Lower House Farm Diweddariad ar y prosiect – Terfynol

Edrych ar y dulliau gorau ar gyfer sefydlu menter garddwriaeth casglu pwmpenni eich hun.

 

Prif ganlyniadau

 

  • Mae arallgyfeirio i fenter Casglu Pwmpenni eich hun wedi bod yn fuddsoddiad gwerth chweil ac yn llwyddiant ariannol. Bydd yn dod yn rhan barhaol o fodel busnes y fferm at y dyfodol.
  • Cafwyd manteision ac anfanteision o ran drilio uniongyrchol o’i gymharu ag archebu planhigion ifanc. O safbwynt ariannol, roedd yr hadau’n well dewis, ond fe wnaeth y planhigion ifanc sefydlu’n dda a llwyddo i gystadlu’n fwy effeithiol yn erbyn y chwyn.
  • Roedd y model ariannol o godi ffi ar ymwelwyr fesul car a fesul pwmpen yn cynnig buddion i’r ffermwr ac i’r ymwelwyr. Mae ychwanegu gwerth gyda gwasanaeth arlwyo a chynnwys gweithgareddau ychwanegol am ddim wedi creu atyniad llwyddiannus i dwristiaid yn seiliedig ar arddwriaeth. 

Cefndir

Mae Lower House Farm yn ymestyn dros 114 erw ar waelod Bryniau Coed Gwent yn Llanfair Isgoed, Sir Fynwy. Arferai fod yn fferm laeth, ond mae bellach yn caei defnyddio ar gyfer cymysgedd o dda byw – magu lloi a mamogiaid bridio gan fwyaf. Mae’r fferm sy’n eiddo i Gyngor Sir Fynwy yn cael ei rhedeg a'i rheoli gan Laura Pollock a Matt Brooks, newydd-ddyfodiaid sy'n ceisio arallgyfeirio'r busnes i nifer o wahanol gyfeiriadau. Yn ogystal â'r uchod, mae ganddyn nhw anifeiliaid eraill, gan gynnwys gwartheg yr Ucheldir, gwartheg Belted Galloway, geifr, defaid, ieir a moch. Defnyddir y rhain ar gyfer gweithgarwch lleol a digwyddiadau addysgol a gynhelir ar y fferm i wella ymwybyddiaeth a gwerthfawrogiad pobl am amaethyddiaeth a chynhyrchu bwyd yng Nghymru.

Fel menter arallgyfeirio ychwanegol, neilltuodd Lower House Farm ardal o 1.5 erw i dreialu menter casglu pwmpenni eich hun ar gyfer y tymor hwn. Bu’r arbrawf yn cymharu gwahanol ddulliau o luosogi’r planhigion yn erbyn llwyddiant y planhigion i sefydlu, treialu gwahanol amrywiaethau o bwmpenni a gwrdiau, ac archwilio twristiaeth â gwerth ychwanegol ar gyfer diwrnodau agored ar y fferm. 
 

Yr hyn a wnaed

Mae’r tri gwahanol ddull o luosogi planhigion a ddefnyddiwyd yn yr arbrawf hwn yn cynnwys drilio uniongyrchol, plannu planhigion ifanc a lluosogi hadau mewn modiwlau i’w plannu allan.

Daeth y planhigion ifanc organig o blanhigfa Delfland Nurseries ac roedd yr amrywiaethau’n cynnwys:

  • Jack o lantern
  • Atlantic giant
  • Ghost
  • Goosebumps
  • Wicked F1

Roedd 11 pecyn yn cynnwys 1144 o blanhigion yn costio £528 gan gynnwys cludiant. Mae planhigion gwrdiau a phwmpenni’n dod mewn pecyn o 104 o blanhigion, ac mae o leiaf 96 ohonynt yn ddefnyddiadwy.

Daeth yr hadau o gwmniau Tamar Organics a Mole Seeds. Dyma’r amrywiaethau:

  • Black futsu
  • Hungarian Blue
  • Leckor
  • Red Kuri
  • Musquee de provence
  • Sweet dumpling
  • Jack be little
  • Jack o Lantern
  • Polar Bear
  • Crown Prince
  • Knuckle Head
  • Atlantic Giant
  • Autumn Crown
  • Harvest Moon
  • Chucky
  • Casperita

Roedd yr hadau’n costio £3716.91 am 5144 o hadau.

