Pam fyddai Alex yn fentor effeithiol 

  • Mae Alex yn newydd ddyfodiaid heb fferm! Yn hytrach, mae wedi adeiladu busnes yn ymwneud â’r tir ffyniannus o’r newydd. Mae hyn yn rhoi safbwynt unigryw iddo ar yr hyn sydd angen ei wneud i bethau lwyddo’n ymarferol ac yn ariannol yn y byd masnachol.
  • Fel sylfaenydd a chyfarwyddwr Grazing Management Ltd, busnes cadwraeth pwrpasol, mae Alex wedi troi ei angerdd dros gadwraeth a da byw yn gwmni arobryn sydd bellach yn rheoli dros 500 erw ar draws 25 safle yng Nghymru a Lloegr. Mae’r rhain yn cynnwys dolydd blodau gwyllt a chlogwyni i fawndiroedd a gorlifdiroedd.
  • Mae Alex wedi gweithio gyda sefydliadau gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru a Chronfa Adfer Tirwedd Ynysoedd Sili, gan helpu i ddod â ffermwyr ynghyd i adfer cynefin a chreu systemau pori hyfyw a chynaliadwy. Dewiswch ef fel eich mentor a disgwyliwch gael eich ysbrydoli a chael gwybodaeth helaeth gan yr arbenigwr ar gadwraeth uchel ei barch sydd â blynyddoedd lawer o brofiad.
  • Mae profiad eang Alex o weithio gyda ffermydd ar draws gwahanol sectorau wedi rhoi dealltwriaeth glir iddo am realiti rhedeg fferm, yr elw tynn, y pwysau i arloesi a’r angen i aros yn gynaliadwy yn ariannol. Mae ei ddull mentora’n ymarferol, yn addysgiadol ac yn wybodus. Boed yn mireinio cynlluniau pori, mesur mewnbwn llafur neu’n defnyddio data i wneud gwell penderfyniadau, cenhadaeth Alex yw helpu ffermwyr i nodi ffyrdd doeth a phroffidiol o weithio gyda natur, nid yn ei herbyn.
  • Mae cefndir o fewn y gwasanaeth milwrol a diplomyddol yn golygu bod Alex yn gyfathrebwr naturiol. Fe welwch ei fod yn wrandäwr da, ac ar ôl cael hyfforddiant ar fentora a hyfforddi, mae’n gwybod sut i ofyn y cwestiynau iawn i’ch helpu i ganfod eich atebion eich hun.
  • Mae Alex hefyd yn mwynhau rhannu ei wybodaeth gyda’r diwydiant ehangach. Efallai eich bod wedi’i weld yn siarad mewn digwyddiadau Cyswllt Ffermio neu wedi’i glywed ar bodlediadau yn siarad am ddyfodol pori a ffermio adfywiol.
  • Ar hyn o bryd, mae Alex yn gweithio tuag at ei Ysgoloriaeth Nuffield yn edrych ar arloesiadau mewn pori er lles cadwraeth a thaliadau ar gyfer gwasanaethau ecosystem.
  • Os ydych chi’n chwilio am fentor sy’n cyfuno synnwyr busnes, dealltwriaeth o’r amgylchedd ac yn meddwl am dechnoleg yn ymarferol, mae Alex yn ticio’r blychau hyn i gyd.

Busnes cyfredol

  • Mae Alex yn Gyfarwyddwr Grazing Management Ltd, busnes pori er lles cadwraeth pwrpasol. Dechreuodd y cysyniad yn 2017 ac mae wedi datblygu’n gyson ers hynny. Gyda’i gyd-gyfarwyddwr a’i dîm, mae’r busnes bellach yn rheoli pori er lles cadwraeth ar draws 500 erw sydd wedi’u rhannu ar draws 25 safle, gan gwmpasu ystod o ddolydd blodau gwyllt, mawndir, rhostir, clogwyni a gorlifdiroedd ar gyfer amrywiaeth o gleientiaid yn Ne Cymru a Gorllewin Lloegr.
  • Mae’r busnes yn gweithio gydag ystod o fridiau traddodiadol o wartheg, defaid a geifr gan ganolbwyntio ar ganlyniadau ecolegol i’r cleient ar sail contract.
  • Maent yn defnyddio ffensys rhithiwr, LoRaWAN a thechnolegau eraill yn helaeth i greu dulliau effeithlon ac ariannol hyfyw ar gyfer pori er lles cadwraeth.    

Cymwysterau / cyraeddiadau / profiad

  • Ysgolhaig Nuffield 2025 – Arloesiadau mewn pori dwys a phori er lles cadwraeth
  • Gwobrau Bwyd a Ffermio BBC 2025 – categori Ffermio er lles y dyfodol (ar y rhestr fer, canlyniadau ym mis Tachwedd)
  • British Farming Awards 2023 – Enillydd y categori newydd-ddyfodiaid
  • Pori er lles cadwraeth uwch LANTRA  2023
  • Gwobr National ADAS Pinnacle 2019 am entrepreneuriaeth ym myd amaeth
  • Ysgolhaig Clyde-Higgs 2018 ar y Diploma Graddedig mewn Amaethyddiaeth o Brifysgol Amaethyddol Frenhinol - Rhagoriaeth ac enillydd y fedal Haygarth

Awgrymiadau ar gyfer llwyddiant busnes 

“Mae’n ymwneud â’r bobl, nhw yw’r rhwydwaith, y cyfleoedd, y cymorth a’r datblygiad.”

“Gwerthfawrogwch eich amser a chanfod beth yw eich swyddi £10/yr awr, £50/yr awr a £500/yr awr.”

“Darganfyddwch eich arbenigedd, eich mantais gystadleuol a sut i wneud y mwyaf o  hyn - pa broblem allwch chi ei ddatrys yn well nag unrhyw un arall?”2