22 Mai 2025
Mae cwmni cydweithredol newydd a ffurfiwyd rhwng ffermwyr moch yng ngorllewin Cymru a chyflenwr cig yn galluogi porc o genfeiniau a gaiff eu geni a'u magu yn y rhanbarth i gael ei gludo dros bellter bach i ladd-dy â chyfradd brosesu isel i gael ei brosesu. Bydd hyn yn lleihau straen ar yr anifeiliaid, gan ddarparu cig â thaith bwyd fer i ddefnyddwyr a gwella ymylon cynhyrchwyr.
Daethpwyd â’r wyth ffermwr o Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin at ei gilydd gan fenter Agrisgôp Cyswllt Ffermio ar ôl i'r syniad gael ei drafod gan y cyflenwr cig a chigydd o Abergwaun, Martyn Lloyd, ac arweinydd Agrisgôp, Lilwen Joynson.
Roedd Martyn wedi bod yn aelod o grŵp Agrisgôp arall lle'r oedd Lilwen wedi ei helpu i ddatblygu ei syniad ar gyfer cyfleuster prosesu newydd ac yn ddiweddarach, mewn cyfarfod mentora Cyswllt Ffermio, gwnaeth y syniad ar gyfer y cwmni cydweithredol Red Dragon Porc Cyf fwrw gwreiddiau.
Nid oedd Martyn a'i wraig, Danielle, wedi gallu dod o hyd i borc â thaith bwyd fer i'w cwsmeriaid.
"Roedd modd i ni gael cig eidion a chig oen, ac mae gennym ein dofednod ein hunain, ond yr hyn nad oedd gennym oedd porc. Fe wnaethon ni ein gorau i ddod o hyd i borc Cymreig i’n cwsmeriaid, ond roedd gan y porc daith bwyd hir, ac nid yw hynny'n cyd-fynd â'n hethos busnes ni," eglura Martyn.
Roedd datblygu lladd-dy ar eu fferm yng Nghilshafe yn fodd o ddatrys hyn.
"Roedden ni am gynnwys rhai cynhyrchwyr porc, i'w helpu i hyrwyddo eu busnesau," meddai Martyn.
"Mae yna lawer o gynhyrchwyr moch ar raddfa fach yng ngorllewin Cymru, ac roedd llawer yn cael trafferth canfod y ffordd orau o werthu eu cig, ond gyda sylfaen cwsmeriaid a oedd eisoes yn bodoli, roedden ni’n gallu helpu. Fe wnaethon ni droi at Agrisgôp i helpu i ddod â hynny'n fyw.''
Ar ôl y cyfarfod Agrisgôp cyntaf, wedi'i hwyluso gan Lilwen, gwnaeth y syniad ymffurfio.
Agrisgôp yw rhaglen datblygu rheolaeth a ariennir yn llawn sy'n annog ffermwyr cymwys i ddod at ei gilydd nid yn unig i ddatblygu eu busnesau, ond hefyd i ennill hyder a sgiliau yn bersonol trwy ddysgu gweithredol.
A dyma ddigwyddodd i aelodau Red Dragon Porc Cyf.
Roedd ffermwyr wedi bod yn cael prisiau anghyson am eu moch pan oeddent wrthi’n marchnata fel busnesau unigol, ac roedd eu gallu i gyflenwi cigydd yn uniongyrchol yn gyfyngedig, gan fod bodloni gofynion o ran cyfaint cyflenwi yn anodd.
"Roedd yr un genhadaeth gan y ffermwyr, a chawson nhw gymorth i roi eu syniadau ar waith," eglura Lilwen.
Roedd magu ymddiriedaeth a hyder yn hanfodol wrth ffurfio cwmni cydweithredol.
"Mae cydweithio a rhannu’n agored yn bendant yn allweddol," meddai Lilwen.
"Roedd yn rhaid goresgyn gwahaniaethau barn a meddylfryd, a mabwysiadu set o reolau a gwerthoedd, gydag unigolion yn derbyn bod yn rhaid iddynt weithio i'r mwyafrif, gan nad oedden nhw bellach yn gweithredu fel busnesau unigol."
I rai, roedd hyn hyd yn oed yn golygu newid patrymau bridio a’r mathau o fridiau yr oeddent yn eu cadw i fodloni gofynion y farchnad.
Ar ddiwedd 2024, roedd Red Dragon Porc Cyf eisoes wedi marchnata gwerth £43,000 o borc, gan gynnwys selsig a oedd wedi ennill gwobrau yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru y llynedd.
Ym mis Ebrill, roedd y darn olaf o’r jig-so porc lleol wedi’i roi yn ei lle pan ddechreuodd y teulu Lloyd brosesu porc yn eu lladd-dy eu hunain, a gymeradwywyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Cyn hynny, roedd yn rhaid i aelodau’r cwmni cydweithredol, gan gynnwys Will Kerr, gludo eu moch ymhellach i'w prosesu.
"Doedd gennym ni ddim rheolaeth dros brisiau, ac roedd yr ymylon yn fach iawn," mae Will yn cyfaddef. "Y catalydd yr oedd ei angen arnon ni yw’r lladd-dy mae Martyn wedi ei agor yn Abergwaun.''