Heuwyd cymysgedd o 600 o hadau â llaw i fodiwlau gan ddefnyddio hambyrddau modiwl a chompost Fertile Fibre. Nid oedd gan y ffermwr dwnnel polythen, felly cafodd yr hambyrddau hadau eu cadw mewn sied i flaguro ac i’w cadw’n gynnes cyn eu symud i leoliad gyda mwy olau. Cafodd y rhain eu plannu yn yr awyr agored 5 wythnos yn ddiweddarach.

Cafodd India corn ei hau o amgylch safle’r pwmpenni i greu ‘drysfa’ fel rhan o’r atyniad ymwelwyr. Cafodd hadau blodau gwyllt hefyd eu gwasgaru o amgylch y safle i annog peillwyr a phryfed llesol.

Dyddiadau allweddol

3 Mai

Hau’r hadau i fodiwlau

8 Mai

Aredig y cae casglu pwmpenni eich hun a defnyddio oged a phŵer

21 Mai

Cafodd hadau gwrdiau a phwmpenni eu drilio’n uniongyrchol gan gontractwr. Cafodd yr India corn yn y cae cyfagos hefyd ei ddrilio

22 Mai

Dechreuwyd plannu planhigion ifanc o Delfland yn y cae â llaw

5 Mehefin

Cafodd y planhigion a luosogwyd ar y fferm eu plannu yn y cae

15 – 29 Medi

Cynaeafu

Paratoi’r tir

Roedd y cae wedi’i gywasgu’n sylweddol gan geffylau dros fisoedd y gaeaf. Felly, er mwyn paratoi’r tir ar gyfer plannu, daeth contractwr i mewn i aredig a defnyddio oged â phŵer. Penderfynwyd oedi’r gwaith o baratoi’r cae o ganlyniad i dywydd gwlyb.

Plannu

Cafodd y planhigion eu plannu (a cafodd yr hadau eu drilio) ar hap i greu amrywiaeth ar draws y cae i’w wneud yn fwy deniadol i ymwelwyr ar y diwrnodau agored.
  
Dyfrhau

Yn dilyn gwanwyn oer a gwlyb, cafwyd cyfnod sych i gyd-fynd â’r cyfnod plannu, felly roedd angen dyfrhau i helpu’r planhigion i sefydlu. Defnyddiodd y ffermwyr system bibellau dŵr i ddyfrhau’r planhigion, ac er ei fod yn effeithiol, roedd yn ddwys iawn o ran amser. Ar ôl cyfnod sych o 4 wythnos, dychwelodd y tywydd gwlyb a mwyn.

Twristiaeth

Agorodd y fferm i’r cyhoedd am 12 diwrnod dros 3 wythnos gan ddechrau ar 12 Hydref. Roedd hyn yn cynnwys penwythnosau a hanner tymor. Sefydlwyd system archebu ar-lein gydag amseroedd penodol er mwyn rheoli nifer y bobl ar y fferm. Y gost ar gyfer mynediad oedd £9 fesul car. Yn ogystal â chasglu pwmpenni, sefydlwyd gweithgareddau deniadol eraill ar draws y fferm ac roedd faniau bwyd poeth a choffi ar gael i ddarparu lluniaeth. Roedd pris pwmpenni oren ‘safonol’ yn cael ei bennu yn ôl pwysau ac roedd pris y pwmpenni anarferol yn cael ei bennu yn ôl pwysau +£1.

Canlyniadau

Tyfwyd oddeutu 2500 o bwmpenni. O ganlyniad i’r tywydd gwlyb a mwyn, ni lwyddodd pob un o’r pwmpenni mwyaf i gyrraedd llawn dwf. Felly, prynwyd pwmpenni mawr ychwanegol gan dyfwr pwmpenni lleol i ategu at y gwrdiau a’r pwmpenni a dyfwyd ganddynt ar y fferm.

