Eryl P Roberts
MEIRIONNYDD
Eryl Roberts, neu Eryl P fel mae’n cael ei alw’n lleol, yw swyddog datblygu Cyswllt Ffermio yn ardal Meirionnydd.
Mae Eryl wedi bod yn ffermio Tŷ Mawr Eidda, Padog, Betws y Coed, fferm fynydd yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ers 1986, a hynny’n organig. Mae ganddo ddiadell o ddefaid mynydd Cymreig a buches fechan o wartheg sugno Dexter pedigri.
Mae Eryl yn llysgennad brwd dros Glastir, cynllun amgylcheddol Llywodraeth Cymru, ac mae’n dweud bod plannu a haenu gwrychoedd, ail adeiladu darnau hir o waliau cerrig, a gwella ffensys wedi ei gynorthwyo i reoli ei fferm mewn modd mwy effeithlon gan wella'r terfynau a chreu gwell cysgod ar gyfer y stoc.
Mae Eryl yn weithgar iawn yn ei gymuned leol. Mae wedi bod yn glerc i Gyngor Cymuned Ysbyty Ifan ers 23 mlynedd ac roedd yn un o’r aelodau a sefydlodd Clwb Rygbi Nant Conwy. Mae’n aelod o gyngor Coleg Glynllifon; Cyngor Cymru yn y Gyymdeithas Cŵn Defaid Rhyngwladol; yn ysgrifennydd Cymdeithas Tenantiaid yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol; cadeirydd Bugeiliaid Nant Conwy ac yn aelod o Fforwm Mynediad Lleol Parc Cenedlaethol Eryri. Mae hefyd yn awyddus i annog y genhedlaeth nesaf i ffermio trwy ei gysylltiad â CFfI Eryri.
"Mae fy swydd gyda Cyswllt Ffermio, ynghyd â fy mywyd prysur yn y gymuned yn rhoi digon o gyfle i mi siarad â ffermwyr yn fy ardal. Mae’n braf gwybod fy mod yn gallu helpu’n aml gyda materion neu bryderon posibl. Mae cymaint o gefnogaeth a chyngor ar gael yn ymwneud ag amrywiaeth eang o bynciau - o wella ansawdd y pridd ac iechyd anifeiliaid hyd at gynllunio ariannol a busnes.”
Mae Eryl, sy’n mynychu marchnadoedd Dolgellau a'r Bala yn rheolaidd, hefyd yn rhedeg grŵpiau trafod sydd yn cefnogi y sector ddefaid ac eidion yn Meirionydd.
07917 895 253