Mae storfeydd oer ac oergelloedd yn hollbwysig i amaeth heddiw, gan alluogi ffermwyr i gadw cynnyrch am gyfnodau hirach trwy drosglwyddo gwres yn effeithlon. Trwy wneud y mwyaf o’r cylch oeri, mae systemau'n defnyddio oeryddion (refrigerants). Mae gan y rhain briodweddau thermodynamig penodol i symud gwres o fan oer i fan poeth. Mae'r broses hon yn chwarae rhan bwysig yn y defnydd cyffredinol o ynni.
Mae'r modiwl hwn yn cynnig i chi drosolwg o arferion gorau i’w dilyn a ffyrdd o wella effeithlonrwydd mewn perthynas ag oergelloedd a storfeydd oer. Bydd hyn yn sicrhau bod pethau’n rhedeg yn gynaliadwy ac yn gosteffeithiol ar eich fferm.


Sgiliau a Hyfforddiant Cysylltiedig

New e-learning Modules of the Month
Adnoddau Dynol ar y Fferm
Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno rhai canllawiau a chyngor ymarferol
Pigo Niweidiol Mewn Dofednod Dodwy
Mae'r modiwl hwn yn edrych ar achosion a dulliau o atal pigo