Llifon Davies
Carmarthen, Sir Gâr
Magwyd Llifon Davies ar fferm laeth gyda 60 o fuchod yn Sir Gâr, gan ddatblygu agwedd iach at waith ac angerdd am amaethyddiaeth. Wedi ei ysgogi i wneud ffermio ar raddfa fechan yn broffidiol a chynaliadwy fel gyrfa lawn-amser, astudiodd Amaethyddiaeth a Rheoli Busnes Fferm ym Mhrifysgol Harper Adams i baratoi ei hun gyda’r wybodaeth a’r meddylfryd angenrheidiol i gyflawni ei nodau.
Ar ôl graddio, cafodd Llifon brofiad rhyngwladol yn Seland Newydd, gan weithio gyda mentrau gwartheg a defaid ar raddfa fawr. Wrth ddychwelyd adref ymunodd ag un o ffermwyr bîff a defaid mwyaf blaengar Cymru, un o arloeswyr cynnar pori cylchdro a ffermio adfywiol, gan ddyfnhau ei ddealltwriaeth o ddulliau ffermio cynaliadwy.
Mae Llifon yn awr yn bartner mewn busnes magu 300 o loeau yn dilyn bod yn Swyddog Technegol Cig Coch i Cyswllt Ffermio. Mae’r fferm yn cael ei rhedeg ar system syml sy’n canolbwyntio ar werthoedd adfywiol, yn rhoi blaenoriaeth i bori cylchdro, cynaliadwyedd amgylcheddol a phroffidioldeb. Mae’r busnes yn defnyddio cyn lleied o wrtaith ag sy’n bosibl, gan wneud y defnydd gorau o dail ac ymgorffori codlysiau i ymdrin â lefelau’r nitrogen yn naturiol.
“Ein nodau yw bod yn broffidiol, cadw cydbwysedd bywyd-gwaith da a gofalu am yr amgylchedd trwy systemau ffermio cynaliadwy.
“Rwy’n hyderus y bydd yr Academi Amaeth yn fy nghysylltu â phobl fusnes flaengar, yn gwella fy sgiliau rheoli ac yn ehangu fy rhwydweithiau.”