Mae cefn gwlad Cymru yn dapestri cyfoethog o’n hanes diwylliannol, gyda thirweddau sy’n cynnwys llawer o adeiladau, henebion ac arteffactau sy’n adrodd hanes Cymru ar hyd y canrifoedd. Mae’r asedau hanesyddol hyn yn gwneud y lleoedd rydyn ni’n byw ac yn gweithio ynddyn nhw’n arbennig, ac yn cyfrannu at ein cymunedau a’n hunaniaeth ddiwylliannol. Mae amgylchedd ac asedau hanesyddol Cymru hefyd yn atyniad enfawr i dwristiaid – mae atyniadau treftadaeth Cymru yn cynhyrchu tua £1.72 biliwn y flwyddyn ac yn cynrychioli bron i 3% o holl swyddi Cymru. Mae safleoedd hanesyddol o’r fath yn cefnogi llesiant economaidd a chymdeithasol Cymru, sy’n gwneud eu cadw a’u gwella yn bwysicach byth.

Er bod rhai asedau hanesyddol wedi'u lleoli mewn ardaloedd trefol, gwlad wledig yw Cymru yn bennaf, felly mae llawer ohonyn nhw i’w darganfod ar dir fferm. Mae hyn yn golygu mai’r ffermwyr sy'n gyfrifol am eu cadw a'u rheoli. Mae ffermwyr yn cael eu hannog i ymgymryd â gwaith rheoli rheolaidd a gwaith cadwraeth syml ar unrhyw asedau hanesyddol sydd ar eu heiddo, gan ddilyn yr egwyddor ‘osgoi difrodi’. Bydd y modiwl hwn yn rhoi cyflwyniad i fathau o safleoedd sy’n cynnwys asedau ac enghreifftiau o strategaethau rheoli a chadwraeth. Byddwn hefyd yn rhestru dolenni i'r rheolau a'r ddeddfwriaeth briodol sy'n ymwneud â rheoli asedau hanesyddol yng Nghymru.


Sgiliau a Hyfforddiant Cysylltiedig

New e-learning Modules of the Month
Horticulture E-learning modules for SFS
Ydych chi’n fusnes garddwriaethol? Gall Cyswllt Ffermio eich
Ffermio Cydweithredol ac ar y Cyd
Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno a chymharu sawl trefniant gweithio