26 Awst 2025

Mae ffermwyr a thyfwyr sy’n treialu gwahanol dechnegau ffermio ac agweddau arloesol fel rhan o rwydwaith Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio yn cynnal digwyddiadau ym mis Medi, lle gall ffermwyr eraill ddysgu am ganfyddiadau prosiectau’n amrywio o driniaethau dethol wedi’i thargedu ar gyfer defaid i ryng-gnydio india corn.

Am yr ail flwyddyn yn olynol, bydd Cyswllt Ffermio yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ‘Ymweld ag Ein Ffermydd’ ym mis Medi ar ei rwydwaith o ffermydd bîff, defaid a llaeth ac mewn busnesau sy’n cynhyrchu llysiau, ffrwythau a blodau ar gyfer y sector garddwriaeth.

Y llynedd, cynhaliwyd 15 o’r digwyddiadau trosglwyddo gwybodaeth hyn, ond roedden nhw mor boblogaidd ymysg y diwydiant, penderfynwyd cynyddu’r nifer i 22 ar gyfer 2025.

Mae pob taith yn cynnig cyfle i ffermwyr a thyfwyr eraill gael cipolwg gwerthfawr ar y treialon a’r prosiectau sydd wedi’u cwblhau neu sydd ar waith.

Ar fferm Parc y Dderwen, Llangolman, Sir Benfro, lle mae Lauren Simpson a Phil Moore yn rhedeg nifer o fentrau garddwriaeth ar eu daliad 5ha, bydd ymwelwyr yn gweld y cynnydd sy’n cael ei wneud ar waith prosiect Ein Ffermydd sef tyfu cnydau bwytadwy a llysieuol parhaol i gyflenwi marchnadoedd newydd.

Maent hefyd yn tyfu cnydau ar gyfer arbed hadau’n fasnachol i gyflenwi busnesau o Gymru, sef Real Seeds a Welsh Seed Hub.

Yn ystod y digwyddiad ar fferm Parc y Dderwen, bydd pynciau trafod yn cynnwys menter arallgyfeirio Lauren a Phil i gnydau garddwriaeth parhaol, sut maent yn manteisio ar arbed hadau yn fasnachol, a sut maent yn cynhyrchu cnydau bresych ar gyfer eu busnes masnachol yn cynhyrchu bwyd wedi’i eplesu.

Dywed Lauren y bydd yn cynnig llawer o gyfleoedd i dyfwyr eraill ddysgu sut i wella incwm a photensial bioamrywiaeth eu busnesau eu hunain.

Un agwedd ar y fenter yw ychwanegu gwerth, meddai, gyda chegin brosesu ar y safle, sy’n enghraifft o sut y gall cynhyrchwyr cynradd greu incwm ychwanegol neu wneud i’r hyn y maent yn ei dyfu bara am gyfnod hwy.

Mae’r busnes hefyd yn enghraifft dda o sut y gellir creu busnes hyfyw o ardal dyfu gymharol fach, ychwanegodd Lauren.

“Mae gennym ni hefyd lawer o ardaloedd bywyd gwyllt, felly byddwn yn gallu gweld sut y gellir integreiddio bioamrywiaeth ochr yn ochr â thyfu,” meddai.

Bydd y siaradwyr yn cynnwys yr arbenigwr coed amaeth Tom Clare, Kate McEvoy o gwmni Real Seeds, a Geraint Jones, Arbenigwr Coedwigaeth gyda Cyswllt Ffermio.

Byddant yn rhannu gwybodaeth fanwl am reoli cnydau parhaol, cynhyrchu incwm drwy arbed hadau, ac yn cynghori sut y gellir defnyddio coed i wella garddwriaeth barhaol i dyfu busnes.

Gellir gweld gwerth y digwyddiad hwn ac eraill yn y gyfres o deithiau fferm yn ôl faint o bobl a fynychodd y rhaglen y llynedd, gyda 99% o fynychwyr yn nodi eu bod wedi dysgu rhywbeth newydd, a 93% yn nodi eu bod yn bwriadu gwneud newidiadau o fewn eu busnesau yn dilyn y digwyddiadau.

Dywed Swyddog Sector Garddwriaeth Cyswllt Ffermio, Hannah Norman, fod y digwyddiad ar fferm Parc y Dderwen yn gyfle i ffermwyr a thyfwyr archwilio elfennau sylfaenol cylchrediadau cnydau tymor hwy, yn enwedig ystyriaethau ar gyfer cynhyrchu cnydau parhaol, arbed hadau ac integreiddio coed mewn systemau garddwriaethol.

“Mae’r arbrawf ar fferm Parc y Dderwen wedi bod yn edrych ar ddulliau sefydlu gwahanol gnydau parhaol a sut i reoli iechyd y pridd, chwyn, plâu a chlefydau ar gyfer y planhigion nad ydynt yn rhan o’r cylchdro,’’ meddai Hannah, sydd wedi bod yn goruchwylio gwaith y prosiect.

“Bydd arbenigwyr technegol gwych yn ymuno â ni ym mis Medi ac edrychwn ymlaen at rannu’r gwersi a ddysgwyd hyd yn hyn.”

Cynhelir y digwyddiad ar 8 Medi rhwng 4pm – 7pm. Darperir lluniaeth felly cynghorir ymwelwyr i neilltuo lle ymlaen llaw.

Am restr lawn o’r teithiau fferm yn Sir Benfro a ledled y wlad, cliciwch yma.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Academi Amaeth 2025 yn dod i ben gydag enillwyr yr her yn derbyn gwobrau
24 Tachwedd 2025 Mae unigolion uchelgeisiol y mae eu dyfodol yn
Pam mae dwysedd porfeydd yn hanfodol ar gyfer tros-hau llwyddiannus
14 Tachwedd 2025 Mae tros-hau porfeydd gyda chymysgedd aml
Dechrau Ffermio: Cyfleoedd ar gyfer lleoliad gwaith ledled Cymru!
13 Tachwedd 2025 Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig cyfleoedd ar gyfer