Gwerthuso ffynonellau ffosffad mewn cnydau grawn a dyfir gartref mewn perthynas â chydbwysedd maetholion y fferm a’r ôl troed amgylcheddol

Bydd y prosiect hwn yn ymchwilio a yw defnyddio ffosffad gwarchodedig (Origin Enhanced-P, neu OEP) mewn gwrtaith cyfansawdd ar gyfer haidd y gwanwyn, ochr yn ochr â thail buarth yn gallu hybu cymeriant ffosffad, gan arwain at wella effeithlonrwydd mwynau, sefydliad cnydau, cynnyrch, ac yn y pen draw, mwy o elw ar fuddsoddiad. Bydd yr arbrawf yn cael ei gynnal mewn cae haidd y gwanwyn cyson, wedi’i rannu’n dair triniaeth: un yn derbyn tail buarth, calch a gwrtaith cyfansawdd safonol; un arall yn derbyn tail buarth, calch, a gwrtaith cyfansawdd gyda ffosffadau gwarchodedig (OEP); a stribed rheoli’n derbyn tail buarth a chalch yn unig.

Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy gan gynnwys:

  • Storio carbon
  • Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr
  • Defnyddio adnoddau’n naturiol