Rôl dwysfwyd a roddir drwy’r dail a diagnosteg meinwe i wella ansawdd maethol india-corn: Diweddariad terfynol

 Prif ganlyniad: 

  • Cynhyrchwyd 14.6t/erw yn fwy ar y llain wedi’i thrin na’r llain heb ei thrin, gyda 41.4% o ddeunydd sych o’i gymharu â’r llain heb ei thrin, sef 37.8%.  
  • Roedd gwerth D y silwair o’r llain wedi’i thrin yn 72% o’i gymharu â’r llain heb ei thrin, sef 53%.
  • Roedd yr Egni Metaboladwy (ME) ar y llain wedi’i thrin hefyd yn uwch, sef 11.80 MJ/kg o’i gymharu â’r llain heb ei thrin, sef 8.60MJ/kg.

Cefndir: 

Nod y teulu Bowyer yw gwneud y defnydd gorau posibl o borthiant a dyfir gartref er mwyn lleihau eu dibyniaeth ar borthiant a brynir i mewn ar gyfer eu diadell o famogiaid croes a lloi newydd eu diddyfnu. O ystyried y costau cynyddol ar gyfer ffermwyr, mae gwneud y defnydd gorau o gynnyrch ac ansawdd cnydau’n hanfodol. Roedd yr arbrawf hwn yn ymchwilio’n benodol p’un a allai bwyd a roddir trwy’r dail, a ddefnyddir i fynd i’r afael â diffygion a nodwyd yn y cnwd india-corn, wella lefelau maetholion, gan arwain at gynhyrchu mwy a gwella ansawdd porthiant.
 

Diben y gwaith:

Nodau’r prosiect oedd:

  • Mynd i’r afael â diffyg maetholion yn ystod y tymor tyfu trwy ychwanegu maetholion trwy’r dail.
  • Ymchwilio p’un a allai ychwanegu bwyd trwy’r dail er mwyn cynyddu lefelau maetholion mewn india-corn arwain at gynhyrchiant uwch a gwella ansawdd porthiant.

Yr hyn a wnaed: 

Paratoadau cychwynnol a’r driniaeth gyntaf

  1. Cyn plannu: Cynhaliwyd profion pridd cychwynnol ar y cae er mwyn canfod lefelau maetholion.
  2. Plannu: Plannwyd y rhywogaeth india-corn 'Portabello' ar 10 Mai.
  3. Samplu meinwe ar y tro cyntaf: Casglwyd samplau meinwe o’r cae ar 9 Mehefin, pan oedd y cnwd wedi cyrraedd y cam 4 deilen gyfan, i ganfod unrhyw ddiffygion maeth yn gynnar.
  4. Gwasgariad cyntaf: Yn dilyn canlyniadau a oedd yn nodi bod lefelau magnesiwm yn isel, cafodd y rhan fwyaf o’r cae ei chwistrellu gyda gwrtaith i’r dail a oedd yn cynnwys Nitrogen, Ffosffad, Potash, Sylffwr, Magnesiwm, Manganîs, Copr, Sinc, Boron, Haearn a Molybdenwm (Yaravita CROPLIFT Pro) ar gyfradd o 5kg/ha. Gadawyd stribyn heb ei drin yn fwriadol fel llain reoli. 

Ail driniaeth a chynaeafu

  1. Samplu meinwe am yr eildro: Casglwyd samplau meinwe o’r cnwd unwaith eto ychydig dros bythefnos ar ôl y gwasgariad cyntaf.
  2. Ail wasgariad (7 Gorffennaf): Yn seiliedig ar yr ail gyfres o brofion meinwe, cafodd ail wasgariad mwy penodol ei roi ar y dail ar y llain a oedd yn derbyn triniaeth:
    • Gwasgarwyd Efficient N (cynnyrch nitrogen trwy’r dail) ar gyfradd o 20L/ha.
    • Gwasgarwyd Mancozin (sy’n cynnwys manganîs a sinc) ar gyfradd o 1.25L/ha.
    • Gwasgarwyd Epsotop (cynnyrch magnesiwm sylffad) ar gyfradd o 5kg/ha.
  3. Diagnosteg derfynol: Cynhaliwyd profion meinwe pellach ychydig wythnosau’n ddiweddarach
  4. Cynaeafu: Cafodd y lleiniau eu cynaeafu ar 13 Medi, a chasglwyd sampl o’r silwair a’i anfon i’w ddadansoddi ar unwaith.
     

