Torri padogau pori ymlaen llaw

Mae Moor Farm yn cynnal system bori cylchdro drwy gydol misoedd yr haf ar gyfer y fuches sy’n lloia yn y gwanwyn, a system bori achlysurol yn ystod y gwanwyn a’r hydref i sicrhau bod diet y fuches yn cynnwys cymaint o laswellt â phosibl. Mae’r fuches Ffrwd Holstein Friesian yn wartheg o faint canolig gyda chynhyrchiant a chymeriant uwch na’r anifeiliaid croesfrid a geir mewn system loia yn y gwanwyn yn seiliedig ar ddulliau Seland Newydd. 

Bydd y prosiect hwn yn ymchwilio a yw torri ymlaen llaw yn ffordd effeithiol o gynnal ansawdd y borfa o fewn system y fferm. Ar hyn o bryd, mae’r ffermwr, Rhys, yn torri unrhyw badogau gyda gorchudd o fwy na 3,100kgDM/ha ymlaen llaw, a phan fo’r glaswellt yn goesog ac yn cyrraedd y cam atgynhyrchu. Byddai rhai padogau’n cael eu torri ymlaen llaw 3-4 gwaith yn ystod y tymor pori.

Mae’r ffermwr yn credu bod hyn yn ffordd gost effeithiol o gynnal ansawdd y borfa a lleihau baich chwyn yn y gwndwn yn ystod y tymor pori, gan hefyd sicrhau perfformiad a chymeriant glaswellt y fuches.

Yr hyn a fydd yn cael ei wneud

  • Bydd cae ger yr iard yn cael ei ddewis ar gyfer yr arbrawf, ac yn cael ei rannu’n dair llain 1 hectar:
    • Bydd Llain A yn llain reoli lle bydd yr anifeiliaid yn pori’r glaswellt heb unrhyw ymyrraeth gan beiriannau yn ystod misoedd yr haf.
    • Bydd Llain B yn cael ei rhannu’n ddwy ran lle bydd hanner y llain yn cael ei thorri ymlaen llaw a’r hanner arall yn cael ei adael heb unrhyw ymyrraeth.
    • Bydd Llain C yn cael ei thorri ymlaen llaw oddeutu 6-12 awr cyn pob cylchdro yn ystod y tymor pori
  • Bydd twf glaswellt yn cael ei fesur bob wythnos gan ddefnyddio mesurydd plât/system dorri a phwyso i bennu sawl tunnell o ddeunydd sych a gynhyrchir fesul hectar
  • Bydd samplau glaswellt ffres yn cael eu hanfon i labordy Sciantec ar gyfer profion sbectrosgopeg is-goch agos (NIRS) ac yn cael eu casglu cyn pori pob padog; bydd oddeutu 8-9 sampl yn cael eu cymryd ym mhob llain am weddill y tymor 

Ffigur 1. Glaswellt ffres yn cael ei dorri a’i anfon i’r labordy i’w ddadansoddi

Bydd lluniau’n cael eu tynnu cyn ac ar ôl pori pob llain drwy gydol y tymor
Bydd cwadrad yn cael ei ddefnyddio i asesu ansawdd gweledol y borfa, presenoldeb chwyn, dwysedd y borfa cyn, yn ystod ac ar ddiwedd yr arbrawf i nodi cynnydd ac unrhyw newid.

Ffigur 2. Defnyddio cwadrad er mwyn cyfrif chwyn a chynnal asesiad gweledol o ansawdd y borfa ar ddechrau’r prosiect

  • Bydd coleri cnoi cil yn cael eu gosod ar 10 buwch ar hap yn y fuches a bydd ymddygiad y gwartheg yn cael ei fonitro gan gynnwys cnoi cil, cymeriant bwyd, amser yn pori ac amseroedd gorwedd.
  • Bydd costau’n cael eu cyfrifo ar gyfer torri ymlaen llaw/tocio a byrnu pob padog
  • Bydd ffigwr elw ar fuddsoddiad (ROI) yn cael ei gyfrifo ar ddiwedd y prosiect ar gyfer torri ymlaen llaw i helpu i egluro a yw’n arf effeithiol i reoli’r borfa a gorchudd cyn pori ar y platfform bori

Bydd y prosiect yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy gan gynnwys:

  • Safonau iechyd a lles anifeiliaid uchel
  • Storio carbon
  • Lleihau risg llifogydd a sychder
  • Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr
  • Defnyddio adnoddau’n effeithiol