Canlyniadau arbrawf torri padogau ymlaen llaw ar fferm Moor Farm
Prif ganlyniadau
- Nid yw torri glaswellt ymlaen llaw yn gwella ansawdd glaswellt – Egni Metaboladwy (ME), gwerth D, protein crai (Tabl 2)
- Nid oes budd economaidd i dorri glaswellt ymlaen llaw mewn system bori cylchdro heblaw am y ffaith ei fod yn “edrych yn dda” ond mae’n gallu cynnig hyblygrwydd o ran rheolaeth (Tabl 4)
- Gellir defnyddio’r dechneg i reoli gorchudd uchel (>3,400 kgDM/ha) a gwella’r defnydd o’r glaswellt pan nad ydych yn gallu fforddio tynnu padog allan o’r system fel gwarged. Gellir defnyddio’r dechneg yn effeithiol mewn sefyllfa sychder
- Ni lwyddodd y dechneg o dorri glaswellt ymlaen llaw i annog mwy o dwf glaswellt – yn ein harbrawf, tyfodd y glaswellt a gafodd ei dorri ymlaen llaw 0.4 tunnell DM/ha yn llai na’r padog rheoli (Tabl 2)
- Ni lwyddodd y dechneg o dorri glaswellt ymlaen llaw i leihau baich chwyn yn y padogau
Cefndir
Mae fferm Moor Farm yn cynnal system bori cylchdro drwy gydol misoedd yr haf ar gyfer y fuches o wartheg Holstein Friesian sy’n lloia yn y gwanwyn, ynghyd â phori achlysurol yn y gwanwyn a’r hydref i sicrhau bod y gwartheg yn bwyta cymaint o laswellt â phosibl. Mae’r fuches yn cynnwys gwartheg o faint canolig gyda chynhyrchiant a chymeriant uwch na’r anifeiliaid croesfrid nodweddiadol a geir mewn system loia yn y gwanwyn yn seiliedig ar ddulliau Seland Newydd.
Bu’r prosiect hwn yn archwilio effeithiolrwydd torri glaswellt ymlaen llaw er mwyn cynnal ansawdd y borfa. Yn y gorffennol, bu’r ffermwr yn torri unrhyw badogau gyda gorchudd dros 3,100kg DM/ha ymlaen llaw, neu pan fo’r glaswellt yn goesog ac yn cyrraedd y cam atgynhyrchu. Byddai’n gwneud hyn 3-4 gwaith bob tymor. Ar hyn o bryd, mae’r ffermwr yn credu bod torri ymlaen llaw yn strategaeth gost-effeithiol er mwyn cynnal ansawdd y borfa, lleihau chwyn, a sicrhau perfformiad a chymeriant glaswellt y fuches.
Diben y gwaith
Ychydig iawn o waith ymchwil sydd ar gael yn edrych ar dorri glaswellt ymlaen llaw ar system ffermio llaeth allbwn canolig yn seiliedig ar laswellt, felly sefydlwyd arbrawf i archwilio effaith torri glaswellt ymlaen llaw ar y canlynol:
- Ansawdd y borfa yn ystod y tymor pori
- Baich chwyn yn y padogau
- Twf glaswellt
- Cymeriant, cynhyrchiant ac ymddygiad anifeiliaid (amseroedd gorwedd a bwyta)
- Cost-effeithiolrwydd
Yr hyn a wnaed
- Dewiswyd cae ger yr iard ar gyfer yr arbrawf, a chafodd ei rannu’n ddau badog 1 hectar:
a. Padog A oedd y dull rheoli, sef pori’r borfa heb unrhyw ymyrraeth gan beiriannau yn ystod misoedd yr haf
b. Cafodd Padog B ei thorri ymlaen llaw oddeutu 6-12 awr cyn pob rownd yn ystod y tymor pori - Mesurwyd twf y glaswellt bob wythnos neu bythefnos gan ddefnyddio mesurydd plât a’r system torri a phwyso i ganfod faint o dunelli o ddeunydd sych a gynhyrchwyd fesul hectar
- Casglwyd samplau glaswellt ffres cyn pori pob padog ac ar gyfer dadansoddiad Sbectrosgopi Is-goch agos (NIRS)
- Defnyddiwyd cwadrad i asesu ansawdd gweledol y borfa, presenoldeb chwyn, a dwysedd y borfa cyn, yn ystod ac ar ddiwedd yr arbrawf
- Gosodwyd coleri gwartheg cnoi cil ar 10 buwch ar hap yn y fuches, a chafodd ymddygiad y gwartheg ei fonitro gan gynnwys cnoi cil, cymeriant, ac amseroedd pori a gorwedd
Canlyniadau
Tabl 1. Tunnelli a dyfwyd fesul ha ar bob padog yn 2025
Padog | Ardal | Cyfanswm tunnell / ha | Tunnell/ha | Tunnell/ha | Mesuriadau | Cyfartaledd dyddiol |
Llain reoli | 0.856 | 6.4 | 1.5 | 4.9 | 14 | 46.8 |
Torri padog ymlaen llaw | 0.856 | 6 | 1.6 | 4.4 | 14 | 39.7 |
