Pam fyddai Phillip yn fentor effeithiol
- Credai Phillip y gallai fod yn fentor effeithiol gan ei fod yn meddu ar gyfoeth o wybodaeth ymarferol, yn ogystal a’i frwdfrydedd dros ddefnyddio technoleg newydd ac annog trosglwyddo gwybodaeth i gynorthwyo’r genhedlaeth nesaf i ddatblygu eu busnesau
- Mae brwdfrydedd Phillip dros drosglwyddo gwybodaeth wedi cynyddu o ganlyniad i fod yn Fferm Arddangos Cyswllt Ffermio. Ers bod yn fferm arddangos, mae eu rheolaeth ar laswelltir wedi gwella yn sylweddol ac maent wedi mynd o brynu dwysfwyd i fod yn hunangynhaliol mewn protein trwy wndwn meillion coch. Maent yn prynu tua 17 tunnell o ddwysfwyd y flwyddyn ond nid ydynt bellach yn prynu i mewn ar gyfer y stoc ifanc. Yn ogystal ag arbed arian ar ddwysfwyd, maent wedi arbed arian trwy dargedu’r ail-hadu. Maent yn gwneud y mwyaf o’r caeau gorau ac mae ganddynt raglen ail hadu gylchynol, sydd wedi gwella’r tir, felly mae hynny’n fantais arall
- Maent yn gweithio’n galed ar effeithlonrwydd buchod magu trwy bwyso’r buchod a’r lloeau yn gyson. Eu targed yw diddyfnu’r lloeau pan fyddan nhw 50% o’u pwysau byw. Mae hyn yn eu helpu i fonitro perfformiad gan eu bod yn gallu gweld pa fuchod sy’n perfformio’n dda a pha rai sydd ddim
- Mae Phillip wedi treulio blynyddoedd yn gwella geneteg trwy ddefnyddio teirw ac AI ar ran o’r fuches a maent yn awr wedi cyrraedd y sefyllfa lle gallant loea heffrod yn ddwy flwydd oed. Maent yn ceisio sicrhau bod yr EBV yn cyfateb i’w gofynion. Credai Phillip fod y ffigyrau'r un mor bwysig â golwg y tarw
- Bydd myfyrwyr amaethyddol o Goleg Sir Gâr yn ymweld ar fferm yn gyson a mae Phillip yn mynd i’r coleg i gyflwyno gwybodaeth am ei system ffermio. Mwynha Phillip sgwrsio gyda’r myfyrwyr, ac mae eu brwdfrydedd dros ddysgu wedi datblygu ei sgiliau ef o ran astudio gwerth technegau
- Roedd y cyfweliad a gafodd Phillip wrth gystadlu yng ngwobrau’r Farmers Weekly yn eithriadol o heriol o ran y wybodaeth dechnegol a’r sgiliau rheoli busnes cyffredinol. Fe wnaeth ei helpu yn fawr o ran edrych ar y system gyfan a meddwl mewn ffordd wahanol
- Gan fod ganddo brofiad o gystadlaethau siarad cyhoeddus, yn ogystal â bod yn gynghorydd cymuned ers 10 mlynedd mae gan Phillip ddigon o brofiad o ran sgiliau cyfathrebu. Mae ef hefyd yn siaradwr Cymraeg rhugl. Mae ei brofiadau fel cynghorydd cymuned a ffermwr organig hefyd wedi dysgu gwerth amynedd iddo!
Busnes fferm presennol
- 400 erw, gan gynnwys 200 erw yn eiddo i’r fferm a 200 erw ar rent gan fferm gyfagos. Fferm ucheldir mewn Ardal Lai Ffafriol
- Yr holl dir yn cael ei ffermio yn organig ers 2006
- Cynllun Organig Glastir
- Ochr yn ochr â mi fy hun a’r teulu, defnyddir contractwyr ar gyfer gweithgareddau mawr fel gwaith silwair a slyri
- 100 o wartheg magu organig a stoc ifanc, croesiadau Limousin yn bennaf. Cyfanswm y stoc ar tua 200. Y buchod yn lloea yn y gwanwyn, gyda’r lloeau yn cael eu gwerthu yn flwydd. Rhai heffrod yn cael eu cadw i fagu
- Cymerir defaid tac dros y gaeaf sy’n cyd-fynd yn dda â’r fenter fagu lloeau
Cymwysterau / cyraeddiadau / profiad
- Ffermwr Bîff y Flwyddyn Farmers Weekly 2013
- Fferm Arddangos Hybu Cig Cymru a Cyswllt Ffermio 2009-2014
- 32 mlynedd o brofiad ymarferol o reoli’r fferm
- Cwrs rhyddhau YTS, Coleg Pibwr Lwyd
- Aelod o bwyllgor technegol y corff Ardystio Bwyd o Ansawdd Cymru (QWFC)
AWGRYMIADAU DA AR GYFER LLWYDDIANT MEWN BUSNES
“Cadwch eich rhestr o bethau i’w gwneud yn fyr, a sicrhau eich bod yn eu cyflawni i gyd.”
“Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud digon o ymchwil cyn gwneud penderfyniadau. Mae hyn yn berthnasol ar draws y busnes cyfan.”
“Dylai busnes da fedru rhedeg yn llyfn ar ei ben ei hun, felly defnyddiwch ddulliau a systemau fydd yn helpu i gyflawni hynny.”
“Cadwch bethau’n syml.”