Ymchwilio i fuddion gwasgaru nitrogen ar gyfraddau amrywiol ar gnydau gwenith y gaeaf a rêp hadau olew yn y gaeaf
Nod y prosiect hwn yw gwerthuso effeithiolrwydd gwasgaru nitrogen ar gyfraddau amrywiol ar wenith y gaeaf a rêp hadau olew, gan ddefnyddio delweddau lloeren i greu cynlluniau gwrteithio manwl gywir. Wedi’i ysbrydoli gan lwyddiannau cychwynnol, mae’r ffermwr yn dymuno cymharu cynnyrch ac elw yn erbyn gwasgariadau cyfradd safonol traddodiadol i gyfiawnhau mabwysiadu’r dechnoleg. Y prif nod yw cynhyrchu cnydau cynhyrchiol, cyson a phroffidiol. Y tu hwnt i gynnyrch ac elw mesuradwy, mae’r prosiect hefyd yn rhagweld buddion ychwanegol megis colli llai o faetholion mewn dŵr ffo, gwell rheolaeth o blygu coesynnau, gwell cadeirio, a chnydau iachach a mwy cytbwys ar y cyfan. Bydd yr holl ddata ar gynnyrch yn cael ei fesur yn fanwl gan ddefnyddio offer pwyso’r fferm wrth gynaeafu.
Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy gan gynnwys:
- Dŵr glân
- Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr
- Defnyddio adnoddau’n naturiol