Roedd hadau’n llawer rhatach na phrynu planhigion, fodd bynnag, roedd y planhigion ifanc yn sefydlu’n llawer mwy dibynadwy, yn enwedig yn y misoedd cyntaf. Yn ystod y cyfnod sych, roedd y planhigion ifanc yn fwy gwydn ac roedd y tywydd a’r chwyn yn effeithio llai arnynt.

Chwyn oedd y broblem fwyaf yn ystod yr arbrawf. Ysgall oedd y chwyn fwyaf amlwg yn y cae, ac o ganlyniad i’r tywydd mwyn a llaith, llwyddodd y chwyn i gystadlu’n well na’r planhigion llai (a oedd wedi’u drilio’n uniongyrchol). Llogwyd peiriant chwynnu ar gyfer y tractor, ond roedd cyfyngiadau o ganlyniad i’r ffordd yr oedd y planhigion wedi’u plannu. Yn dilyn asesiad tua diwedd yr arbrawf, penderfynwyd casglu’r holl bwmpenni o’r cae cyn agor i’r cyhoedd. Roedd hyn yn rhannol gan fod yr ysgall yn ei gwneud yn anodd i gerdded drwy’r cae, yn ogystal â’r ffaith bod y cae mor wlyb nes bod rhai o’r pwmpenni wedi dechrau pydru. Collwyd oddeutu 200 o bwmpenni. Casglodd y ffermwyr bob un o’r pwmpenni â llaw a’u symud i sied. Yna cafodd y cae ei docio cyn gosod y pwmpenni yn ôl ar gyfer y cyhoedd. Roedd y broses yn llawer o waith ac yn cymryd llawer o amser.

Canlyniadau ariannol

Costau
Sefydlu’r arbrawf pwmpenni - £2,297 (gan gynnwys hadau, planhigion, dyfrhau, contractwyr a chyngor proffesiynol)
Costau arlwyo ar gyfer y diwrnodau agored - £2,100
 
Refeniw
Gwerthiannau tocynnau casglu pwmpenni - £5,630 (£9 fesul car)
Gwerthiannau pwmpenni - £12,000
Refeniw arlwyo - £4,000 (mochyn rhost, byrgyrs, selsig, fan goffi)

Elw
£17,330

Arsylwadau a gwersi a ddysgwyd

  • Cynnyrch da ar y cyfan am y flwyddyn er gwaetha’r tywydd gwael, anawsterau i reoli chwyn a gweithio gyda’r planhigion am y tro cyntaf.
  • Roedd plannu â llaw yn cymryd llawer o amser, ac yn y dyfodol byddai’r ffermwr yn ystyried defnyddio contractwr neu logi peiriannau i blannu’n fecanyddol.
    O ran dyfrhau, byddai system ysgeintio yn well ar gyfer maint y fenter yn hytrach na defnyddio pibell.
  • Bydd y planhigion yn cael eu plannu mewn blociau o amrywiaethau’r flwyddyn nesaf, ac yn cynnwys llwybrau sy’n addas ar gyfer ymwelwyr a’r tractor. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws i reoli’r cae.
  • Mae gwaredu chwyn o’r gwely hadau yn hanfodol ar gyfer y tymor nesaf fel na fyddant yn profi’r baich chwyn a gafwyd eleni.
  • Tyfodd y rhan fwyaf o amrywiaethau’n dda, ac roedd sicrhau digon o ddewis yn fuddiol iawn i’r ymwelwyr. Po fwyaf anarferol a diddorol yr amrywiaeth, y mwyaf poblogaidd oedd y rhain ymysg ymwelwyr.
  • Roedd codi ffi fesul car ac ar gyfer pwmpenni’n rhoi dewis i’r ymwelwyr gan ddibynnu ar yr hyn yr oeddent yn gallu ei fforddio. Roedd codi ffi fesul car yn sicrhau incwm i’r ffermwr, ac nid oedd unrhyw bwysau i brynu pwmpenni ar ôl cyrraedd y fferm. Roedd digonedd o weithgareddau am ddim a chyfleoedd i dynnu lluniau, ac roedd gwerth ychwanegol y gwasanaeth arlwyo’n cynnig incwm ychwanegol.