Tabl 2. Dadansoddiad glaswellt
| Triniaeth wedi’i reoli | |||||||
| Dyddiad | | 3/5/25 | 18/5/25 | 5/6/25 | 29/6/25 | 15/7/25 | 31/7/25 |
| Deunydd sych | (g/kg) | 198 | 215 | 176 | 193 | 197 | 189 |
| ME | (MJ/kg) | 11.3 | 10.9 | 11 | 10.9 | 11 | 11.2 |
| Protein crai | (g/kg) | 185 | 184 | 191 | 210 | 169 | 184 |
| Gwerth D | | 72 | 69.2 | 70 | 69.4 | 69.7 | 71.2 |
| Triniaeth ar badogau wedi’u torri ymlaen llaw | |||||||
| Dyddiad | (g/kg) | 9/5/25 | | 2/6/25 | 28/6/25 | 11/7/25 | |
| Deunydd sych | (MJ/kg) | 196 | | 216 | 208 | 210 | |
| ME | (g/kg) | 11.2 | | 10.8 | 11 | 10.8 | |
| Protein crai | | 172 | | 161 | 204 | 176 | |
| Gwerth D | | 71.2 | | 68.5 | 69.9 | 68.6 | |
*Yn yr arbrawf hwn, casglwyd samplau glaswellt cyn mynd ati i dorri ymlaen llaw/pori; mewn tywydd sych. Byddai’r deunydd sych yn y porthiant sydd ar gael i’r gwartheg ar y padogau sydd wedi’u torri ymlaen llawn yn wahanol i’r canlyniadau uchod
Nid oedd y data a gasglwyd gan y coleri gwartheg (Ffigur 1) yn dangos unrhyw wahaniaeth amlwg mewn ymddygiad gwartheg ar y padog a dorrwyd ymlaen llaw o’i gymharu ag unrhyw badogau eraill a borwyd ar y fferm.
Ffigur 1. Data coleri cnoi cil
Chwyn ac ansawdd gweledol y borfa: Defnyddiwyd cwadrad i gyfrif chwyn ac i gynnal asesiad gweledol o ansawdd y borfa yn ystod yr arbrawf, ond ni welsom wahaniaeth sylweddol rhwng y triniaethau dros gyfnod yr arbrawf. Ni chafodd y chwyn eu chwistrellu yn ystod cyfnod yr arbrawf.
Opsiynau eraill ar gyfer rheoli padogau
- Tocio - Gall ail-dyfiant gael ei effeithio os nad yw’r glaswellt yn cael ei docio ar unwaith ar ôl pori, byddai’n cynrychioli cost debyg i dorri ymlaen llaw.
- Byrnu – Os oes digonedd o laswellt mewn mannau eraill ar y fferm, torri a byrnu padogau pori gyda glaswellt hirach fyddai’r opsiwn mwyaf addas er mwyn sicrhau’r defnydd gorau posibl.
- Symud gwartheg yn amlach – Er mwyn lleihau costau tanwydd a pheiriannau o’i gymharu â thorri cyn pori ac ati, gall symud y fuches 2/3 gwaith o fewn cyfnod o 12 awr arwain at well defnydd o orchudd uwch.
Tabl 3. Galw am laswellt fesul buwch ar gyfer cynhyrchiant
| Pwysau byw’r gwartheg (kg) | |||||
*Kg MS/Buwch/Dydd | 350 | 400 | 450 | 500 | 550 | 600 |
1 | 12.3 | 12.9 | 13.6 | 14.2 | 14.8 | 15.4 |
1.25 | 13.8 | 14.5 | 15.1 | 15.7 | 16.3 | 16.9 |
1.5 | 15.3 | 15 | 16.6 | 17.2 | 17.8 | 18.4 |
1.75 | 16.9 | 17.5 | 18.2 | 18.8 | 19.4 | 20 |
2 | 18.4 | 19.1 | 19.7 | 20.3 | 20.9 | 21.5 |
2.25 |
|
| 21.2 | 21.8 | 22.5 | 23 |
2.5 |
|
|
|
|
| 24.6 |
Galw ar gyfer gwartheg yn seiliedig ar borthiant o 12 MJME/kgDM; defnyddio 85% o’r porthiant | ||||||
|
|
|
|
|
| (Agrinet, 2025) |
*Kg MS/Buwch/dydd = Kg o solidau llaeth fesul buwch bob dydd
Tabl 4. Costau torri 1 hectar mewn 1 awr*
Llafur |
| £20-30 |
Dibrisiant peiriannau | £15-25 | |
Tanwydd |
| £10-20 |
Traul |
| £5-10 |
Cyfanswm |
| £50-90 |
*Amcangyfrifon yw’r uchod. Byddai’r gost yn amrywio’n sylweddol gan ddibynnu p’un ai’r ffermwr neu gontractwr sy’n gweithredu’r offer, ynghyd â’r peiriannau a’r tractor a ddefnyddir o ran dibrisiant a defnydd o danwydd.
Canlyniadau
- Mae’r gwaith hwn wedi dangos bod rhywfaint o enillion yn bosibl trwy dorri padogau cyn pori. Fodd bynnag, os defnyddir y dull hwn, mae’n bwysig ystyried amseriad y torri a’r pori dilynol.
- Agweddau ychwanegol ar y prosiect at y dyfodol: mae’n bosibl y byddai effeithiau mwy hirdymor ar bresenoldeb chwyn, ynghyd â deunydd organig y pridd, lefelau nitrogen a biomas microbaidd, yn ogystal â bioamrywiaeth a dal a storio carbon a fyddai’n gofyn am ymchwiliadau pellach.