Janet Evans
Aberystwyth, Ceredigion
Disgybl yn Ysgol Penweddig, Aberystwyth yw Janet Evans, sy’n astudio ar gyfer ei arholiadau TGAU ar hyn o bryd ac yn bwriadu aros yno ar gyfer ei Lefel A. Yn ddysgwraig frwd, mae hefyd wedi cwblhau nifer o gyrsiau hyfforddiant ac e-ddysgu trwy Cyswllt Ffermio.
Yn angerddol am ffermio – cynhyrchu moch a choginio yn neilltuol, enillodd Janet nifer o wobrau yn y ddau sector! Un o’r pethau y mae fwyaf balch ohono oedd cymryd rhan yng nghystadleuaeth Cynhyrchu Porc CFfI Cymru yn y Ffair Aeaf y llynedd, lle gwnaeth hi, nid yn unig ennill y gystadleuaeth ond derbyn y gil wobr am y mochyn unigol gorau.
Cyfrannodd at nifer o achosion da yn ei chymuned leol ac mae’n aelod brwd o’i Chlwb Ffermwyr Ifanc lleol, ac enillodd wobr CFfI Ceredigion yn ddiweddar am yr ‘aelod iau mwyaf gweithgar’ yn y sir.
Ar ôl ei Lefel A, mae’n gobeithio teithio i Seland Newydd i gael profiad gwaith sy’n berthnasol i ‘swydd ei breuddwydion’ a fydd yn cyfuno ei dau brif ddiddordeb!
“Mewn 10-15 mlynedd rwy’n gobeithio agor fy siop cigydd fy hun, a busnes rhostio moch”.
“Rwy’n siŵr y bydd yr Academi Amaeth yn cyfrannu’n anferth at fy natblygiad personol, ac ni allaf aros i gwrdd â phobl ifanc eraill i rannu fy syniadau, ochr yn ochr â llawer o arbenigwyr a fydd yn rhoi hyder i mi i roi fy nghynlluniau at y dyfodol ar waith!”