Treathro – Diweddariad Terfynol

Prif ganlyniadau:

Gwelwyd y lefel isaf o weithgarwch pryfed genwair ar y cae heb ei bori (heblaw gan ferlod), ond y cae hwn oedd â’r sgôr uchaf o ran strwythur y pridd yn dilyn Gwerthusiad Gweledol o Strwythur y Pridd (VESS) a’r stoc garbon (10cm uchaf). 

Diben y gwaith:

  • Cymharu bioleg pridd gwahanol arferion rheoli, gan gynnwys porfa barhaol, ardaloedd heb eu pori, caeau silwair a gwndwn llysieuol gan drin y tir cyn lleied â phosibl.
  • Ymchwilio i effaith yr arferion rheoli hyn ar gywasgiad pridd ac asesiad gweledol, microbioleg y pridd, presenoldeb pryfed genwair, pryfed a rhywogaethau peillio (yn enwedig chwilod y dom) a chyfansoddiad rhywogaethau porthiant.

Yr hyn a wnaed:

  • Cymharu bioleg pridd gwahanol arferion rheoli, gan gynnwys porfa barhaol, ardaloedd heb eu pori, caeau silwair a gwndwn llysieuol gan drin y tir cyn lleied â phosibl.
  • Ymchwilio i effaith yr arferion rheoli hyn ar gywasgiad pridd ac asesiad gweledol, microbioleg y pridd, presenoldeb pryfed genwair, pryfed a rhywogaethau peillio (yn enwedig chwilod y dom) a chyfansoddiad rhywogaethau porthiant.
     

Yr hyn a wnaed:

Cafodd priddoedd gyda phedwar gwahanol fath o arferion rheoli eu hasesu o safbwynt iechyd y pridd ym mis Mawrth. Roedd y pedwar arfer rheoli gwahanol fel a ganlyn: -

  • Porfa barhaol wedi’i bori ar system gylchdro
  • Caeau’n cael eu pori gan ychydig o ferlod yn unig (ardal arfordirol/clogwyn wedi’i ddominyddu gan redyn, grug ac eithin)
  • Rhygwellt a meillion gwyn gyda chyfran sylweddol o rywogaethau glaswellt eraill yn cael ei reoli ar gyfer gwywair
  • Porfa barhaol gyda gwndwn llysieuol wedi hau mewn holltau 

     

Ffigur 1. Map o Fferm Treathro

Ailadroddwyd dull samplu Prosiect Pridd Cymru ar gyfer asesu iechyd y pridd, gan gymryd tri sampl o ddyfnder o 0-50cm. Yn ogystal, cynhaliwyd gwerthusiad gweledol o strwythur y pridd (VESS) ac arolwg pryfed genwair ar bob llain. Mae gwerthusiad gweledol o strwythur y pridd yn rhoi sgôr ar gyfer strwythur y pridd, a’r nod yw ei fod yn asesiad syml y gall y ffermwr ei gwblhau yn y cae. Cloddiwyd tri thwll ar draws pob un o’r tri chae, a thynnwyd bloc o bridd 20 x 20 x 20cm o bridd. Os nad oedd modd palu i lawr i 20cm, gwnaed nodyn o hynny. Ym mhob un o’r caeau, cynhaliwyd asesiad hefyd ger y gwrych.

Mae manylion am sut i gwblhau gwerthusiad gweledol o strwythur y pridd (VESS) ar gael yn y canllaw hwn - Sut i asesu strwythur y pridd

Cynhaliwyd arolwg rhywogaethau Plantlife ar ddiwedd mis Ebrill gan Shenna Duller a Brynony Jenkins i edrych ar y cynefin ar fferm Treathro ac i greu rhestr lawn o rywogaethau. Ym mis Hydref, cynhaliwyd gwerthusiad gweledol arall o strwythur y pridd ac arolwg o bryfed genwair i ddilyn y gwaith samplu pridd cychwynnol ar bob llain.
 

Canlyniadau: 

Stoc garbon y pridd

Mae stoc garbon gyfartalog y pridd (t/ha) ar bob dyfnder samplu ym mhob cae a gwrychyn i’w weld yn Nhabl 1 isod. Byddai modd priodoli stoc garbon uchel y pridd yn y 10cm uchaf yng Nghae 2 i’r rhedyn sy’n dadelfennu ar ddiwedd pob tymor. Roedd y pridd yma’n sych iawn ac yn friwsionllyd er gwaetha’r glaw dros nos cyn yr asesiad.

Tabl 1. Canlyniadau samplau pridd mewn gwahanol gaeau ar wahanol ddyfnder. 

Dyfnder y pridd (cm)

Rhif cae/gwrych

 

1

H1

2

H2

3

H3

4

H4

0-10

51.0

39.1

62.2

ND

45.7

35.5

41.7

52.8

10-30

52.0

45.9

47.3

ND

53.4

37.5

52.4

46.00

30-50

38.5

38.1

26.6

ND

60.9

ND

26.0

28.1

ND= dim data, lle nad oedd modd casglu sampl pridd cynrychioladol.

Arolwg Bioamrywiaeth

Roedd arolwg Rhywogaethau Plantlife (ar gael ar gais) yn adrodd bod fferm Treathro yn cefnogi amrywiaeth gyfoethog o gynefinoedd a rhywogaethau. Dangosodd fod y priddoedd mewn cyflwr da ar y cyfan, a’r gyfres Malvern oedd y prif fath o bridd. Roedd lefelau pH yn amrywio ar draws y safleoedd, gan awgrymu gwasgariadau calch yn y gorffennol mewn rhai ardaloedd. Dangosodd yr arolwg amrywiaeth eang o rywogaethau planhigion ar y fferm, gan gynnwys glaswelltau amrywiol, blodau gwyllt a rhedyn. Roedd cyfansoddiad y rhywogaethau’n amrywio rhwng y caeau a’r SoDdGA ar ben y clogwyn, gan adlewyrchu amrywiaethau mewn amodau pridd ac arferion rheoli.

