19 Mai 2025

Gallai cydbwyso lefelau’r maetholion yn y pridd trwy ychwanegu calsiwm at dir fferm helpu ffermwyr i leihau chwyn a faint o wrtaith synthetig a chemegau maen nhw’n eu defnyddio.

Yn debyg i lawer o ffermwyr, mae’r cynhyrchwyr cig oen ac wyau, Ben Anthony a Diana Fairclough, yn wynebu brwydr barhaus wrth reoli ysgall, dail tafol, danadl poethion a mathau cyffredin eraill o chwyn ar eu fferm 73 hectar yn Sir Gaerfyrddin.

Pan gynhalion nhw ddigwyddiad Cyswllt Ffermio yn ddiweddar dan arweiniad Daniel Lievesley, awgrymodd yr agronomegydd y gallai’r cydbwysedd anghywir o faetholion yn y pridd fod yn rheswm dros y beichiau blynyddol o chwyn ar fferm Frowen yn ardal Login. Mae’r fferm yn cynhyrchu cig oen o 370 o famogiaid magu, ac wyau o ieir maes.

Dylai cynnal dadansoddiad o’r pridd fod yn gam cyntaf i fynd i’r afael â phroblemau chwyn, meddai Daniel o gwmni DJL Agriculture.

Nid problemau i ddelio â nhw yn unig yw chwyn, ond arwyddion o broblemau yng nghydbwysedd y pridd, ychwanegodd.

“Mae chwyn yn ymsefydlu lle mae yna ddiffyg maetholion. Mae dail tafol, er enghraifft, yn cloddio am galsiwm, felly os ewch chi i’r afael â’r diffyg calsiwm, rydych chi’n dileu’r union reswm dros fodolaeth y dail tafol yno.

“Yn aml, fe welwch chi fod y porthiant sy’n tyfu o amgylch chwyn yn cynnwys tipyn o faetholion. Mae hyn oherwydd bod gwreiddiau tap y chwyn yn tynnu mwynau o ddyfnderoedd y pridd am fwyd.”

Rhybuddiodd Daniel na ddylai ffermwyr ddibynnu’n llwyr ar gemegau i reoli chwyn. Roedd yn argymell y dylen nhw fynd i’r afael â’r diffyg maetholion yn eu priddoedd.

Yn Frowen, er enghraifft, mae gwaith samplu pridd wedi dangos bod y priddoedd clai yn cynnwys lefelau uchel o haearn, sy’n cloi ffosfforws a sinc.

Mae awyru’r pridd yn un ffordd o fynd i’r afael â hyn, yn ogystal â chywiro’r anghydbwysedd o ran mwynau.

Mae mathau cyffredin o chwyn ar dir fferm fel danadl poethion, gwlyddyn y dom (chickweed) a throed-yr-ŵydd gwyn (fat hen) yn arwyddion o lefelau uchel o nitradau, er enghraifft. Mae lefelau isel o galsiwm wedyn yn annog dail tafol ac ysgall.

Pan fydd lefelau calsiwm yn isel, mae Daniel yn argymell rhoi gypswm fel ffordd o newid catïonau yn y pridd. Bydd hyn yn ychwanegu calsiwm i gymryd lle rhywfaint o’r magnesiwm sydd wedi’i rwymo gan ronynnau pridd, yn enwedig mewn priddoedd clai.

Yn ddelfrydol, dylai’r gymhareb calsiwm:magnesiwm mewn dadansoddiad o sampl pridd fod oddeutu 8:1; os yw’n llai na hynny, mae angen mynd i’r afael â’r diffyg calsiwm i atal chwyn rhag ymledu.

“Mae gypswm a gloddiwyd yn ffordd wych o roi calsiwm sylffad ar waith i ryddhau’r magnesiwm i’r pridd,” meddai Daniel.

Mae’n well rhoi gypswm pan fydd sôn am law yn rhagolygon y tywydd.

Pwysleisiodd Daniel y dylai ffermwyr ddefnyddio gypswm sydd wedi’i gloddio’n naturiol, nid bwrdd plastr adferedig sy’n cynnwys resinau, glud a metelau trwm a fydd yn achosi problemau i dda byw.

Mae gypswm ar hyn o bryd yn costio £20–£32 y dunnell, yn dibynnu ar ba mor agos y mae fferm at chwarel, a thua £5–£10 pellach yr erw i’w wasgaru.

Mae calsiwm yn gysylltiedig â ffyngau mycorhisol yn y pridd hefyd, sydd unwaith eto’n cadw chwyn draw.

Gall cyflwyno coed i systemau amaethyddol hefyd leihau chwyn.

Bydd y coed yn creu cysgod i amddifadu chwyn o olau. Byddan nhw hefyd yn gystadleuaeth ddwys am adnoddau yn y pridd, a bydd eu dail marw ar ffurf tomwellt yn atal chwyn.

Yn ôl Arbenigwr Coedwigaeth Cyswllt Ffermio, Geraint Jones, a siaradodd yn y digwyddiad, mae coed yn gwella iechyd y pridd, gan gadw chwyn draw. Maen nhw hefyd yn sefydlu rhwystrau ffisegol sy’n atal hadau chwyn rhag lledaenu.

Mae systemau gwreiddiau coed a gwrychoedd yn tynnu maetholion o haenau dyfnach y pridd ac mae’r rhain yn cael eu cylchredeg o fewn yr ecosystem, gan gyfrannu at iechyd cyffredinol y pridd. Mae hyn hefyd yn ychwanegu’n sylweddol at gynnwys carbon y pridd trwy storio carbon mewn gwreiddiau a dadelfennu biomas gwreiddiau a dail marw.

“Mae sawl math o goed yn ffurfio perthnasoedd symbiotig â ffyngau mycorhisol yn y pridd,” meddai Geraint wrth y ffermwyr.

“Mae’r ffyngau hyn yn ymestyn cyrhaeddiad system wreiddiau’r goeden, gan gynyddu ei harwynebedd gryn dipyn i amsugno maetholion a dŵr o haenau dyfnach y pridd.”

Yn gyfnewid, mae’r goeden yn rhoi carbohydradau i’r ffyngau.

Mae’r rhwydweithiau ffwngaidd hyn hefyd yn cysylltu gwahanol blanhigion â’i gilydd, gan hwyluso’r broses o drosglwyddo maetholion rhyngddyn nhw, o bosibl.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Academi Amaeth 2025 yn dod i ben gydag enillwyr yr her yn derbyn gwobrau
24 Tachwedd 2025 Mae unigolion uchelgeisiol y mae eu dyfodol yn
Pam mae dwysedd porfeydd yn hanfodol ar gyfer tros-hau llwyddiannus
14 Tachwedd 2025 Mae tros-hau porfeydd gyda chymysgedd aml
Dechrau Ffermio: Cyfleoedd ar gyfer lleoliad gwaith ledled Cymru!
13 Tachwedd 2025 Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig cyfleoedd ar gyfer