Canlyniadau: 

Roedd y dadansoddiad pridd cychwynnol (Tabl 1) yn dangos bod y pH a’r mynegai Ffosffad o fewn y targed, gan ffafrio argaeledd maetholion. Fodd bynnag, canfuwyd nifer o gyfyngiadau posibl gan gynnwys lefelau isel o Botasiwm a Sylffwr. Yn benodol, roedd Boron yn isel, sef diffyg sy’n gallu effeithio’n negyddol ar atgynhyrchiad india-corn ac sy’n gallu arwain at gobynnau bychain hen gnewyllyn. Roedd lefelau Molybdenwm a Sodiwm hefyd yn isel, ond ni ddisgwyliwyd i’r diffygion hyn achosi problemau i’r cnwd.

Tabl 1. Dadansoddiad o’r pridd yn y cae cyn plannu.

Dadansoddiad

Canlyniad

Canllaw

Dehongliad

pH

7.2

6.5

Normal

Ffosfforws (ppm)

23

16

Normal

Potasiwm (ppm)

62

121

Isel

Magnesiwm (ppm)

82

50

Normal

Calsiwm (ppm)

2142

1600

Normal

Sylffwr (ppm)

3

10

Isel iawn

Manganîs (ppm)

88

80

Normal

Copr (ppm)

5.3

4.1

Normal

Boron (ppm)

0.92

1.60

Isel

Sinc (ppm)

8.8

4.1

Normal

Molybdenwm (ppm)

0.01

0.30

Isel iawn

Haearn (ppm)

1020

50

Normal

Sodiwm (ppm)

22

90

Isel iawn

C.E.C (meq/100g)

12.1

15.0

Ychydig yn isel

Ar ôl plannu, bu’r cnwd india-corn yn dioddef ar unwaith o ganlyniad i dywydd sych iawn, gan arwain at dwf araf a lliw melyn amlwg ar y cnwd. Gan eu bod yn pryderu am y symptomau gweledol, penderfynodd Tŷ Coch gynnal prawf meinwe, a oedd, er gwaetha’r golwg sâl, yn dangos lefelau maetholion digonol er syndod, er eu bod yn isel mewn magnesiwm a boron. Gan nodi mai’r tywydd sych oedd y rheswm dros ddiffyg cymeriant maetholion, dewisodd Tŷ Coch wasgaru Yaravita CROPLIFT Pro i roi hwb i’r cnwd. Cafodd ymateb y cnwd i’r gwasgariad hwn ar y dail ei asesu drwy gynnal ail brawf meinwe ychydig dros bythefnos yn ddiweddarach.

Roedd y dadansoddiad meinwe (Tabl 2) a gynhaliwyd ar ôl y driniaeth gyntaf yn cadarnhau bod lefelau pob un o’r macro faetholion (Nitrogen, Ffosfforws a Photasiwm) yn dal i fod yn isel yn y cnwd, sefyllfa a briodolwyd i’r cyfnod estynedig o dywydd sych a thwf cyflym, a oedd yn rhwystro echdyniad maetholion o’r pridd. Testun pryder penodol oedd y ffaith fod lefel magnesiwm yn parhau i fod yn isel iawn, a rhoddwyd blaenoriaeth i hyn ar gyfer triniaeth, gan fod diffyg magnesiwm yn achos melynu rhwng gwythiennau’r dail ac mae’n gallu arwain at farwolaeth dail. Roedd manganîs hefyd yn isel iawn a rhoddwyd blaenoriaeth i hyn hefyd, gan fod diffyg yn arwain at glorosis rhwng y gwythiennau ac yn lleihau uchder planhigion. Gan fod calsiwm yn isel ond ddim yn flaenoriaeth, a bod Sinc ychydig yn isel, penderfynwyd gwasgaru cymysgedd wedi’i dargedu ar gyfer y dail i ddarparu’r holl faetholion gyda lefelau isel iawn a’r maetholion â blaenoriaeth.

