Asesu effaith goleuadau LED ar gynhyrchiant, iechyd a lles mewn uned ddofednod dodwy

Prif ganlyniadau

  • Gwelwyd cynnydd o 6.1%, gwerth £27,192 mewn cynhyrchiant wyau ar ôl gosod y goleuadau LED
  • Mae gosod y goleuadau LED wedi arwain at ostyngiad o £2,724.08 o ran costau ynni dros y gylchred ddodwy 78 wythnos nesaf
  • Mae hyn wedi arwain at gyfanswm arbediad carbon blynyddol o 1,218 kg CO₂e

Cefndir

Y prif nodau ar fferm Glanalders yw bod yn fwy hunangynhaliol o ran ynni gan hefyd wella iechyd a lles adar. Er bod paneli solar 20kW wedi’u gosod ar y system lwyfan wastad gyda 16,000 o ddofednod dodwy, roedd yr ynni a gynhyrchwyd yn cyfrannu tua thraean yn unig o’r gofynion blynyddol ar gyfer y sied.

O’i gymharu â fflworoleuadau, mae goleuadau LED (deuodau allyrru golau) yn cynnig mwy o effeithlonrwydd ynni, yn para am gyfnod hwy, ac yn bwysicaf oll o safbwynt lles, nid ydynt yn fflachio. Mae’r gallu i deilwra’r sbectrwm golau yn fantais arall sylweddol ar gyfer LED o’i gymharu â thechnolegau goleuo hŷn, sy’n aml yn cynnwys allbynnau sbectrol sefydlog a llai delfrydol ar gyfer dofednod.

Mae dofednod yn fwy sensitif i liwiau a gwelededd ar y sbectrwm uwchfioled. Gall presenoldeb gwahanol liwiau, dwyster a chyfnodau o oleuni ddylanwadu ar eu hymddygiad a’u perfformiad. Mae goleuadau LED yn lledaenu’n well na goleuadau confensiynol, gan ddileu mannau tywyll a lleihau straen. Felly, mae potensial i oleuadau LED wella ysgogiad o ymddygiad naturiol adar yn ystod y dydd a’r nos ynghyd â gwella perfformiad.

Nodau’r prosiect

  • Asesu unrhyw welliannau o ran hunangynhaliaeth o ganlyniad i amnewid y goleuadau stribed 2 droedfedd gyda goleuadau LED
  • Asesu effaith y goleuadau LED ar iechyd, lles a chynhyrchiant yr haid
  • Cyfrifo budd economaidd y goleuadau newydd

Yr hyn sydd wedi cael ei wneud

Gyda’r haid olaf flaenorol yn gadael ym mis Mawrth 2024, gosodwyd y system oleuo newydd, gyda’r haid newydd yn cyrraedd yn 16 wythnos oed ar ddiwedd mis Ebrill 2024. Roedd yr haid newydd yn dodwy o fis Mai 2024 ymlaen.

Yn ystod y cyfnod newid, cafodd y goleuadau stribed 54 x 2tr presennol eu tynnu a gosodwyd y goleuadau LED yn eu lle. Cafodd y rhain eu cyflenwi gan Dalton Engineering Ltd.

Gosodwyd tair llinell o oleuadau LED, gyda phob llinell yn cynnwys 35 golau. Roedd y rhain yn oleuadau LED gwyn cynnes 48V/9.6W. 

Mae’r prosiect wedi defnyddio data a gasglwyd ac a gofnodwyd yn fisol gan ddefnyddio meddalwedd ‘Eggbase’ ar gyfer yr haid newydd o ieir o’i gymharu â’r haid flaenorol.


Ffigur 1: Haid newydd o adar ar ôl gosod goleuadau LED

Canlyniadau

Cynhyrchiant adar

Cafodd data o’r rhaglen feddalwedd ‘Eggbase’ ei gymharu ar gyfer y cyfnodau 16 i 40 wythnos o’r haid flaenorol yn erbyn haid mis Mai 2024 (Ffigur 2). Dechreuodd yr haid a gyflwynwyd ar ôl gosod y goleuadau LED ddodwy ynghynt (llinell las), ac o ganlyniad, i ddodwy mwy o wyau (llinell goch) o’i gymharu â’r haid flaenorol. 

