Academi Yr Ifanc 2025

Wyt ti rhwng 16 a 21 mlwydd oed ac â diddordeb mewn datblygu gyrfa yn y diwydiant amaeth? Os felly, dyma dy amser di…

Bydd Academi yr Ifanc, sydd wedi'i ariannu'n llawn, yn cynnig:

  • Cyfle i gwrdd â rhai o’r bobl fwyaf blaenllaw yn y diwydiant bwyd ac amaeth

  • Rhaglen o weithgareddau amrywiol i dy ysbrydoli i ddarganfod llwybr gyrfa

  • Hyfforddiant ar gyfer sgiliau cyfathrebu, ymdrin â'r wasg a'r cyfryngau a sgiliau trafod

  • Cyfleoedd i ennill profiad o gadeirio cyfarfodydd, mynegi dy farn a mynegi dy safbwynt mewn modd effeithiol

  • Ffrindiau oes a llwybr i mewn i rwydwaith cymorth amhrisiadwy a fydd yn agor drysau ac yn creu cyfleoedd

Mae ffenestr ymgeisio ar gyfer Academi yr Ifanc 2025 wedi cau.

 

Cychwyn a Chyflwyniadau

Sioe Frenhinol Cymru

22 Gorffennaf 2025 

SESIWN 1: 

Gogledd Cymru

30 Gorffennaf - 01 Awst 2025

SESIWN 2: 

Taith Astudio Dramor

Norwy*

 

25 – 29 Awst 2025

 

SESIWN 3:

Ceredigion

03 – 05 Hydref 2025

Lleoliadau Gwaith

Dewis yr aelodau

Hanner Tymor Hydref

SEREMONI ACADEMI YR IFANC

Y Ffair Aeaf

24 Tachwedd 2025

*Mae posibilrwydd y gallai lleoliadau ar gyfer y teithiau astudio tramor newid o ganlyniad i ffactorau allanol.

Rhaid i ymgeiswyr ar gyfer Academi yr Ifanc fod dros 16 oed ac o dan 21 oed ar 30 Gorffennaf 2025. Gall ymgeiswyr dros 21 oed wneud cais am yr Academi Amaeth (Rhaglen Hŷn). Rhaid i bob ymgeisydd gofrestru gyda Cyswllt Ffermio a chwblhau Cynllun Datblygu Personol ar ei cyfrif BOSS.

PWYSIG - rhaid i ymgeiswyr fynychu pob un o'r sesiynau uchod a rhaid iddynt gael pasbort sy'n ddilys am o leiaf 6 mis ar ôl yr ymweliad astudio. Gall methu ag ymrwymo'n llawn i holl brofiad yr Academi Amaeth arwain at gael eich diarddel o'r rhaglen a gorchymyn i ad-dalu costau'r daith. Ni all aelodau fod yn absennol o sesiynau preswyl, oni bai bod unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol -

  • Profedigaeth agos yn y teulu
  • Salwch personol a nodyn meddyg dilys
  • Cyfrifoldebau gofal brys ac anochel am ddibynnydd

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'ch Swyddog Datblygu Lleol.


Dyma'r ymgeiswyr llwyddiannus ar gyfer rhaglen Academi Yr Ifanc 2025

Dafydd Taliesin Rhys Davies
Dafydd Taliesin Rhys Davies

Llanwrtyd Wells, Powys

Elin Wyn Williams
Elin Wyn Williams

Bangor, Gwynedd

Ellis Dylan Morgan
Ellis Dylan Morgan

Talybont on Usk, Powys

Garmon Powys Griffiths
Garmon Powys Griffiths

Machynlleth, Powys

Gwenllian Lloyd Davies
Gwenllian Lloyd Davies

Pwllheli, Gwynedd

Janet Evans
Janet Evans

Aberystwyth, Ceredigion

Jessica Rhian Jones
Jessica Rhian Jones

Llanwrda, Sir Gaerfyrddin

Llewelyn Rhys Jerman
Llewelyn Rhys Jerman

Caersws, Powys

Lora Jen Pritchard
Lora Jen Pritchard

Pwllheli, Gwynedd

Menna Jones
Menna Jones

Y Trallwng, Powys

Rhys Pinder
Rhys Pinder

Y Trallwng, Powys

Ruben Davies
Ruben Davies

Llangadog, Sir Gâr