Lora Jen Pritchard
Pwllheli, Gwynedd
Mae Lora Jen Pritchard yn fyfyriwr amaeth ymroddedig sy’n astudio Amaethyddiaeth Lefel 3 yng Ngholeg Glynllifon ar hyn o bryd. Maged Lora ar fferm bîff a defaid ger Pwllheli, ac mae wedi datblygu profiad ymarferol yn helpu gyda buches Salers Pedigri 150 o bennau a diadell o ddefaid Dorset ac mae’n rheoli ei menter ddefaid Brith Iseldiraidd ei hun. Mae ei brwdfrydedd am y diwydiant yn cyfateb i’w hymrwymiad i ddysgu, yn academaidd ac ymarferol.
Yn aelod gweithgar o’r Ffermwyr Ifanc ers dros bum mlynedd, mae Lora wedi bod yn gadeirydd ar ei chlwb lleol ac mae wedi cael gwobr ‘Aelod Iau'r Flwyddyn’ yn Eryri ddwywaith. Mireiniodd ei sgiliau cyfathrebu trwy gystadlaethau siarad cyhoeddus ac ysgrifennu yn ogystal â digwyddiadau codi arian cymunedol.
Yn y pen draw mae Lora Jen yn dymuno astudio Amaethyddiaeth a Busnes ym Mhrifysgol Harper Adams. Ei breuddwyd yw dychwelyd i Gymru rhyw ddiwrnod fel darlithydd coleg, gan rannu ei gwybodaeth a pharhau i lywio blaengaredd yn amaethyddiaeth Cymru.
Dewiswyd Lora Jen i’r Rhaglen yr Ifanc oherwydd ei huchelgais glir, nodweddion fel arweinydd a’i dull rhagweithiol o wella arferion fferm, yn neilltuol ei diddordeb mewn geneteg a’r amgylchedd.
“Rwy’n gobeithio y bydd fy mhrofiad gyda’r Academi Amaeth yn rhoi dealltwriaeth ehangach i mi o sut y mae ffermydd ar draws Cymru a Norwy yn gweithredu, datblygu fy hyder, ac rwy’n edrych ymlaen at lunio cysylltiadau parhaus gyda ffermwyr ifanc o’r un meddylfryd a phobl fusnes ysbrydoledig.