10 Hydref 2025

Mae Cyswllt Ffermio wedi cwblhau cyfres arall o ymweliadau fferm llwyddiannus yn ystod mis Medi, gan gynyddu’r nifer eleni o 15 digwyddiad i 22. Roedd y rhain yn arddangos arferion rheoli tir yn gynaliadwy fel rhan o arbrofion ac arddangosiadau ar ffermydd.

Llwyddodd y digwyddiadau hyn, a gynhaliwyd ledled Cymru, i ddenu 1,200 o fynychwyr, ac roeddent yn cynnwys cyflwyniadau gan 66 o siaradwyr arbenigol.

Roedd yr ymweliadau fferm yn cynnig cyfle unigryw i ffermwyr ddysgu gan eu cyfoedion ynghyd ag ystod eang o wahanol siaradwyr. Cynhaliwyd digwyddiadau ar draws pob sector gan gynnwys cig coch, llaeth, garddwriaeth, tir âr, coetir a ffermio cymysg, gyda ffocws cryf ar fuddion arferion cynaliadwy yn unol â’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd a thechnolegau arloesol.

Cynhaliwyd y digwyddiadau ar 22 fferm sy’n rhan o Rwydwaith Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio. Bu’r siaradwyr, a fu’n gweithio’n agos gyda’r ffermydd hyn ar eu prosiectau unigol, yn rhannu gwybodaeth a phrofiadau gwerthfawr o’r gwersi a ddysgwyd a’r canlyniadau.

Yn ogystal, estynnwyd gwahoddiad i sefydliadau amaethyddol eraill megis Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru, Arwain DGC, Tir Dewi a Hybu Cig Cymru i ymuno â’r digwyddiadau i arddangos eu prosiectau a thrafod gyda ffermwyr.

Roedd tair o’r ymweliadau fferm yn canolbwyntio ar Raglen Geneteg Defaid Cymru Cyswllt Ffermio. Meddai Elan Davies, Pennaeth Genteg gyda Cyswllt Ffermio; “Roedd cymryd rhan yn y digwyddiadau ‘Ymweld ag Ein Ffermydd’ yn  cynnig platfform gwych ar gyfer Rhaglen Geneteg Defaid Cymru. Roedd yn gyfle gwych i gysylltu’n uniongyrchol gyda’r diwydiant ffermio ac i rannu canlyniadau prosiect yn effeithiol, yn ogystal â rhannu negeseuon allweddol ym maes gwelliannau geneteg a fydd yn helpu’r diwydiant defaid i symud yn ei flaen."

Roedd Siwan Howatson, pennaeth technegol Cyswllt Ffermio yn ddiolchgar iawn i’r ffermwyr a fu’n cymryd rhan.

“Rydym ni’n hynod falch o lwyddiant y digwyddiadau ‘Ymweld ag Ein Ffermydd’ eleni. Maen nhw’n glod i waith caled y ffermwyr sy’n rhan o’r rhwydwaith Ein Ffermydd, ac yn ffordd wych o arddangos buddion arferion rheoli tir yn gynaliadwy. Rydym yn gobeithio bod yr holl fynychwyr wedi gadael yr ymweliadau gyda syniadau newydd a’r wybodaeth angenrheidiol i’w rhoi ar waith ar eu ffermydd."

Roedd mynychwyr yn frwdfrydig iawn ynglŷn â natur addysgiadol y digwyddiadau, gyda nifer yn nodi bod y cyfle i rwydweithio gydag unigolion o’r un anian yn fuddiol iawn.

Bu un ffermwr a fynychodd y digwyddiad ar fferm Tanllan yn rhannu sut y gallai gyflwyno newidiadau ar ei fferm yn dilyn y wybodaeth a rannwyd yn ystod y digwyddiad.

“Rydw i am edrych ar wella ein hisadeiledd pori i’w reoli mewn modd a fydd yn gwella ansawdd y borfa ac ymestyn y cyfnod pori. Roedd yn gyfle gwych i ddysgu.”

Trwy gydol y digwyddiadau, bu staff Cyswllt Ffermio yn pwysleisio bod yr holl wasanaethau a ddefnyddiwyd gan y ffermwyr a oedd yn cynnal y digwyddiadau hefyd ar gael i bob ffermwr sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio.

Gall Cyswllt Ffermio gefnogi busnesau gydag amrywiaeth o wahanol fathau o gyngor a fydd yn eu galluogi i symud ymlaen tuag at y Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Am ragor o fanylion cysylltwch â ni ar 03456 000 813.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Academi Amaeth 2025 yn dod i ben gydag enillwyr yr her yn derbyn gwobrau
24 Tachwedd 2025 Mae unigolion uchelgeisiol y mae eu dyfodol yn
Pam mae dwysedd porfeydd yn hanfodol ar gyfer tros-hau llwyddiannus
14 Tachwedd 2025 Mae tros-hau porfeydd gyda chymysgedd aml
Dechrau Ffermio: Cyfleoedd ar gyfer lleoliad gwaith ledled Cymru!
13 Tachwedd 2025 Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig cyfleoedd ar gyfer