Alan Armstrong

YNYS MÔN


Alan Armstrong yw swyddog datblygu Cyswllt Ffermio i Ynys Mon Mae’r cyn-athro mathemateg hwn a fagwyd ar fferm ei deulu, yn treulio’r rhan fwyaf o’i amser rhydd erbyn hyn yn helpu ei dad i reoli a datblygu fferm y teulu. Dros y blynyddoedd diwethaf, wedi’i ddylanwadu gan ei ddiddordeb mewn geneteg defaid ac mewn treialu systemau magu mwy effeithlon i wella lefelau elw, mae Alan wedi perswadio ei dad i werthu eu gwartheg eidion i gyd er mwyn canolbwyntio ar eu diadell o oddeutu 250-300 o famogiaid croes cyfandirol a phesgi 300 o ŵyn stôr, sy’n gwerthu mewn marchnadoedd lleol ar hyn o bryd.

Ar ôl graddio mewn mathemateg o Brifysgol Aberystwyth, aeth Alan yn ei flaen i wneud ymarfer dysgu ym Mhrifysgol Bangor, cyn cymryd ei swydd gyntaf fel athro mathemateg uwchradd yn Llanrwst gerllaw. Er ei fod yn cael y gwaith o addysgu’n wobrwyol, roedd Alan yn awyddus i ddychwelyd i’w wreiddiau naturiol a gweithio mewn amgylchedd amaethyddol. Ymunodd â phractis milfeddygon mawr lleol oedd hefyd â’i fferm ei hun, cyn symud ymlaen i gymryd rôl newydd fel cynghorwr iechyd anifeiliaid i gwmni cyflenwadau amaethyddol blaenllaw.

“Am fy mod yn deall ffigurau rwyf bob amser yn awyddus i annog ffermwyr i ganolbwyntio ar elw yn ogystal â pherfformiad.

“Gall Cyswllt Ffermio helpu busnesau ar y ddau gyfrif, a byddaf yn siarad o brofiad personol wrth hyrwyddo prosiectau megis cynllunio busnes, cynllunio i reoli maetholion a strategaethau pori, sy’n hanfodol bwysig i lwyddiant bob fferm.”

Mae Alan yn ymwelydd rheolaidd â marchnadoedd Rhuthun a Llanelwy, ac mae’n gobeithio y byddwch yn cysylltu os byddwch yn teimlo y gallai eich helpu gydag unrhyw heriau neu faterion sydd angen sylw. Mae’n arwain pum grŵp trafod a sefydlwyd gan ei ragflaenydd, lle mae’r ffocws ar gefnogi ffermwyr llaeth, eidion adefaid drwy rannu gwybodaeth a phrofiad.