferm yn erbyn ystod o ddangosyddion perfformiad allweddol, ar gyfer ystod o fusnesau anifeiliaid cnoi cil ledled y DU, ac yna’n cydlynu cyngor technegol ar gyfer y fenter, a sicrhau trosglwyddiad gwybodaeth effeithiol i’r diwydiant o ran egwyddorion gwella busnesau.
- Mae Helen yn frocer prosiect ar y rhaglen Partneriaeth Arloesi Ewrop ar gyfer cyfres o brosiectau iechyd anifeiliaid sy’n cael eu harwain gan ffermwyr, gan gynorthwyo grwpiau o ffermwyr i ddatblygu cysyniad, ymgeisio am gyllid a chyflawni’r prosiectau.
- Mae Helen yn hwyluso cyfarfodydd clybiau busnes ar gyfer y Gymdeithas Ffermio Gwenyn (BFA), yn casglu manylion dangosyddion perfformiad allweddol ac yn gweithio gyda ffermwyr gwenyn masnachol yn y DU i feincnodi, trafod a gwneud gwelliannau o ran perfformiad busnes.
Cymwysterau/Llwyddiannau/Profiad
- 1995 BSc Datblygu Gwledig, Prifysgol East Anglia
- 1998 MSc Diogelu Cnydau, SAC Aberdeen
- 2021 Basis Pridd a Dŵr
- 2023 Tystysgrif BASIS mewn Nwyon Tŷ Gwydr, Newid yn yr Hinsawdd a Lliniaru Carbon
Awgrym /Dyfyniad
“Cyngor da / Dyfyniad Byddwch yn chwilfrydig a dysgwch beth sy’n cymell y cleient, ac yna gweithiwch gyda’r wybodaeth honno, gan ddefnyddio manylion perfformiad busnes, sy’n golygu rhywbeth iddynt. Yn bennaf oll, byddwch yn gyfeillgar, yn ddefnyddiol ac yn broffesiynol.”