Tabl 2. Canlyniadau’r dadansoddiad (LEAF) – Diwedd Mehefin

Dadansoddiad

Canlyniad

Canllaw

Dehongliad

Nitrogen (%)

2.94

3.50

Ychydig yn isel

Ffosfforws (%)

0.26

0.35

Ychydig yn isel

Potasiwm (%)

2.97

3.00

Ychydig yn isel

Calsiwm (%)

0.14

0.30

Isel iawn

Magnesiwm (%)

0.10

0.25

Isel iawn

Sylffwr (%)

0.14

0.10

Normal

Boron (ppm)

4.1

7.0

Isel

Copr (ppm)

4.5

7.0

Isel

Haearn (ppm)

80

75

Normal

Manganîs (ppm)

18.7

40.0

Isel iawn

Molybdenwm (ppm)

0.59

0.20

Uchel

Sinc (ppm)

23.6

30.0

Ychydig yn isel

Dangosodd y dadansoddiad meinwe terfynol (Tabl 3) nad oedd gwahaniaeth sylweddol mewn lefelau maetholion rhwng y lleiniau wedi’u trin a’r lleiniau heb eu trin. Fodd bynnag, gwelwyd gwahaniaethau cynnil megis y ffaith bod lefelau Nitrogen y cnydau a dderbyniodd driniaeth ychydig yn is na’r canllawiau’n unig, lle’r oedd lefelau Nitrogen y cnydau a dderbyniodd driniaeth yn isel iawn. Mae’n syndod nodi bod lefelau maetholion allweddol megis Magnesiwm, Manganîs a Sinc yn cyrraedd y lefelau canllaw ar y ddwy lain, gan awgrymu bod y llain heb ei thrin wedi gwella cymeriant. Tybir fod y canlyniad annisgwyl hwn wedi digwydd o ganlyniad i ychydig o lawiad ym mis Awst a bod planhigion a oedd yn aeddfedu’n tyfu gwreiddiau dyfnach, a fyddai wedi cynyddu gallu’r planhigyn i gasglu maetholion o’r pridd.

Tabl 3. Dadansoddiad terfynol (LEAF) ar gyfer y llain gyda thriniaeth a heb driniaeth. 

Dadansoddiad

Llain wedi’i thrin

Llain heb ei thrin

Nitrogen (%)

3.30

1.95

Ffosfforws (%)

0.28

0.18

Potasiwm (%)

1.35

1.39

Calsiwm (%)

0.80

0.63

Magnesiwm (%)

0.29

0.25

Sylffwr (%)

0.22

0.13

Boron (ppm)

25.2

10.6

Copr (ppm)

15.3

8.6

Haearn (ppm)

109

80

Manganîs (ppm)

61.2

68.6

Molybdenwm (ppm)

0.78

0.83

Sinc (ppm)

51.1

36.8

Uchel

Normal

Ychydig yn isel

Isel

Isel iawn

Er gwaetha’r canlyniadau meinwe cynnil, roedd y data cynaeafu terfynol yn dangos gwahaniaeth sylweddol mewn perfformiad (Tabl 4), gyda’r llain wedi’i thrin yn cynhyrchu 14.6t/erw yn fwy ac yn cynnwys 41.4% o ddeunydd sych o’i gymharu â’r 37.8% a welwyd ar y llain heb ei thrin.

Tabl 4. Cynnyrch a deunydd sych llain wedi’i thrin a heb ei thrin
 

 

Cynnyrch (tunelli fesul erw)

Deunydd sych (%)

Wedi’i thrin

23.8

41.4

Heb ei thrin

9.2

37.8

Roedd y gwahaniaeth gweledol wrth gynaeafu’n amlwg yn cefnogi’r data cynnyrch: roedd y llain heb ei thrin yn amlwg yn frown ac yn farw (Ffigur 2), ac roedd y llain a dderbyniodd driniaeth yn dal i fod yn wyrdd (Ffigur 1).

