Llewelyn Rhys Jerman

Caersws, Powys

Llewelyn Rhys Jerman

Magwyd Llewelyn Jerman ar fferm ddefaid a bîff ei deulu yng Nghaersws, Powys, lle datblygodd ei angerdd am bob agwedd ar ffermio - o ofalu am anifeiliaid a chneifio i waith tractor a thrwsio peiriannau. Ar ôl cwblhau ei arholiadau TGAU yn Ysgol Uwchradd Llanidloes, aeth ymlaen i astudio Peirianneg Amaethyddol yng Ngholeg Llysfasi, gan ennill rhagoriaeth a theilyngdod mewn pynciau ymarferol gan gynnwys systemau hydrolig, peiriannau a systemau trawsyriant.

Ochr yn ochr â gwaith rhan-amser fel peiriannydd i gyflenwr ffermydd lleol, mae Llewelyn wedi cael ystod eang o brofiad ar draws y sector amaeth, o odro a chneifio i drin coed a’u plannu. Mae’n is-drysorydd ar Glwb Ffermwyr Ifanc Carno a Llanbrynmair ac mae’n mwynhau ymwneud â sioeau lleol, digwyddiadau elusennol a chystadlaethau – ac un uchafbwynt oedd cael y drydedd wobr am farnu stoc llaeth dan 18 oed yn y Sioe Frenhinol.

Yn chwaraewr pêl-droed eiddgar, mae’n chwarae i’w dîm lleol. Wrth edrych tua’r dyfodol, mae Llewelyn yn gobeithio tyfu’r fferm deuluol gyda’i fuches bîff ei hun, sefydlu busnes trwsio peiriannau a chael profiad cneifio dramor.

“Rwy’n gwybod y bydd yr Academi Amaeth yn ehangu fy ngwybodaeth, yn rhoi dealltwriaeth i mi o wahanol systemau ffermio ac yn rhoi cyfle i mi gyfarfod pobl o’r un meddylfryd – mae’n gyfle gwych yr wyf yn ddiolchgar iawn am ei gael.”