Mae MeistrBusnes Cig Coch yn weithdy deuddydd sydd wedi’i gynllunio i helpu ffermwyr i reoli eu busnesau yn fwy effeithiol, gan ddarparu’r offer i feincnodi DPA a gwneud penderfyniadau gwybodus ar gyfer mwy o gynhyrchiant a phroffidioldeb.
Ar gyfer pwy mae'r gweithdy hwn?
Mae'r gweithdy hwn yn ddelfrydol ar gyfer ffermwyr da byw sydd am wella sgiliau rheoli busnes, gwella perfformiad ariannol, a gwneud y gorau o weithrediadau fferm. Bydd angen i fynychwyr gael mynediad at gopi diweddaraf o gyfrifon ariannol y busnes er gwybodaeth yn ystod y gweithdy. Ni fydd yn ofynnol i chi rannu manylion ariannol ond anogir rhannu rhai manylion h.y costau mewnbwn.
Cynnwys
- Deall cyfrifon ariannol a chipolwg gan ddefnyddio meddalwedd cwmwl.
- Dadansoddi perfformiad ariannol cyfredol.
- Edrych ar ffyrdd o gynyddu refeniw wrth leihau costau.
- Datblygu cyllideb sy’n cael ei llywio gan elw a chynllun llif arian i gefnogi penderfyniadau bob dydd.
- Creu system ffermio sy'n cyd-fynd â nodau personol a nodau busnes.
- Gwella cyfathrebu o fewn eich tîm ffermio i ysgogi penderfyniadau effeithiol.
- Nodi dangosyddion perfformiad allweddol (DPA) ar gyfer mesur llwyddiant.
- Dysgu strategaethau i gynyddu elw, gan ganolbwyntio ar berfformiad anifeiliaid a rheoli porfa.
Tiwtoriaid
James Daniel - Precision Grazing Ltd
Fel sylfaenydd Precision Grazing Ltd, mae James yn arbenigwr blaenllaw mewn pori adfywiol a rheoli busnes fferm. Gyda phrofiad helaeth o helpu ffermwyr da byw i sicrhau’r cynhyrchiant a phroffidioldeb gorau posibl, mae James yn dod ag agwedd ymarferol i’r gweithdy, gan sicrhau bod y rhai sy’n cymryd rhan yn cael strategaethau byd go iawn i wella perfformiad y fferm.
Rhys Williams - Precision Grazing Ltd
Mae gan Rhys, sy’n ymgynghorydd da byw hynod brofiadol gefndir cryf mewn rheoli busnes fferm, cynllunio ariannol, a systemau pori. Mae wedi gweithio gyda ffermwyr ledled Cymru i wella effeithlonrwydd a chynyddu proffidioldeb. Mae Rhys yn darparu cipolwg ymarferol ar ddadansoddi ariannol, pennu cyllideb, a chynllunio strategol, gan roi’r hyn y mae’r rhai sydd yn cymryd rhan ei angen i wneud penderfyniadau busnes gwybodus.
Dyddiadau a lleoliadau -
Nid yw lleoliad y Dosbarth Meistr wedi'i gadarnhau eto, unwaith y bydd y ffenestr ymgeisio wedi cau byddwn yn ceisio cael lleoliad mor ganolog â phosibl. Dim ond un o'r gweithdai fydd angen i chi ei fynychu.
MeistrBusnes Cig Coch | 17-18/11/2025 |
MeistrBusnes Cig Coch | 19-20/11/2025 |