Mae rheoli ac argaeledd ardaloedd naturiol a lled-naturiol yn hanfodol ar gyfer cynnal a gwella lefelau bioamrywiaeth ledled Cymru. Mae lefelau bioamrywiaeth uchel yn gysylltiedig ag ystod o wasanaethau ecosystemau, gan gynnwys lleihau allyriadau, peillio a rheoli plâu a chlefydau, i enwi dim ond rhai. Yn hynny o beth, mae gallu adnabod yr ardaloedd o gynefin lled-naturiol sydd gennych ar eich tir a deall yr ystyriaethau sylfaenol ar gyfer pob math o gynefin yn fan cychwyn pwysig.
Ansicr beth yw BOSS? [Ffeindiwch allan mwy]