Ruben Davies

Llangadog, Sir Gâr

Ar hyn o bryd mae’r ffermwr ifanc uchelgeisiol Ruben Davies yn cwblhau ei flwyddyn ar leoliad ar fferm bîff a defaid ei deulu fel rhan o Ddiploma Cenedlaethol Estynedig Lefel 3 Mewn Amaethyddiaeth yng Ngholeg Hartpury. Yn angerddol am ddyfodol ffermio, mae Ruben yn mwynhau defnyddio’r hyn a ddysgodd yn y coleg gartref ac mae’n bwriadu astudio amaethyddiaeth i lefel gradd cyn dychwelyd i redeg y fferm gyda’i dad. Ei nod yn yr hirdymor yw datblygu ei fenter ei hun a magu buches o wartheg, cadw defaid ac yn y pen draw prynu ei dir ei hun.

Mae wedi cwblhau amrywiaeth o gyrsiau hyfforddiant ymarferol Cyswllt Ffermio, gan gael tystysgrifau mewn trin tryc codi telesgopig, ffensio a gosod giatiau – y cyfan yn sgiliau y mae’n eu defnyddio ar y fferm. 

Yn gyfathrebwr hyderus, roedd Ruben yn chwarae rygbi i’w dîm iau lleol am flynyddoedd ac mae’n aelod brwd o’i Glwb Ffermwyr Ifanc lleol, mae’n mwynhau bod yn rhan o nifer o ymgyrchoedd codi arian cymunedol. Yn y gorffennol enillodd wobr Stocmon Ifanc Sir Gaerfyrddin a chynrychiolodd y sir yn barnu stoc yn niwrnod Gwaith Maes y Ffermwyr Ifanc.

“Bydd yr Academi Amaeth yn rhoi cyfle gwych i mi ddysgu sut y mae busnesau gwledig eraill yn y Deyrnas Unedig ac yn Norwy yn gweithredu, ac ni allaf aros nes cael cyfarfod pobl newydd sy’n rhannu’r un diddordebau ac angerdd fel sydd gennyf fi.”