Effaith cynnwys betys porthiant ar allyriadau nwyon tŷ gwydr ac effaith amgylcheddol
Mae gan fferm Crickie fuches fagu o 55 o fuchod croes cyfandirol a roddir i darw Aberdeen Angus neu Limousin ac mae’r lloeau’n cael eu gwerthu yn wartheg stôr rhwng 16 a 18 mis oed, yn amrywio o 500-600 kg. Costau dwysfwyd a deunydd dan yr anifeiliaid yw prif gostau’r fenter wartheg, yr amcangyfrifir eu bod 148% yn uwch na chyfartaledd yr Arolwg Busnesau Fferm.
Mae’r prosiect yn edrych ar ffyrdd o leihau’r costau hyn trwy aeafu’r gwartheg allan ar fetys porthiant, sydd â’r potensial i roi mwy o gynnyrch na chnydau porthiant eraill a dyfir yn y Deyrnas Unedig. Oherwydd y cynnyrch uchel, mae gan fetys porthiant y potensial i fod yn un o’r cnydau rhataf i bob kg o ddeunydd sych, yn ogystal ag un o’r cnydau porthiant rhataf am bob megajule o ynni oherwydd ei nodweddion maethiannol.
Bydd y prosiect yn edrych ar ffyrdd o ymgorffori’r cnwd hwn yn effeithiol yn y fenter bîff fel modd o leihau costau gaeafu, gan edrych yn benodol ar sefydlu, trosi’n effeithiol i strategaethau betys porthiant a phori i ddefnyddio’r cnwd yn effeithiol sy’n lleihau’r effeithiau amgylcheddol.
Mae’r prosiect hefyd yn anelu at asesu effaith cynnwys betys porthiant ar allyriadau nwyon tŷ gwydr y fuches a’r effaith amgylcheddol.
Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ddeilliannau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:
- Cyfrannu at iechyd a lles da i’r fuches
- Effeithlonrwydd adnoddau
- Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr y fferm