Menna Jones

Y Trallwng, Powys

Ar hyn o bryd mae Menna Jones yn astudio yng Ngholeg NPTC, Y Drenewydd, lle mae wedi cael rhagoriaeth ym mlwyddyn gyntaf ei Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth. Ochr yn ochr â’i hastudiaethau mae’n cael profiad ymarferol gwerthfawr ar fferm ddefaid a bîff ei theulu yn Sir Drefaldwyn, a defaid yw ei phrif ddiddordeb. Bu’n gweithio rhan-amser yn y gorffennol ar fenter ddofednod fawr lle roedd yn gyfrifol am lwytho cywion diwrnod oed, monitro eu hiechyd a sicrhau bod y cyflenwadau dŵr a bwyd yn cael eu cynnal iddyn nhw. 

Bu Menna’n gweithio hefyd gyda ffermwyr lleol yn helpu gyda thasgau fel porthi a rhoi deunydd gorwedd dan anifeiliaid, gwiriadau iechyd, cneifio a thocio. Ar ôl gorffen yn y coleg, mae’n gobeithio teithio i Seland Newydd i ehangu ei gorwelion cyn canolbwyntio ar eneteg defaid a chynhyrchu ŵyn o safon yn ei gyrfa. Ei huchelgais tymor hir yw creu ei diadell ei hun o ddefaid Charollais pedigri. 

Yn aelod brwdfrydig a gweithgar o’i Chlwb Ffermwyr Ifanc lleol, mae Menna hefyd yn cyfrannu at ei chymuned trwy’r cyfryngau cymdeithasol a newyddlen ei chapel. 

“Bydd yr Academi Amaeth yn cynyddu fy hyder ac ehangu fy ngwybodaeth am systemau ffermio gwahanol.

“Rwy’n edrych ymlaen at gyfarfod rhwydwaith newydd o gysylltiadau, mentoriaid a ffrindiau y gallaf droi atynt am gyngor wrth i lwybr fy ngyrfa ddatblygu – mae’n gyfle anhygoel.”