Garmon Powys Griffiths
Machynlleth, Powys
Mae Garmon Griffiths yn fab fferm sydd yn y chweched genhedlaeth ar eu fferm deuluol ger Machynlleth. Mae’n angerddol am amaethyddiaeth, anifeiliaid a pheiriannau amaethyddol yn neilltuol. Mae’n cyfuno helpu gartref â bywyd myfyriwr ac mae ar ail flwyddyn ei gwrs peiriannau ac amaethyddiaeth yng Ngholeg Glynllifon.
Yn awyddus bob amser i gael sgiliau newydd a dysgu oddi wrth eraill, mae’n mwynhau ymweld â ffermydd eraill i weld systemau gwahanol a chael syniadau newydd. Cafodd brofiad gwaith ar fferm RSPB yn ystod y cyfnod ŵyna; godro a gwaith fferm cyffredinol ar uned laeth ac fe wnaeth fwynhau cynnal a thrwsio peiriannu fferm i fusnes lleol yn neilltuol. “Bod yn ddibynadwy, effeithiol a phrydlon bob amser” yw ei fantra!
Mae Garmon yn hoffi iawn o deithio ac mae wedi ymweld â nifer o wledydd Ewrop ar wyliau a thrwy’r CFfI. Yn siaradwr Cymraeg rhugl a hyderus ac yn barod iawn i godi arian a gwirfoddoli dros achosion yn ei gymuned, mae Garmon hefyd yn aelod gweithgar o’i Glwb Ffermwyr Ifanc lleol. Enillodd gwpan y Siaradwr Iau yn 2023 a chynrychioli Sir Drefaldwyn mewn cystadleuaeth genedlaethol i’r Ffermwyr Ifanc.
“Rwy’n gweld Rhaglen yr Ifanc fel cyfle gwych i wella fy hyder, gwthio fy ffiniau ac adeiladu ar fy nghryfderau.
“Bydd ymweld â ffermydd yn Norwy, gwlad sy’n adnabyddus am ei safon byw uchel ac arferion ffermio llwyddiannus yn brofiad na fyddwn am ei golli am y byd!”