Mynd i’r afael â chlefydau rhewfryn

Mae fferm Graianfryn yn bwriadu datblygu protocol newydd ar reoli iechyd a chlefydau’r ddiadell ar ôl prawf sgrinio diweddar ar gyfer clefydau rhewfryn ar y ddiadell o ddefaid tiroedd y gogledd. Fe wnaeth y canfyddiadau dynnu sylw at gamau gweithredu strategol i wella iechyd a chynhyrchiant cyffredinol y ddiadell.

  • Er mwyn mynd i’r afael â’r canfyddiadau hyn ac i hybu perfformiad, bydd cynllun rheoli iechyd yn cael ei roi ar waith, gan ganolbwyntio ar fesurau rhagweithiol ar gyfer atal clefyd a rheolaeth effeithiol, drwy roi’r canlynol ar waith:

  • Bio-ddiogelwch anifeiliaid a brynir: Bydd stoc newydd yn cael eu cadw mewn cwarantîn, yn cael eu gwahanu a’n cael prawf trylwyr i edrych am glefydau cyn integreiddio’r ddiadell.

  • Rheolaeth clefydau wedi’i dargedu: Os caiff clefyd ei ganfod, bydd strategaethau megis gwahanu’r ddiadell, brechu neu ddifa’r anifeiliaid yr effeithir arnynt yn cael eu rhoi ar waith.

Iechyd parhaus y ddiadell: Cynnal amserlen brofi gyson a defnyddio data sgrinio i lywio difa a rheoli clefydau.

Yn ogystal â hyn, bydd cyfrifiannell ar-lein yn cael ei ddatblygu gyda Phrifysgol Lerpwl i helpu ffermwyr eraill i wneud penderfyniadau allweddol ar reoli clefydau rhewfryn yn eu diadell eu hunain.

Bydd y prosiect yn cyfrannu at y canlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy canlynol:

  • Defnyddio adnoddau’n effeithiol
  • Safonau iechyd a lles anifeiliaid uchel