04 Medi 2025
Mae ffermwyr a thyfwyr sy’n treialu gwahanol dechnegau ffermio ac agweddau arloesol fel rhan o rwydwaith Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio yn cynnal digwyddiadau ym mis Medi, lle gall ffermwyr eraill ddysgu am ganfyddiadau prosiectau’n amrywio o driniaethau dethol wedi’u targedu ar gyfer defaid i ryng-gnydio india corn.
Am yr ail flwyddyn yn olynol, bydd Cyswllt Ffermio yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ‘Ymweld ag Ein Ffermydd’ ym mis Medi ar ei rwydwaith o ffermydd bîff, defaid a llaeth ac mewn busnesau sy’n cynhyrchu llysiau, ffrwythau a blodau ar gyfer y sector garddwriaeth.
Y llynedd, cynhaliwyd 15 o’r digwyddiadau trosglwyddo gwybodaeth hyn, ond roedden nhw mor boblogaidd ymysg y diwydiant, penderfynwyd cynyddu’r nifer i 22 ar gyfer 2025.
Mae pob digwyddiad yn cynnig cyfle i ffermwyr a thyfwyr eraill gael cipolwg gwerthfawr ar y treialon a’r prosiectau sydd wedi’u cwblhau neu sydd ar waith.
Yn Sir y Fflint, bydd ffermwyr yn cael cyfle i weld drostynt eu hunain sut mae Rhys Davies a’i rieni, Dei a Heulwen, yn rheoli eu fferm 85ha i ymdopi gyda hinsawdd heriol, sut maent yn cynyddu allbynnau heb gynyddu mewnbynnau, a sut maent yn defnyddio technoleg wedi’i arwain gan ddeallusrwydd artiffisial (AI) o fewn eu busnes.
Mae’r teulu’n cynhyrchu llaeth o fuches o 120 o wartheg Holstein Friesian sy’n lloia yn y gwanwyn, gan gynhyrchu 7,500 litr fesul buwch ar gyfartaledd, gyda 4.6% o fraster menyn a 3.67% o brotein.
Yn ystod y digwyddiad, bydd pynciau trafod yn cynnwys a yw torri ymlaen llaw yn ffordd gost effeithiol o gynnal ansawdd y borfa mewn system bori cylchdro, a bydd y ffermwr Dai Evershed yn cynghori sut y gall ffermwyr ddefnyddio technoleg LoRaWAN i reoli cyflenwad dŵr ar gyfer eu da byw.
Dywed Rhys ei fod yn edrych ymlaen at ddysgu mwy am dorri’r borfa ymlaen llaw gan y darlithydd Cennydd Jones o IBERS, sef un o’r siaradwyr yn y digwyddiad, ynghyd â dysgu mwy am reoli glaswelltir yn gyffredinol.
Mae Rhys wedi bod yn treialu torri’r borfa ymlaen llaw fel opsiwn arall yn hytrach na byrnu ar y llwyfan bori i ymestyn y cylchdro yn ystod cyfnod sych ac i annog gwartheg i lanhau’r caeau, gan gymharu perfformiad y padogau hynny gydag eraill sy’n cael eu pori.
“Mae’n ymddangos bod torri ymlaen llaw yn helpu o ran defnyddio pob blewyn o’r borfa, felly nid oes unrhyw wastraff,” meddai.
Bydd mynychwyr hefyd yn clywed canfyddiadau Prosiect Porfa Cymru Cyswllt Ffermio a phrosiect Effeithlonrwydd Defnyddio Nitrogen (NUE-Leg) a ariennir gan Lywodraeth Cymru, dan arweiniad y diwydiant ac IBERS.
Bydd yr amrywiaeth o adar ar dir amaeth ar Moor Farm hefyd yn cael ei drafod – gosodwyd offer monitro cân adar ar y fferm ac mae’r rhain wedi dangos nifer sylweddol o wahanol rywogaethau, gyda nifer ohonynt ar y rhestr o adar dan fygythiad.
Bydd technolegau’n ymwneud â gwaith y prosiect ar fferm Moor Farm yn cael eu harddangos ar wahanol stondinau yn y digwyddiad.
Gellir gweld gwerth y digwyddiad hwn ac eraill yn y gyfres o deithiau fferm yn ôl faint o bobl a fynychodd y rhaglen y llynedd, gyda 99% o fynychwyr yn nodi eu bod wedi dysgu rhywbeth newydd, a 93% yn nodi eu bod yn bwriadu gwneud newidiadau o fewn eu busnesau yn dilyn y digwyddiadau.
Yn ôl Osian Hughes, swyddog sector Cyswllt Ffermio, sy’n goruchwylio gwaith y prosiect ar fferm Moor Farm, bydd y digwyddiad yn cynnig cyfle i rwydweithio gyda phobl o’r un anian a rhanddeiliaid o’r diwydiant.
" Rydym yn edrych ymlaen at groesawu ffermwyr i’n digwyddiad i rannu canfyddiadau ac i arddangos y gwaith prosiect sydd wedi cael ei wneud ar fferm Moor Farm dros y ddwy flynedd a hanner diwethaf,” meddai.
“Bydd yn gyfle gwych i ddysgu ac i drafod heriau cyffredin sy’n wynebu’r diwydiant, ac i weld pa dechnolegau ac arferion gorau sydd ar gael i ymateb i’r heriau hynny.’’
Cynhelir y digwyddiad ar fferm Moor Farm ar 18 Medi rhwng 11am – 2pm. Darperir lluniaeth felly cynghorir ymwelwyr i neilltuo lle ymlaen llaw.
Am restr lawn o’r teithiau fferm yng ngogledd Cymru a ledled y wlad, ewch i https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/beth-sydd-ymlaen