Ynyr Mon Pugh

Machynlleth, Powys

Wedi ei fagu mewn cymuned amaethyddol, datblygodd Ynyr Pugh ei angerdd am amaethyddiaeth yn gynnar iawn, wedi ei ysbrydoli gan yr amser a dreuliodd yn helpu ei daid a thrwy ei ran a’r Clybiau Ffermwyr Ifanc. Ar ôl astudio Amaethyddiaeth yng Ngholeg Glynllifon a Phrifysgol Aberystwyth, aeth i dreulio chwe thymor yn cneifio yn Seland Newydd, gan hefyd weithio yn Norwy a Ffrainc, ynghyd â rhedeg ei fusnes cneifio ei hun.

Rhwng tymhorau roedd yn gweithio fel contractwr amaethyddol. Yn awr, fel partner busnes ar fferm 600 erw yn Nyffryn Dyfi a hwyluswyd gan gynllun ffermio cyfran Cyswllt Ffermio ‘Dechrau Ffermio’, mae wedi arwain ar gyflwyno newidiadau allweddol i wella cynhyrchiant a gwytnwch. Mae’r rhain yn cynnwys newid bridiau da byw, cynyddu cyfraddau stocio, cyflwyno pori cylchdro a datblygu isadeiledd amgylcheddol.  Yn frwd dros ddatblygiad proffesiynol parhaus, dywed Ynyr ei fod yn cael budd o’r dysgu parhaus trwy nifer o ddigwyddiadau, gwasanaethau a chyfleoedd hyfforddiant gan Cyswllt Ffermio.  

“Bydd yr Academi Amaeth yn gyfle gwych i ddysgu o brofiadau ffermwyr a phobl fusnes eraill blaengar ac uchelgeisiol.”