Mae gan Will chwe hwch fagu sy’n foch Cymreig, y mae'n eu cadw ochr yn ochr â mentrau sugno bîff a defaid ar fferm ei deulu, Blaenawen, yng Nglan-rhyd.
Roedd wedi bod yn teimlo’n rhwystredig ers amser maith gyda'r canfyddiad bod porc, yn ei eiriau ef, "yn berthynas dlawd” i gig eidion a chig oen.
Er ei bod wedi dod yn gyffredin i gigyddion arddangos hanes llawn y cig eidion a'r cig oen maen nhw'n eu gwerthu, mae Will yn nodi mai anaml y mae hyn yn cael ei gymhwyso i borc oherwydd ei fod yn dod o ffynonellau cyfanwerthu neu wedi'i fewnforio.
"Rydyn ni hefyd bellach mewn sefyllfa i adrodd stori gyffrous ein porc," meddai Will, sy'n ffermio gyda'i rieni, Mark a Kip.
Mae'n gweld mantais fawr mewn bod yn rhan o gwmni cydweithredol. "Fel grŵp, rydyn ni'n fwy pwerus, mae'n rhoi llawer o fanteision i ni, rydyn ni eisoes yn cael pris gwell am ein moch.
"Heb Agrisgôp, fydden ni byth wedi dod at ein gilydd, felly rydym yn ddiolchgar i Martyn am roi cychwyn ar bethau gyda Cyswllt Ffermio, ac i Lilwen am ein tynnu ni i gyd at ein gilydd."
Mae aelod arall o'r grŵp, Ed Walker, hefyd yn gweld gwerth mawr mewn marchnata ar y cyd, sef "manteisio ar niferoedd".
"Fel wyth cynhyrchydd, rydyn ni ar yr un lefel â ffermwyr masnachol, gan ein bod ni'n gallu cynnig cyflenwad cyson, ond rydym yn dal i fod yn gynhyrchwyr bach unigol hefyd."
Mae'r dyn busnes sydd wedi troi'n ffermwr yn cynhyrchu tua 600 o foch y flwyddyn ar system awyr agored ar Model Farm 46 erw ger Dinbych-y-pysgod.
Mae ei 22 o hychod magu yn gymysgedd o foch Gwyn Mawr wedi'u croesi â baedd Cymreig a Oxford Sandy a Moch Du y mae'n eu croesi â Mochyn Gwyn Mawr.
Dechreuodd gadw moch fel hobi, ochr yn ochr â rhedeg ei fusnes peirianneg sifil ei hun, ond mae bellach yn fwy neu lai yn swydd llawn amser, gyda chynorthwyydd rhan-amser hefyd.
Mae’n gwerthu bron pob dim trwy Red Dragon Porc Cyf, er ei fod hefyd wedi’i drwyddedu i werthu cig o'r fferm fel ‘Tenby Woodland Pork’.
Cyn i'r lladd-dy gael ei sefydlu yng Nghilshafe, byddai angen iddo wneud taith gron 150 o filltiroedd i'r cyfleuster ym Maesteg.
Mae’n bosibl mai’r cam nesaf i'r cwmni cydweithredol yw sefydlu cynllun bocsys cig.
Bydd nifer y moch sy’n cael eu prosesu gan ladd-dy’r teulu Lloyds, sydd hefyd yn prosesu da byw eraill, yn fach i ddechrau, ond rhagwelir y bydd hynny'n cynyddu wrth i nifer y gwerthiannau godi.
Hyd yn hyn, mae'r cyfleuster wedi creu pedair swydd lawn amser, a gallai mwy ddilyn.
Mae aelodau Red Dragon Porc Cyf yn cyfarfod yn rheolaidd, fel arfer bob tair wythnos, mewn cyfarfodydd lle mae 90% neu fwy ohonynt yn bresennol.
Mae Red Dragon Porc Cyf bellach yn derbyn aelodau newydd – mae dau gyflenwr ychwanegol eisoes wedi'u derbyn – ac mae hefyd yn bwriadu cyflwyno'r cyfle hwnnw i ardaloedd eraill dros y blynyddoedd nesaf.
Mae Red Dragon Porc Cyf yn falch iawn o gyhoeddi y caiff ei lansio’n swyddogol yn Sioe Sir Benfro eleni, a gynhelir ar 20 a 21 Awst. Fel dathliad o ansawdd eithriadol ac ysbryd cymunedol cefn gwlad gorllewin Cymru, mae Sioe’r Sir yn llwyfan perffaith i gyflwyno eu menter newydd gyffrous.
I gryfhau eu rhagolygon ymhellach, mae'r busnes wedi cael mynediad at Cywain, sef rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n darparu cymorth wedi'i dargedu i fusnesau bwyd a diod micro, bach a chanolig yng Nghymru.
"Mae hon yn fenter fusnes newydd gyffrous gyda chynnig clir a chymhellol, ac fe welsom ar unwaith ei photensial ar gyfer twf a llwyddiant," meddai Alex James, Rheolwr Prosiect Cywain.
"Rydym yn falch o'u cefnogi gyda'u gwaith cynllunio busnes, gan dynnu ar ein harbenigedd ym maes bwyd a diod, ac rydym yn gobeithio parhau i'w cefnogi wrth lansio eu cynnyrch yn llwyddiannus a chyda thwf parhaus fel busnes yn Sir Benfro."