Prosiect Mewnbynnau Cynaliadwy ar Waith: Adroddiad terfynol
Prif ganlyniadau
Roedd effeithiau cyffredinol y cynhyrchion biolegol yn amrywiol, gan ddangos dibyniaeth gref ar amodau’r safle.
- Cynnyrch mwyaf cyson: Kelp Crofters oedd y cynnyrch gyda’r perfformiad mwyaf cyson, gan gyflawni cynnydd mewn cynhyrchiant ar ddau safle a gwelliannau mesuradwy mewn gweithgarwch microbaidd ar drydydd safle.
- Gweithgarwch y pridd: Roedd gwelliannau i’w gweld fwyaf amlwg mewn gweithgarwch biolegol a chylchedu nitrogen, yn enwedig gyda chynhyrchion Sylgen, Kelp Crofters, a Sea2Soil.
- Cynnyrch: Roedd ymatebion o safbwynt cynnyrch yn fach ar y cyfan, ond llwyddodd Kelp Crofters i gynnal lefel uchel o gynnyrch deunydd sych gyson. Ar fferm Crickie, cynhyrchodd Terrafed, Sylgen, a Sea2Soil ychydig mwy o ddeunydd sych na’r llain reoli.
- Gwerth porthiant: Roedd dadansoddiadau meinwe’r dail a gwerth porthiant yn dangos cymeriant maetholion ac ansawdd porthiant o fewn yr ystod dymhorol, gydag ychydig iawn o amrywiaeth rhwng y triniaethau.
Cefndir
Mae cynhyrchion biolegol yn cael eu defnyddio fwyfwy yn y diwydiant amaeth i wella iechyd y pridd, cynyddu argaeledd maetholion a chefnogi twf glaswellt cynaliadwy. Mae astudiaethau blaenorol wedi awgrymu y gallai bio-symbylwyr ddangos effeithiau mwy amlwg mewn systemau ffrwythlondeb isel neu sy’n profi straen o’i gymharu â phriddoedd ffrwythlon iawn.
Diben y gwaith
Nod y prosiect oedd gwerthuso effeithiolrwydd chwe chynnyrch biolegol dethol ar berfformiad y pridd a’r glaswellt ar draws tair fferm amrywiol yng Nghymru yn ystod 2025.
Y nodau penodol oedd i:
- Asesu effaith y cynhyrchion biolegol dethol ar lefelau maeth y pridd ac iechyd cyffredinol y pridd.
- Gwerthuso gwelliannau o safbwynt twf glaswellt, cynnyrch ac ansawdd o dan wahanol driniaethau.
- Cymharu perfformiad cynhyrchion biolegol ar draws tair fferm penodol.
Yr hyn a wnaed
Cynhaliwyd y prosiect ar draws tair o’r ffermydd ar y rhwydwaith Ein Ffermydd (Cilthrew, Cwmrisca, a Crickie) i werthuso effeithiolrwydd chwe chynnyrch biolegol (Tabl 1) a thriniaeth gyfun (o bob un o’r cynhyrchion) yn erbyn llain reoli (heb driniaeth):
Tabl 1: Y chwe chynnyrch a ddefnyddiwyd yn ystod y prosiect a’u nodweddion
Cynnyrch | Nodweddion |
Soil Point | Cyflyrydd pridd sy'n seiliedig ar asid hwmig a ffwlfig, sy'n darparu elfennau hybrin ac yn gwella strwythur y pridd i gefnogi ymsefydliad, twf ac ansawdd cnydau. |
Sea2Soil | Hydrolysad protein pysgod sy'n cynnig asidau amino ac elfennau hybrin sydd ar gael yn rhwydd ar gyfer iechyd planhigion ac iechyd y pridd. |
Sylgen | Cymysgedd microbaidd o facteria a ffyngau buddiol sy'n gwella bioleg y pridd ac yn hybu twf planhigion. |
Kelp Crofters | Cynnyrch sy'n seiliedig ar wymon sy'n llawn awcsinau, cytocininau, a giberelinau, wedi'i gynllunio i ysgogi twf a gwella gwytnwch i straenachoswyr. |
QLF TerraFed | Triagl wedi'i hidlo sy'n cyflenwi siwgrau sydd ar gael i blanhigion i fwydo microbioleg planhigion a’r pridd. |
BIOCAT | Technoleg newydd sy'n seiliedig ar ffag sy'n targedu bacteria niweidiol yn y pridd, gyda'r nod o ail-gydbwyso microbiomau’r pridd ac ategu cynnyrch a lefelau protein grawn. |
Gwasgarwyd y cynhyrchion ddwywaith yn ystod y tymor ar gyfradd o 150L/ha o ddŵr gan ddefnyddio peiriant chwistrellu Tow and Fert Multi 500. Er mwyn lleihau rhagfarn o ganlyniad i ffactorau allanol, cafodd y triniaethau eu rhoi ar hap o fewn pob safle arbrofol. Amcangyfrifwyd canolrif y triniaethau’n seiliedig ar dri phwynt samplu fesul llain, a chafodd yr holl ddadansoddiadau data dilynol eu cwblhau gan Lancrop Laboratories UK.
