Carregcynffyrdd – Diweddariad ar y Prosiect - Rhagfyr 2024
Beth sydd wedi cael ei wneud hyd yn hyn?
Perfformiad ŵyn
Yn dilyn y cyfnod ŵyna (Ebrill 2024), perfformiodd y mamogiaid yn dda ar y dietau a osodwyd gan gofnodi pwysau ŵyn 8 wythnos fel a ganlyn:
● Gefeilliaid- pwysau cyfartalog 8 wythnos o 17.71kg gyda chynnydd pwysau byw dyddiol (DLWG) cyfartalog o 0.235g/dydd.
● Ŵyn sengl- pwysau cyfartalog 8 wythnos o 22.97kg gyda chynnydd pwysau byw dyddiol (DLWG) cyfartalog o 0.324g/dydd.
Arbrawf reoli gan ddefnyddio dos o bropylen glycol
● Ym mis Hydref, cafodd 525 o ŵyn eu pwyso a chofnodwyd eu sgôr cyflwr corff (BCS).
● Roedd pwysau cyfartalog y grŵp yn 56.5kg gyda sgôr cyflwr corff cyfartalog o 3.2.
● Cafodd pob oen gyda thag odrif ei ddosio gyda 25ml o bropylen glycol.
Y Camau Nesaf?
Y cam nesaf yw adolygu’r data sganio ar gyfer 2025 yn ôl tag clust i ganfod a wnaeth y dos o bropylen glycol effeithio ar nifer yr ŵyn ac er mwyn paratoi dogn y famog feichiog.