Gwerthusiad gweledol o strwythur y pridd

Gellir gweld canlyniadau’r gwerthusiad gweledol o strwythur y pridd ar gyfer y ddau asesiad yn nhabl 2 a thabl 3 isod. Roedd cywasgu arwynebol yn nodwedd yng nghae 4. Nid yw hyn yn syndod o ystyried y tymor gwlyb a’r ffaith bod y caeau’n cael eu pori gan wartheg. Gwelwyd cywasgiad hefyd yng nghaeau 1 a 3, ac mae’r priddoedd yn gymharol fas, ond er hyn, roeddent yn draenio’n rhydd ar y cyfan. Gallai sefydlu gwndwn llysieuol a defnyddio system bori cylchdro gyda chyfnodau hir o orffwys fod o fudd mawr i strwythur y pridd i adfer a lliniaru cywasgiad arwynebol.

Tabl 2. VESS Mawrth 2024

Cae 1

Sgôr VESS 

 

Cae 2

Sgôr VESS

 

Cae 3

Sgôr VESS

 

Cae 4

Sgôr VESS

Parth 1

4

 

Parth 1

1

 

Parth 1

3

 

Parth 1

3

Parth 2

4

 

Parth 2

1

 

Parth 2

3

 

Parth 2

3

Parth 3

4

 

Parth 3

1

 

Parth 3

3

 

Parth 3

3

Gwrych

3

 

Gwrychyn

Amherthnasol

 

Gwrych

2

 

Gwrych

3

Tabl 3. VESS Hydref 2024

Cae 1

Sgôr VESS 

 

Cae 2

Sgôr VESS

 

Cae 3

Sgôr VESS

 

Cae 4

Sgôr VESS

Parth 1

2

 

Parth 1

1

 

Parth 1

2

 

Parth 1

Uchaf:3 Isaf:1

Parth 2

Uchaf: 3 Isaf:2

 

Parth 2

1

 

Parth 2

Uchaf:3 Isaf:1

 

Parth 2

Uchaf:3 Isaf:1

Parth 3

Uchaf: 3 Isaf:1

 

Parth 3

1

 

Parth 3

Uchaf:2 Isaf:1

 

Parth 3

Uchaf:3 Isaf:2

Gwrychyn

Uchaf:3  Isaf:2

 

Gwrychyn

N/A

 

Gwrychyn

1

 

Gwrychyn

1

Microbioleg y pridd a phryfed genwair

Cafodd microbioleg y pridd a phryfed genwair eu hasesu ar fferm Treathro. Gwelwyd fod lefelau bacteria yn y pridd yn ddominyddol iawn a byddai’n braf gweld mwy o ffyngau. Mae’n bwysig cofio bod adeiladu iechyd y pridd yn cymryd amser, a gallai gymryd sawl blwyddyn i weld unrhyw newidiadau.

Cloddiwyd tyllau 20cm x 20cm x 20cm i edrych ar niferoedd pryfed genwair ym mis Mawrth 2024 a mis Hydref 2024, gweler y canlyniadau yn Ffigur 2. Cafodd nifer y pryfed genwair eu cyfrif gan nodi’r cyfanswm (pryfed genwair ifanc a llawn dwf) yn ogystal â nifer y pryfed genwair llawn dwf sy’n gallu atgynhyrchu. Cafodd y pryfed genwair eu categoreiddio yn ôl tair gwahanol haen ym mhroffil y pridd; Epigeig (neu’r rhai sy’n byw ar wyneb y pridd), Endogeig (neu’r rhai sy’n byw yn haen uchaf y pridd) ac Aneceig (neu’r rhai sy’n cloddio’n ddwfn). Gwelwyd y nifer lleiaf o bryfed genwair yng Nghae 2. Wrth arsylwi, gwelwyd fod y priddoedd yn sych er gwaetha’r glaw, ac roeddent yn fas. Gallai hyn egluro’r diffyg pryfed genwair gan eu bod yn dueddol o ffafrio priddoedd dwfn sy’n gallu dal mwy o ddŵr.
 

Ffigur 2. Poblogaeth pryfed genwair ar fferm Treathro

Sut i’w roi ar waith ar y fferm: 

  • Cynnal Gwerthusiadau Gweledol o Strwythur y Pridd (VESS) i edrych ar iechyd cyffredinol eich priddoedd ar y fferm – gallai hyn amlygu ffactorau a allai gyfyngu ar gynhyrchiant, megis cywasgiad.  
  • Palu tyllau 20cm x 20cm x 20cm yn y cae i asesu nifer y pryfed genwair a allai fod yn ddangosydd defnyddiol arall o statws iechyd eich pridd.
  • Er mwyn gwella bioamrywiaeth, ystyriwch y canlynol:-
    • Pori: Sicrhau cydbwysedd rhwng gorbori a thanbori i gynnal amrywiaeth rhywogaethau.
    • Torri: Amseru toriadau gwair i ganiatáu i rywogaethau blodeuo hadu a gadael ymylon heb eu torri i ddarparu cynefin ar gyfer bywyd gwyllt.
    • pH a maetholion y pridd: Monitro pH a lefelau maetholion y pridd i sicrhau’r amodau gorau posibl ar gyfer cymunedau planhigion amrywiol.
    • Cnydau’r dyfodol: Ail-hau rhai o’r caeau gyda chymysgeddau hadau amlrywogaeth i wella ansawdd porthiant a gwytnwch gan hefyd gefnogi rhywogaethau peillio.