Gwen Price

BRYCHEINIOG


Gwen Price, a fagwyd ar fferm bîff a defaid y teulu yn Llangadog, Sir Gaerfyrddin, yw swyddog datblygu Cyswllt Ffermio ar gyfer Sir Frycheiniog.

Ers canol ei harddegau, mae Gwen wedi cyfuno agweddau busnes ac ymarferol ffermio ag astudiaethau academaidd, gan ennill graddau BSc (Anrhydedd) a MRres (Meistr Ymchwil) mewn amaethyddiaeth.

Mae Gwen yn ymwneud yn sylweddol â busnes y teulu, ond mae hi hefyd yn cadw ei diadell ei hun, sy’n cynnwys 185 o ddefaid Suffolk a Phenfrith, ar fân-ddaliad cyfagos y mae hi wedi’i rentu.

Mae Gwen yn un o alumni Rhaglen Busnes ac Arloesi Cyswllt Ffermio, ac yn un o enillwyr blaenorol categori ‘dan 40 oed’ gwobrau Dysgwr y Flwyddyn Lantra Cymru.

Dywed fod gwneud defnydd o’r ystod gynhwysfawr o wasanaethau a ddarperir gan Cyswllt Ffermio yn hanfodol wrth i’r diwydiant gynllunio at ddyfodol oddi allan i’r UE.

“Mae fy rôl gyda Chyswllt Ffermio yn cynnig cyfle perffaith i mi hyrwyddo’r holl wasanaethau sydd ar gael, a rhannu, o lygad y ffynnon, sut gwnes i elwa’n flaenorol o’r hyfforddiant busnes wedi’i gymorthdalu, a oedd yn brofiad amhrisiadwy i mi.

“Mae gennyf ddiddordeb penodol mewn helpu’r ffermwyr y byddaf yn cwrdd â hwy i gyflawni eu potensial, fel unigolion ac o ran datblygiad eu busnes, a bydd fy meysydd diddordeb allweddol yn cynnwys eu cyfeirio at wasanaethau a all eu helpu i gynllunio’r gwaith o reoli maetholion a gwella perfformiad anifeiliaid.

Mae Gwen yn credu fod llawer o deuluoedd ffermio traddodiadol yn amharod i sefydlu dulliau newydd o weithio a thechnolegau newydd, er y byddant yn aml yn cydnabod fod hynny’n synhwyrol iawn o safbwynt masnachol.

“Rwy’n gwybod o brofiad y gall gweithredu newidiadau syml iawn wneud gwahaniaethau enfawr, a gall Cyswllt Ffermio eich helpu yn ystod pob cam o’r daith.”

Mae Gwen hefyd yn awyddus i annog teuluoedd cymwys i ystyried ceisio cymorth trwy raglenni, megis rhaglen mentora un i un ‘Menter’, sy’n helpu i baru darpar bartneriaid busnes, a chynllunio olyniaeth, sy’n annog ac yn cynorthwyo teuluoedd i gynllunio at y dyfodol.