Pam fyddai Rhys yn fentor effeithiol
- Mae Rhys yn ffermio’n llawn amser ar y fferm deuluol gyda’i dad lle maent yn rhedeg menter ddefaid cynhyrchiol iawn. Eu prif ffocws yw geneteg a defnyddir hyrddod gydag EBV uchel a hyrddod Aberfield mamol. Maent hefyd yn canolbwyntio ar gostau cynhyrchu, iechyd anifeiliaid a chynnydd pwysau byw (DLWG) yn nhwf yr ŵyn o enedigaeth. Caiff yr ŵyn eu gwerthu fel ŵyn wedi’u pesgi ar borfa a chaiff yr ŵyn benyw eu gwerthu ar y we am bris premiwm
- Cyflwynodd Rhys EID, a gaiff ei ddefnyddio i gofnodi cynnydd pwysau a data ŵyna pob oen a mamog. Cedwir data EID ar gyfer y ddiadell gyfan ers 5 mlynedd a chaiff y data hwn ei ddadansoddi a’i gymharu’n rheolaidd. Dyweda Rhys fod defnyddio EID wedi newid y ffordd y mae’r teulu’n ffermio, gyda chanlyniadau anhygoel
- Mae’n credu’n gryf mewn datblygiad personol a busnes ac wedi manteisio ar nifer o wasanaethau Cyswllt Ffermio i gefnogi hyn. Mae Rhys hefyd wedi arallgyfeirio i ynni adnewyddadwy, gan osod generadur hydro a phwmp gwres ffynhonnell daear sy’n cyflenwi holl egni’r fferm a’r ffermdy
- Gyda diddordeb brwd mewn cyflwyno arloesedd i’r busnes, gall Rhys grybwyll nifer o enghreifftiau o sut mae cyflwyno ffyrdd arloesol, mwy effeithlon o weithio wedi helpu gwneud y busnes yn fwy effeithlon. Mae Rhys hefyd yn llysgennad brwd dros feincnodi, gan anelu at gael perfformiad y fferm o fewn y traean uchaf o ran perfformiad yng Nghymru
- Mae hefyd wedi dechrau nifer o dreialon ar y fferm, megis defnyddio bolws, sydd wedi ei alluogi i wario arian yn ddoeth a lleihau costau
Busnes fferm presennol
- Fferm fynydd 250 erw sy’n amrywio o 650 – 1,350 troedfedd uwch lefel y môr
- 550 o famogiaid a 150 o ŵyn benyw
- Caiff y defaid eu cadw dan do cyn ŵyna gan dderbyn dogn cymysg cyflawn (TMR)
- Defnyddir system EID i gofnodi perfformiad y ddiadell
- Egni adnewyddadwy yn cynnwys generadur hydro a phwmp gwres ffynhonnell daear
- Mae’r busnes fferm hefyd wedi arallgyfeirio i fenter twristiaeth eang yn cynnwys maes carafanau teithiol gyda lle ar gyfer 60 o garafannau, llynnoedd pysgota a lleoliad ar gyfer priodasau
- Gosodwyd system bori cylchdro yn ddiweddar
Cymwysterau / cyraeddiadau / profiad
- Ar ôl gorffen ei addysg, cymhwysodd Rhys fel trydanwr. Mae ei sgiliau a’i arbenigedd wedi ei alluogi i gynghori a chyfrifo arbedion ynni posib ar systemau foltedd isel ac LED. Gosododd systemau ynni adnewyddadwy ar y fferm a fu’n llwyddiannus iawn gan gynhyrchu arbedion sylweddol o fewn y busnes teuluol.
- Mae Rhys yn gwneud defnydd llawn o wasanaethau trosglwyddo gwybodaeth Cyswllt Ffermio. Mae’n aelod o grŵp trafod defaid ac yn gyn-aelod Agrisgôp. Mae hefyd wedi defnyddio’r gwasanaeth samplo pridd yn ogystal â chynnal treial llyngyr.
AWGRYMIADAU DA AR GYFER LLWYDDIANT MEWN BUSNES
“Monitrwch gynnydd pwysau eich ŵyn o’r cyfle cyntaf posib, y 12 wythnos gyntaf yw’r pwysicaf o ran tyfiant ŵyn.”
“Mae’n haws arbed punt nac ennill punt. Canolbwyntiwch ar yr hyn fedrwch chi ei reoli a bydd y farchnad yn gofalu am ei hun.”
“Arallgyfeiriwch i rywbeth sy’n addas i chi a’ch sgiliau.”