Dylasau uchaf Diweddariad prosiect – Terfynol

Prif ganlyniadau:

  • Gwelwyd gwelliannau o ran pwysau ŵyn ar enedigaeth a dwysedd colostrwm o ganlyniad i fwydo silwair o ansawdd uwch cyn ŵyna.
  • Ni nodwyd unrhyw achosion o glefydau newydd-anedig (e.e. dolur rhydd, heintiau’r bogail).

Cefndir: 

Mae Dylasau Uchaf yn fferm ucheldir 300 erw sy’n cadw 800 o famogiaid a 175 o wartheg. Roedd y fferm yn anelu at wella perfformiad ŵyna, canolbwyntio ar sicrhau’r pwysau gorau posibl ar gyfer ŵyn a lleihau cyfraddau marwolaeth drwy reoli iechyd a maeth, gan wneud y defnydd gorau o borthiant wedi’i silweirio.

Diben y gwaith:

  • Gwella’r defnydd o borthiant wedi’i silweirio er mwyn lleihau faint o fewnbynnau ychwanegol a brynir i mewn, gan hefyd wella pwysau ŵyn a lleihau cyfraddau marwolaeth.
  • Rheoli cyflwr corff mamogiaid, parasitiaid a chlefydau heintus i sicrhau’r canlyniadau gorau wrth ŵyna.
  • Gwella ansawdd colostrwm a phwysau ŵyn ar enedigaeth drwy fwydo silwair o ansawdd uwch cyn ŵyna.

Yr hyn a wnaed:

  • Rheoli cyflwr corff mamogiaid cyn hyrdda i sgôr o 3.5-3.0 ac i 2.5-3.0 cyn ŵyna.
  • Cynnal profion cyfrif wyau ysgarthol strategol a thriniaethau llyngyr a llyngyr yr iau wedi’u targedu.
  • Brechu rhag clefydau clostridiol a phasteurellosis, a chynnal profion ar gyfer tocsoplasma gondii. 
  • Dadansoddi silwair a thargedu porthiant o ansawdd uwch ar gyfer mamogiaid sy’n cario gefeilliaid.
  • Ychwanegu dwysfwyd masnachol yn seiliedig ar broffiliau gwaed metabolig a oedd yn nodi bylchau o ran protein.
  • Monitro ansawdd colostrwm gan ddefnyddio reffractomedr Brix a phwysau ŵyn ar enedigaeth.

Canlyniadau:

  • Ni welwyd unrhyw arwyddion o getosis na chlefydau newydd-anedig megis dolur rhydd, clwy’r cymalau na cheg ddyfrllyd yn 2024.
  • Roedd pwysau ŵyn yn y grwpiau gyda chymhareb ME/CP uwch yn y silwair (11.5/13.7) yn uwch. Er enghraifft: Ŵyn unigol mewn cyflwr da yn pwyso 4.67kg a gefeilliaid mewn cyflwr da yn pwyso 4.28kg.
  • Roedd pwysau ŵyn yn y grwpiau gyda chymhareb ME/CP is yn y silwair (10.4/11) ychydig yn is. Roedd gefeilliaid mewn cyflwr da yn pwyso 3.71kg. 
  • Mae cymarebau ME/CP uwch yn y silwair hefyd yn gysylltiedig ag ansawdd colostrwm uwch: Roedd darlleniad Brix colostrwm mamogiaid sy’n cario gefeilliaid mewn cyflwr da yn 41% gyda’r gymhareb silwair uwch.
  • Mae cymarebau ME/CP is yn y silwair yn arwain at golostrwm o ansawdd is: Roedd darlleniad Brix colostrwm mamogiaid sy’n cario gefeilliaid mewn cyflwr da yn 32% gyda’r gymhareb is.
  • Mae bwydo dwysfwyd yn agosach at ŵyna (e.e. 0/3 kg wythnos cyn ŵyna) yn cefnogi gwell pwysau ac ansawdd colostrwm: 0.3 kg o ddwysfwyd yn arwain at ŵyn 4.28 kg a cholostrwm gyda darlleniad Brix o 41%.
  • Mae bwydo llai o ddwysfwyd yn gysylltiedig ag ŵyn ysgafnach ac ansawdd colostrwm: 0.15 kg o ddwysfwyd yn arwain at ŵyn 3.71 kg a cholostrwm gyda darlleniad Brix o 32%.
  • Er bod bwydo dwysfwyd yn cynyddu pwysau ŵyn ac ansawdd colostrwm, mae cymarebau ME/CP uwch yn y silwair yn cael effaith fwy arwyddocaol.

 

Tabl 1: Hanes bwydo gwahanol grwpiau o ddefaid a’u canlyniadau brix colostrwm cymedrig cysylltiedig, a chanlyniadau pwysau ŵyn.

Grŵp

ME/CP cyfartalog silwair

Dwysfwyd 3 wythnos cyn ŵyna

Dwysfwyd 1 wythnos cyn ŵyna

% gyfartalog brix y colostrwm

Pwysau cyfartalog yr ŵyn

Defaid sy’n cario 1 oen a gefeilliaid â chyflwr corff teneuach

11.5/13.7

0.3 Kg

0.3 Kg

37%

3.57 Kg

Defaid sy’n cario gefeilliaid mewn cyflwr da

11.5/13.7

0.15 Kg

0.3 Kg

41%

4.28 Kg

Defaid sy’n cario gefeilliaid mewn cyflwr da

10.4/11

0.35 Kg

0.6 Kg

32%

3.71 Kg

Defaid sy’n cario un oen mewn cyflwr da

11.5/13.7

0 Kg

0.2 Kg

35%

4.67 Kg

 

Sut i’w roi ar waith ar eich fferm:

  • Monitro a rheoli cyflwr corff mamogiaid drwy ddefnyddio system sgorio cyflwr safonol.
  • Dadansoddi porthiant i ganfod ansawdd a thargedu bwyd ar gyfer mamogiaid gan ddibynnu ar gyflwr y corff, mamogiaid sy’n cario mwy nag un oen a chyfnod beichiogrwydd. Ychwanegu dwysfwyd i gau bylchau egni a phrotein yn ôl yr angen.
  • Profi ar gyfer heintiau parasitig (e.e. llyngyr yr iau) a brechu rhag clefydau cyffredin.
  • Defnyddio offer megis reffractomedr Brix i fonitro ansawdd colostrwm a darparu ychwanegion lle bo angen.