Ffigur 2: Cynhyrchiant wyau gwirioneddol a chronnus ar gyfer y ddwy haid  (mae’r wybodaeth hon ar gael yn Saesneg yn unig)
 

Tabl 1: Nifer yr wyau a gynhyrchwyd gan y ddwy haid

Cynhyrchiant wyau

2024

2023

%cynnydd

Erbyn 20 wythnos oed

5869

735

+699

Cyfanswm cronnus

2,723,738

2,566,857

+6.1

Er bod hyn yn dangos cynnydd sylweddol mewn cynhyrchiant wyau gwerth £27,192 ar gyfer yr haid a gyflwynwyd ar ôl gosod y goleuadau LED (Tabl1), mae nifer o ffactorau’n gallu dylanwadu ar gynhyrchiant wyau megis sicrhau’r llwyddiant gorau posibl wrth fagu, tymheredd amgylchol, tymor a hyd y dyddiau, er bod hyd y dyddiau ar gyfer yr haid yn cael ei reoli drwy gynllun goleuo rhagnodol yn ystod y cyfnodau cynnar i’w hannog i ddodwy.

Ni welwyd unrhyw effeithiau amlwg o ran iechyd, ymddangosiad na chyfraddau marwolaeth rhwng y ddwy haid o adar.

Effeithlonrwydd ynni

Wrth gyfrifo arbedion ynni ar gyfer y gosodiad goleuadau LED, gwnaed y tybiaethau canlynol:

  • Cylchred ddodwy o 78 wythnos
  • Patrwm goleuo yn ystod y gylchred ddodwy:                                                                                  - 10 awr y dydd yn ystod 8 wythnos gyntaf y gylchred ddodwy
    - 14.5 awr y dydd ar gyfer gweddill y gylchred ddodwy
  • Gwariant cyfalaf y prosiect - £9,200
  • Cost trydan o’r grid - 30.85 c/kWh
  • Ffactor allyriadau’r grid - 0.20705 kg CO₂e/kWh

Tabl 2: Cymhariaeth o ddefnydd ynni

 

Tiwb fflworolau 

LED

Defnydd trydan yn ystod yr 8 wythnos gyntaf (kWh)

1,210

564

Defnydd trydan yn ystod yr wythnosau sy’n weddill (kWh)

15,347

7,162

Cyfanswm a ddefnyddiwyd dros gyfnod o 78 wythnos

16,556

7,726

Mae’r ffigyrau yn Nhabl 2 yn arwain at yr arbedion canlynol o safbwynt trydan a charbon:

Cyfanswm yr arbedion trydan dros gyfnod o 78 wythnos = 8,830 kWh
Cyfanswm yr arbedion carbon dros gyfnod o 78 wythnos = 1,828 kg CO₂e

Cyfanswm arbedion trydan blynyddol = 5,886 kWh 
Cyfanswm arbedion carbon blynyddol = 1,218 kg CO₂e      

Tabl 3: Dadansoddiad ariannol o arbedion ynni

Arbediad cost dros y gylchred dodwy (78 wythnos)

£2,724.08

Arbediad cost cymedrig fesul diwrnod

£4.99

Buddsoddiad cyfalaf

£9,200.00

Ad-daliad syml (dyddiau)

1,844

Ad-daliad syml (blynyddoedd) *

5.10

* Noder: Nid ydym wedi cynnwys amlder adnewyddu goleuadau yn y cyfrifiadau hyn. Dylai goleuadau LED bara hyd at 5 gwaith yn fwy na thiwb fflworolau fel arfer, a fyddai’n lleihau’r cyfnod ad-dalu.

Casgliadau

Mae gosod y goleuadau LED wedi profi’n fuddsoddiad gwerth chweil gyda’r arbedion ynni eu hunain yn talu am y buddsoddiad cyfalaf ymhen pum mlynedd. Mae’r cynnydd o 6.1% mewn cynhyrchiant wyau o ganlyniad i’r ieir yn dodwy ynghynt wedi bod yn ddramatig, ac mae’n hen ddigon i dalu am y costau gosod, er bod sawl ffactor yn gallu dylanwadu ar lwyddiant haid newydd yn dechrau dodwy. Nid oedd unrhyw wahaniaethau nodedig o ran canlyniadau iechyd a lles yr haid hon o’i gymharu â’r haid flaenorol.

Gwnaed arbedion carbon blynyddol o 1,218 kg CO₂e hefyd o ganlyniad i ddisodli’r hen oleuadau stribed gyda goleuadau LED mwy effeithlon o ran ynni.