Defnyddio nitrogen yn effeithlon er mwyn sicrhau’r cynnyrch betys porthiant gorau posibl
Mae gan fetys porthiant botensial i gynhyrchu mwy o gynnyrch nag unrhyw gnwd arall a dyfir yn y DU. Mae’r potensial cynhyrchu hwn yn trosi’n uniongyrchol i fanteision economaidd sylweddol i ffermwyr. Mae cyfaint y porthiant maethlon a gynhyrchir yn golygu bod betys porthiant yn un o’r cnydau porthiant rhataf fesul cilogram o ddeunydd sych. Yn ogystal, mae ei broffil maethol ardderchog hefyd yn golygu ei fod yn un o’r cnydau porthiant rhataf fesul mega joule o egni. Mae’r buddion deuol - cynnyrch uchel a chynnwys egni uchel - yn ei wneud yn opsiwn deniadol i gynhyrchwyr sy’n ceisio sicrhau’r allbynnau mwyaf posibl. Fodd bynnag, nid yw’n gnwd lle gellir torri corneli wrth sefydlu neu dyfu. Gall unrhyw broblemau yn ystod y cyfnod tyfu, megis diffyg paratoi’r pridd yn ddigonol, rheoli maetholion yn annigonol, neu ddiffyg rheoli chwyn, leihau cynnyrch yn sylweddol a lleihau manteision economaidd y cnwd.
Mae canlyniadau prosiect Ein Ffermydd ar fferm Crickie yn 2024 a fu’n treialu hadau wedi’u preimio a gwasgaru Nitrogen yn hwyrach yn awgrymu bod hadau wedi’u preimio yn fuddsoddiad doeth. Dangosodd y betys porthiant a dyfwyd o hadau wedi’u preimio gynnydd o 35% mewn cynnyrch bylbiau o’i gymharu â betys porthiant a dyfwyd o hadau safonol. Mae’r cynnydd hwn yn amlygu effeithiolrwydd hadau wedi’u preimio ar gyfer hybu twf cryf a chynnar, gan arwain yn y pen draw at gynnyrch terfynol llawer uwch. Cafwyd effaith gadarnhaol drwy wasgaru Nitrogen yn hwyr, gan gyfrannu at gynhyrchu 10% o fylbiau ychwanegol a chynnydd o 18% yng nghynnyrch y dail. Mae hyn yn dangos bod gwasgaru nitrogen ar gam hollbwysig yn natblygiad y planhigyn yn chwarae rôl hanfodol er mwyn gwella cynhyrchiant y gwreiddiau a’r dail. Llwyddodd y triniaethau cyfun o hadau wedi’u preimio a nitrogen i sicrhau budd o 40% o ran cynnyrch o’i gymharu â’r driniaeth safonol.
Bydd y prosiect hwn yn ymchwilio a yw gwasgaru Nitrogen trwy’r dail yn ystod cyfnodau olaf twf betys porthiant yn gallu bod yn fwy effeithlon nag ychwanegu Nitrogen ar ffurf pelenni. Yn benodol, bydd y prosiect yn archwilio sut mae’r dull o wasgaru nitrogen yn dylanwadu ar gymeriant maetholion, cynnyrch, ac effeithlonrwydd nitrogen yn gyffredinol. Mae gwrteithiau nitrogen ar ffurf pelenni fel arfer yn cael ei wasgaru ar y pridd, lle gallant gael eu colli gan leihau faint o nitrogen sydd ar gael i’r cnwd. Mae gwasgaru ar y dail ar y llaw arall yn cludo nitrogen yn uniongyrchol i ddail y planhigyn, a allai leihau’r colledion hyn a gwella effeithiolrwydd defnydd nitrogen.
Bydd y prosiect hwn hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy gan gynnwys:
Defnyddio adnoddau’n effeithlon
Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr
Dŵr glân