16 Ionawr 2026

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, wedi llongyfarch pawb a gafodd eu henwebu ar gyfer Gwobrau Lantra Cymru 2025, gan ddisgrifio eu cyflawniadau yn ystod y 12 mis diwethaf fel arwydd clir bod “dyfodol ffermio yng Nghymru mewn dwylo diogel.”

Mynychodd y Dirprwy Brif Weinidog y seremoni wobrwyo flynyddol, sydd bellach yn cael ei chynnal ers 31 o flynyddoedd, ar 15 Ionawr 2026 yng Ngwesty'r Metropole, Llandrindod. Yma roedd enwebeion, rhanddeiliaid a gwesteion yn dathlu rhagoriaeth mewn datblygu sgiliau a dysgu gydol oes ar draws y sectorau tir yng Nghymru.

Wrth siarad yn y digwyddiad, pwysleisiodd y Dirprwy Brif Weinidog bwysigrwydd cydweithio parhaus rhwng Llywodraeth Cymru a'r diwydiant amaeth, wrth i Gymru baratoi ar gyfer dyfodol cynaliadwy drwy'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) newydd.

“Dyma adeg gyffrous a phwysig i amaeth yng Nghymru – adeg o newid, her a chyfle go iawn”, meddai Mr Irranca-Davies.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi ein diwydiant amaeth drwy’r cyfnod pontio hwn, gan gydnabod y rhan hanfodol y mae ffermwyr yn ei chwarae mewn cynhyrchu bwyd, stiwardiaeth amgylcheddol a chynnal ein cymunedau gwledig.

“Bydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd, sydd â’r haen gyntaf bellach ar agor. Mae’n darparu cyfleoedd clir i ffermwyr a thirfeddianwyr gael eu gwobrwyo am y gwaith maen nhw eisoes yn ei wneud, tra’n eu cefnogi i integreiddio camau gweithredu amgylcheddol gyda systemau cynhyrchiol, i wneud gwell defnydd o ddata, arloesedd a thechnoleg ac i reoli’r pridd, coed, dŵr a chynefinoedd ochr yn ochr â phroffidioldeb.

“Drwy weithio gyda’r diwydiant, rydym yn buddsoddi mewn dyfodol ffermio sy’n wydn, yn gynhyrchiol ac yn addas ar gyfer cenedlaethau i ddod.”

Llongyfarchodd y Dirprwy Brif Weinidog yr holl unigolion a gafodd eu henwebu ar gyfer gwobr Lantra Cymru, gan ddweud eu bod wedi dangos y dalent, yr ymroddiad a'r uchelgais eithriadol sy'n bodoli ar draws sectorau tir Cymru.

“Nid dathliad o gyflawniadau’r gorffennol yn unig yw heno, mae’n ddatganiad o hyder yn y dyfodol, sef dyfodol lle mae ffermwyr Cymru yn parhau i gynhyrchu bwyd o ansawdd uchel, lle mae coedwigwyr yn rheoli coetiroedd er lles yr hinsawdd, bioamrywiaeth a phren, lle mae garddwriaeth yn tyfu ac yn amrywio a lle mae dysgu, proffesiynoldeb a balchder mewn sgiliau wrth wraidd popeth a wnawn.”

Rhoddodd y Dirprwy Brif Weinidog deyrnged hefyd i'r gweithlu amaethyddol ehangach, yn enwedig y darparwyr hyfforddiant a'r colegau, gan gydnabod eu rhan wrth ddenu a datblygu sgiliau unigolion uchelgeisiol i'w helpu i gyrraedd safonau amgylcheddol, busnes a thechnegol cyson uchel wrth gynhyrchu bwyd a diod gynaliadwy o ansawdd uchel yng Nghymru drwy gydol y flwyddyn.

“Mae cynnyrch o Gymru yn parhau i fod yn rhywbeth rydym yn falch ohono, o’r fferm i’r plât ledled Cymru, y DU a thu hwnt.”

“Mae safon enwebeion eleni yn dangos yn glir bod dyfodol ffermio yng Nghymru mewn dwylo diogel ac rwy’n arbennig o falch bod ffermio yn ogystal â choedwigaeth a garddwriaeth yn feysydd twf o’r fath lle mae cymorth gan Cyswllt Ffermio a Lantra Cymru yn dangos buddrannau’n glir a bydd yn cyfrannu cymaint at liniaru newid hinsawdd.”

Yn ystod y seremoni, cyflwynodd y Dirprwy Brif Weinidog ddwy wobr arbennig, y ddwy i gydnabod cyflawniadau unigol rhagorol a chyfraniadau i amaethyddiaeth.

Cyflwynwyd Gwobr Goffa Brynle Williams i Ynyr Pugh, ffermwr newydd ddyfodiaid o Fachynlleth, gyda chymorth gwasanaeth paru 'Dechrau Ffermio' Cyswllt Ffermio. Mae Ynyr, sydd bellach yn bartner busnes ar fferm 600-erw yn Nyffryn Dyfi, wedi arwain newidiadau sylweddol i wella cynhyrchiant a gwydnwch, gan gynnwys trawsnewid bridiau da byw, cyflwyno system bori cylchdro a rhoi gwelliannau o ran isadeiledd amgylcheddol ar waith.

Dyfarnwyd gwobr olaf y noson, Gwobr Cyflawniad Oes Lantra Cymru 2025, i Irwedd Griffiths, ffermwr bîff a defaid uchel ei barch a phoblogaidd o Nantygochel, Dolwen, Abergele, i gydnabod ei gyfraniad rhagorol a pharhaus i hyfforddiant amaethyddol yng Nghymru. Dros fwy na phedair degawd, mae ymrwymiad Mr Griffiths i ddatblygu sgiliau a darparu hyfforddiant wedi cynorthwyo cenedlaethau o ffermwyr ac wedi cryfhau proffesiynoldeb amaethyddiaeth Cymru.

Mae rhestr lawn o holl enillwyr Gwobr Lantra Cymru 2025 ar gael ar wefan Cyswllt Ffermio. 


Related Newyddion a Digwyddiadau

E-fwletin Garddwriaeth gan Cyswllt Ffermio - rhifyn Gaeaf 2025
Nid yw manteision amlwg torri padogau ymlaen llaw yn berthnasol i bob system bori, yn ôl astudiaeth
17 Rhagfyr 2025 Mae astudiaeth ar fferm yng Nghymru yn dangos nad
SUT Y GALL CYSWLLT FFERMIO EICH CYNORTHWYO I GWBLHAU GWEITHRED GYFFREDINOL 12 (IECHYD A LLES ANIFEILIAID) O’R CYNLLUN FFERMIO CYNALIADWY