13 Mai 2025

Mae’r ffermwr trydedd genhedlaeth, John Goodwin o Faesyfed, yn ddiolchgar i raglen Academi Amaeth - Busnes ac Arloesedd Cyswllt Ffermio am roi’r ysbrydoliaeth, yr arweiniad a’r rhwydweithiau cymorth angenrheidiol i gyflawni nodau uchelgeisiol newydd iddo ef ei hun a’r busnes fferm teuluol.

Wedi iddo gael ei berswadio i ymgeisio yn 2017 yn dilyn sgwrs ar hap gyda’i swyddog datblygu lleol, Natalie Chappelle, mae’r profiad wedi bod yn sbardun ar gyfer yr hyn y mae John yn ei alw’n daith drawsnewidiol.

“Mae cwrdd â chymaint o ffermwyr, pobl fusnes, arbenigwyr sector a mentoriaid profiadol a deallus wedi fy ysbrydoli i newid safbwynt, nid yn unig o ran fy nyheadau personol, ond bu iddynt hefyd roi’r hyder i mi osod safonau uwch ar gyfer y fferm.”

Mae dull John a’i wraig Jess o ffermio mewn modd ‘gwyrddach’ a defnyddio technolegau newydd i gynyddu proffidioldeb, yn parhau i gyrraedd lefelau newydd syfrdanol. Cafodd llwyddiannau’r pâr eu cydnabod yn gynharach eleni wrth iddynt ennill gwobr arobryn ‘Arloeswr y Flwyddyn’ gan Lantra Cymru.

Mae John a Jess, sydd hefyd o gefndir ffermio yng Nghymru, wedi adeiladu fferm bîff, defaid, moch a thir âr gynaliadwy ar eu daliad 500 erw rhwng Llanandras a Threfyclo, yn seiliedig ar eu hethos ffermio adfywiol. Fel rhai sydd wedi mabwysiadu ynni biomas a solar yn gynnar, un o’u llwyddiannau mwyaf arwyddocaol yw datblygiad eu busnes bocsys cig ar raddfa fach, a fu’n cael ei redeg yn bennaf o gegin y fferm, ond sydd bellach yn siop fferm lwyddiannus.

“Fe wnaeth y pandemig newid patrymau prynu ein cwsmeriaid a gwelsom gynnydd triphlyg yn y galw am ein cig bron iawn dros nos,” meddai John.

“Er mwyn manteisio ar y cyfle hwnnw, ond gan hefyd gydnabod nad oedd yr adnoddau gennym i redeg siop, fe wnaethom ni ofyn am gyngor busnes strategol gan Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio, yn ogystal â mynychu nifer o ddigwyddiadau perthnasol i fusnes.”

Gyda rhagolygon ariannol uchelgeisiol, ac yn dilyn symleiddio eu system reoli da byw i ryddhau rhywfaint o amser, buddsoddodd y pâr mewn siop bwrpasol ar waelod ffordd y fferm, gan osod peiriannau gwerthu cynnyrch oer a oedd yn derbyn taliadau cerdyn yn unig. Fe wnaethant hefyd newid defnydd un o’r siediau ar gyfer pecynnu a phrosesu – a dyna ddechrau busnes Hindwell Farm Shop!

“Roedd yn ymrwymiad ariannol sylweddol, ond mae’r siop bellach yn ffynhonnell incwm allweddol, a fydd, yn yr hirdymor, yn helpu i sicrhau bywoliaeth i’n mab George, wedi iddo gwblhau ei astudiaethau ym myd amaeth.”

Erbyn heddiw, maent wedi gosod tri pheiriant gwerthu cynnyrch oer ac wedi rhewi, ac mae’r siop ‘hunanwasanaeth’ poblogaidd nid yn unig yn gwerthu cig wedi’i gynhyrchu ar fferm y teulu Goodwin, ond hefyd maent yn gwerthu ystod o gynnyrch lleol arall.

“Mae bod yn rhan o’r Academi Amaeth wedi bod yn drobwynt personol i mi,” meddai John.

Ers y profiad datblygu personol dwys cyntaf hwnnw a oedd yn cynnwys taith o amgylch y Swistir, mae John wedi cwblhau nifer o gyrsiau hyfforddiant ymarferol, wedi elwa o gyngor cynllunio busnes a milfeddygol arbenigol, yn ogystal â chymryd rhan mewn nifer o deithiau astudio ar ffermydd a digwyddiadau ymwybyddiaeth strategol.

Mae’n gwerthfawrogi’r nifer fawr o gysylltiadau cefnogol newydd sydd ganddo erbyn hyn ledled Cymru a thu hwnt. Gyda chymorth ei gyfoedion, mae John, a raddiodd o Brifysgol Newcastle gyda gradd mewn amaethyddiaeth a gwyddor amgylcheddol, wedi cwblhau gradd meistr, ac yn y broses o gwblhau blwyddyn olaf ei ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth. Gan ymchwilio i botensial echdynion planhigion i leihau allyriadau methan mewn defaid a gwartheg, mae’n gobeithio y bydd y pwnc yn ei gynorthwyo i leihau ôl troed carbon y fferm ymhellach. Mae hefyd wedi gwneud defnydd o wasanaeth mentora un i un Cyswllt Ffermio, i baratoi ar gyfer datblygu system fonitro dŵr newydd gan ddefnyddio technoleg LoRaWAN.

“Mae’r Academi Amaeth wedi llwyddo i weddnewid fy agwedd nid yn unig o safbwynt fy uchelgais personol, ond hefyd ar gyfer datblygu’r fferm mewn modd cynaliadwy i baratoi erbyn y bydd George yn cymryd yr awenau yn y pen draw – mae wedi bod yn llwyddiant i’r teulu cyfan.”  

Mae’r cyfnod ymgeisio ar gyfer Rhaglen yr Academi Amaeth (Busnes ac Arloesedd) a Rhaglen yr Ifanc (16-21 mlwydd oed) ar agor nes 20 Mai. Ymgeisiwch ar-lein ar dudalen Academi Amaeth Cyswllt Ffermio.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Academi Amaeth 2025 yn dod i ben gydag enillwyr yr her yn derbyn gwobrau
24 Tachwedd 2025 Mae unigolion uchelgeisiol y mae eu dyfodol yn
Pam mae dwysedd porfeydd yn hanfodol ar gyfer tros-hau llwyddiannus
14 Tachwedd 2025 Mae tros-hau porfeydd gyda chymysgedd aml
Dechrau Ffermio: Cyfleoedd ar gyfer lleoliad gwaith ledled Cymru!
13 Tachwedd 2025 Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig cyfleoedd ar gyfer