Elin Wyn Williams
Bangor, Gwynedd
Mae Elin Williams yn astudio Amaethyddiaeth Lefel 3 yng Ngholeg Glynllifon. Nid yw o gefndir amaethyddol ond nid yw hynny wedi atal ei phenderfyniad i weithio yn y sector. Yn benderfynol a chlir ei meddwl, mae’n awyddus i gael yr holl sgiliau a’r arbenigedd y gall hi yn barod ar gyfer astudio amaethyddiaeth yn y brifysgol. Mae’n gyffrous am y gobaith o gael cyfrifoldebau arwain yn y pen draw trwy swydd rheolwr fferm, ochr yn ochr â dysgu mwy o sgiliau hwsmonaeth mae’n gobeithio datblygu ei dealltwriaeth o gynllunio a chyllidebu ar fferm a chadw golwg ar dechnolegau amaethyddol sy’n esblygu’n barhaus.
Ochr yn ochr â bywyd myfyriwr, chwarae rygbi merched a bod yn weithgar yn ei Chlwb Ffermwyr Ifanc lleol, mae Elin eisoes wedi cael tair blynedd o brofiad ymarferol. Mae’n helpu i odro a magu lloi ar fferm laeth 500-uned fawr sy’n rhedeg system loea dan do, trwy gydol y flwyddyn. Mae’n gweithio’n rhan-amser hefyd ar fferm ddefaid leol lle mae ei dyletswyddau’n cynnwys hwsmonaeth, didoli, dosio a brechu yn ogystal ag ŵyna a chneifio.
Yn gyfathrebwr hyderus sy’n mwynhau dangos ei bod yn gallu gweithredu ar ei liwt ei hun, ni all Elin aros i gael dealltwriaeth ddyfnach o’r diwydiant amaeth trwy’r Academi Amaeth ac adeiladu ar y sgiliau allweddol sydd ganddi yn barod.
“Rwy’n hyderus y bydd fy mhrofiad yn yr Academi Amaeth yn agor llawer o ddrysau a helpu i siapio llwybr fy ngyrfa yn y dyfodol!”