Ffigur 1. Llain wedi’i thrin wrth gynaeafu.

Ffigur 2. Llain heb ei thrin wrth gynaeafu. 

Cadarnhaodd y dadansoddiad terfynol lwyddiant y driniaeth o ran gwella ansawdd y porthiant, gyda’r llain a dderbyniodd driniaeth yn dangos gwerth D (treuliadwyedd) o 72% o’i gymharu â 53% ar gyfer y llain heb ei thrin, a lefel sylweddol uwch o egni metaboladwy (ME) o 11.80MJ/kg o’i gymharu â 8.60MJ/kg. Er bod y gwahaniaethau’n anodd eu gweld yn ystod y tymor tyfu, o bosibl o ganlyniad i’r tywydd sych, roedd gwahaniaethau sylweddol yn amlwg wrth gynaeafu o ran cynnyrch a lliw; bu farw'r llain heb ei thrin yn llawer cynt. Mae hyn yn awgrymu’n gryf bod y maetholion a roddwyd trwy’r dail wedi cadw’r llain yn wyrddach am gyfnod hwy, gan alluogi’r cynnydd sylweddol mewn cynnyrch ac ansawdd. Mae’r ffermwr wedi sylwi dros y blynyddoedd blaenorol bod y gwartheg wedi ffafrio’r silwair glaswellt yn hytrach na’r silwair india-corn, fodd bynnag, eleni, mae wedi sylwi eu bod yn ffafrio’r india-corn a allai fod oherwydd y canlyniadau silwair da o ganlyniad i’r maetholion ychwanegol a roddwyd yn ystod y tymor tyfu.

Sut i’w roi ar waith ar eich fferm:

  • Samplu’r pridd er mwyn canfod gwaelodlin ffrwythlondeb: Dylech gynnal dadansoddiad o’r pridd yn y cae a ddewiswyd bob amser cyn plannu i ganfod statws gwaelodlin macro faetholion ac elfennau hybrin. Mae canfod diffygion megis lefel isel o Botasiwm, Boron neu Sylffwr cyn plannu’n caniatáu ar gyfer cyflwyno mesurau unioni o’r dechrau.

  • Dewis amrywiaeth addas: Dewiswch amrywiaeth o india-corn sy’n gweddu i’ch system benodol a’r amodau hinsoddol lleol.

  • Defnyddio diagnosteg meinwe i arwain y driniaeth: Cynhaliwch brofion meinwe ar y cnwd india-corn ar adegau allweddol yn ei dwf (e.e. 4 deilen gyfan) i chwilio am ddiffygion maetholion, nad ydynt o reidrwydd yn amlwg yn y pridd o ganlyniad i ffactorau fel tywydd sych yn effeithio ar gymeriant. Rhowch driniaeth i’r cnwd trwy wasgaru maetholion drwy’r dail yn seiliedig yn uniongyrchol ar ganlyniadau’r gwaith diagnosteg.

  • Targedu diffygion sydd â blaenoriaeth: Pan fyddwch yn canfod diffygion, blaenoriaethwch y driniaeth yn seiliedig ar ddifrifoldeb y maetholion a’r effaith ar botensial y cnwd i gynhyrchu, megis canolbwyntio ar Fagnesiwm, Manganîs a Sinc yn ystod cyfnodau twf allweddol, fel y gwnaed yn y prosiect hwn.

  • Cynnal archwiliad gweledol o’r cnwd yn rheolaidd: Archwiliwch y cnwd yn rheolaidd i chwilio am arwyddion cynnar o unrhyw newidiadau, plâu neu glefydau. Dylai symptomau gweledol, megis y melynu a welwyd yn y prosiect hwn, sbarduno profion meinwe ar unwaith i osgoi colli cynnyrch.