Ydych chi’n fusnes garddwriaethol? Gall Cyswllt Ffermio eich cynorthwyo i gwblhau Gweithred Gyffredinol 4 (Datblygiad Proffesiynol Personol) o’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
Ar gyfer busnesau garddwriaeth sy’n ymuno â’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn 2026, bydd y modiwlau e-ddysgu canlynol a gwblhawyd o dymor yr haf 2025 yn cyfrif tuag at flwyddyn cynllun 2026 (ond ar gyfer y flwyddyn gynllun honno yn unig).
- Cyflwyniad i egwyddorion Rheolaeth Integredig ar Blâu mewn garddwriaeth
- Diogelwch Bwyd i Dyfwyr Cynnyrch Ffres
- Iechyd a Diogelwch ym maes Garddwriaeth Yn Fyw 12/11/2025
- Garddwriaeth: Diwydrwydd Dyladwy ar gyfer Tyfwyr ar Raddfa Fach
- Garddwriaeth: Sut i adnabod rhai o'r plâu, clefydau a chwyn mwyaf cyffredin mewn cnydau garddwriaethol
- Garddwriaeth: Compostio ar y Safle ar gyfer eich menter arddwriaethol
- Egwyddorion Plâu a Phlanhigion
Mae’r modiwlau e-ddysgu hyn wedi’u hariannu’n llawn a gellir eu gweld ar wefan Cyswllt Ffermio. Bydd pob modiwl e-ddysgu a gwblheir yn cael ei gofnodi yng nghyfrif 'Storfa Sgiliau' yr unigolyn a bydd yn cael eu rhannu’n awtomatig â Thaliadau Gwledig Cymru (RPW) fel tystiolaeth o gydymffurfiaeth â Gweithred Gyffredinol 4.
I gael rhagor o wybodaeth ac i gychwyn eich hyfforddiant, cysylltwch â’r tîm Garddwriaeth ar horticulture@lantra.co.uk