Pys a ffa crimp fel ffynhonnell o brotein ar gyfer mamogiaid cyfeb

Gallwch ddefnyddio pys a ffa fel rhan o ddietau anifeiliaid sy’n cnoi cil, a hynny fel ffynhonnell ddefnyddiol o egni a phrotein. Mae pys a ffa ar gyfartaledd yn cynnwys tua 26% o brotein yn y deunydd sych. Mae'r ddau yn cynnwys llawer o egni, gan gynnwys 13.6 i 14 MJ/kgDM ac yn darparu ffynhonnell wych o startsh hefyd. At ddibenion yr arbrawf hwn, prynwyd pys a ffa crimp o fferm arall.   

Beth gafodd ei wneud

Dewiswyd 180 o famogiaid o’r ddiadell a dyrannwyd chwe grŵp o tua 30 o famogiaid sy’n efeilliaid i un o ddwy driniaeth ddietegol:

  1. Diet safonol – TMR yn seiliedig ar silwair glaswellt, india-corn a dwysfwyd protein crai (50%).
  2. Pys a ffa – TMR yn seiliedig ar silwair glaswellt, india-corn a phys a ffa crimp. 

Cafodd tri grŵp o 30 o famogiaid eu neilltuo ar gyfer pob triniaeth ac fe gawson nhw eu rhoi ar bob pen o’r un sied.

Cafodd y rhan fwyaf o'r mamogiaid a'r ŵyn eu troi allan i laswellt o fewn 36 awr i ŵyna. Roedd yr holl ddefaid yn pori ar yr un caeau. Roedd y tywydd yn heriol trwy gydol y cyfnod ŵyna ac yn gynnar yn y cyfnod llaetha. Cafwyd sawl diwrnod gwlyb ac oer gyda llawer o ŵyn yn dioddef o glwy’r cymalau. 

Dognau TMR

Cafodd y silwair, pys a ffa eu dadansoddi er mwyn ffurfio'r dietau isod ar gyfer y ddau grŵp. Cynlluniwyd dietau i ddarparu'r un faint o Egni Metaboladwy a Phrotein Metaboladwy.

Diet TMR – Safonol

Diet safonol

 

Wythnosau cyn wyna

 

Kg/pen/diwrnod

7

5

3

1

Gefeilliaid

Silwair

4.7

4.7

4.7

4.5

 

Indrawn

0.15

0.15

0.3

0.5

 

Agrii Combi pro (50% CP)

0.10

0.15

0.15

0.15

Diet TMR – pys a ffa

Pys a ffa

 

Wythnosau cyn wyna

 

Kg/pen/diwrnod

7

5

3

1

Gefeilliaid

Silwair

4.7

4.7

4.7

4.5

 

Indrawn

0.15

0.15

0.15

0.35

 

Pys/ffa

0.15

0.25

0.30

0.30

 

Agrii Superstock 40

-

0.03

0.05

0.05

Roedd mamogiaid yn derbyn 25g o fwyn y pen/diwrnod ar y ddau ddiet.  

Cyfanswm cost amcangyfrifedig y porthiant fesul mamog am y saith wythnos cyn ŵyna oedd £14.25 ar y diet safonol, a £13.90 ar y dogn o bys a ffa.   

Perfformiad anifeiliaid

Dechreuodd y cyfnod ŵyna ar 5 Mawrth 2024. Roedd yr holl ddarlleniadau colostrwm Brix a gymerwyd ar gyfer y ddau grŵp yn uwch na’r lefel a argymhellir o 26.

Enillion pwysau byw (DLWG) ar gyfer pob oen sy'n cael ei fagu hyd at 10 i 13 wythnos

 

Diet safonol

Pys a ffa

DLWG (g/diwrnod) pob oen

0.234

(n=145)

0.275

(n=121)

DLWG (g/diwrnod) ŵyn benyw

0.248

(n=84)

0.274

(n=65)

DLWG (g/dydd) ŵyn hwrdd 

0.253

(n=61)

0.283

(n=56)

Roedd cryn wahaniaeth yn y DLWG rhwng y triniaethau, gydag ŵyn oedd yn perthyn i famau a oedd yn cael eu bwydo â phys a ffa, yn hytrach na’r cymysgedd dwysfwyd safonol, yn tyfu tua 40g/dydd yn gyflymach. 

Casgliadau

Mae’r arbrawf peilot hwn wedi dangos bod modd defnyddio pys a ffa crimp yn llwyddiannus mewn dietau TMR ar gyfer mamogiaid cyfeb, gan ennill DLWG o tua 40g DLWG/oen y dydd. Mae hyn yn gyfystyr â phwysau ychwanegol o tua 2.8 kg o bwysau byw (kgLW) dros 10 wythnos, sydd yn ôl prisiau cyfredol (SQQ o 654.50c/kgDW 7/9/24) yn werth £8.61. Mae’r ŵyn hyn hefyd yn gadael y fferm yn gynharach ac yn rhyddhau porfa i famogiaid. 

Pys a ffa crimp

 

 

Un criw o'r mamogiaid yn y sied