Data a gasglwyd:
- Samplau pridd: Casglwyd cyn y gwasgariad cyntaf ac ar ôl yr ail wasgariad. Mesurwyd gweithgarwch biolegol (e.e. resbiradaeth y pridd, biomas microbaidd), statws maetholion (elfennau sylweddol/elfennau hybrin), a rhinweddau’r pridd (e.e. deunydd organig, pH, CEC).
- Samplau meinwe’r dail: Casglwyd 2-3 wythnos ar ôl gwasgaru pob cynnyrch i asesu cymeriant maetholion (N, P, K, Ca, Mg, S, Cu, Zn, Mn).
- Dadansoddiad o werth porthiant: Dadansoddwyd samplau porthiant ar ôl yr ail wasgariad i asesu paramedrau ansawdd allweddol y porthiant (gan gynnwys Protein Crai (CP), Deunydd Sych (DM), Egni Metaboladwy (ME) a Ffibr (NDF/ADF)).
- Mesur cynnyrch: Mesurwyd ar ôl yr ail wasgariad gan ddefnyddio
Canlyniadau
Dangosodd y prosiect y gall cynhyrchion biolegol helpu i gynnal iechyd y pridd ac ansawdd y porthiant, ond ar y cyfan, roedd eu heffeithiau’n ganolig, yn anghyson ac yn ddibynnol iawn ar amodau amgylcheddol y safle.
Iechyd y pridd a chynnwys maetholion
- Ar fferm Cwmrisca, llwyddodd Kelp Crofters a Sylgen i gynyddu biomas microbaidd a resbiradaeth, gan ddangos bod metaboledd microbaidd yn cael ei sbarduno yn y tymor byr
- Dangosodd y driniaeth gyfunol ar fferm Cwmrisca’r cynnydd mwyaf o ran argaeledd calsiwm, a hynny’n debygol o fod o ganlyniad i well hydoddiant maetholion.
- Ar fferm Cilthrew, llwyddodd y triniaethau Cyfunol, Biocat, a QLF Terrafed i gynyddu biomas microbaidd a resbiradaeth y pridd.
Ar y cyfan, roedd y newidiadau o ran prif faetholion y pridd yn fach, gan awgrymu bod yr amrywiaeth yn bennaf yn adlewyrchu amrywiad tymhorol neu amrywiaeth o ran y samplu yn hytrach nag effeithiau clir o ganlyniad i’r triniaethau.
Cynnyrch ac ansawdd y porthiant
Roedd y cynnydd mewn cynnyrch yn fach ac yn amrywiol ar y cyfan, gyda Kelp Crofters yn perfformio orau, gan sicrhau cynnydd mewn cynnyrch ar ddwy fferm a chynnal cynnyrch deunydd sych uwch yn gyffredinol.
Ffigur 1. Cynnyrch deunydd sych (t DM/ha) yn dilyn yr ail wasgariad o gynhyrchion biolegol ar fferm Crickie.
- Ar fferm Crickie, cofnodwyd y cynnyrch deunydd sych uchaf (3.22t/ha) gyda chynnyrch Terrafed, cynnydd o tua 0.74tDM/ha o’i gymharu â’r llain reoli (2.48t/ha) fel y gwelir yn Ffigur 1. Fe wnaeth cynhyrchion Sylgen a Sea2Soil hefyd berfformio ychydig yn well na’r llain reoli ar y fferm honno. Fodd bynnag, ni ddangosodd unrhyw driniaeth welliant cyson o safbwynt gwerth porthiant.
- oedd paramedrau porthiant allweddol (Protein Crai, ME, NDF) yn ddigon tebyg ar draws pob triniaeth a’r llain reoli ar fferm Cilthrew, gan awgrymu effaith fach iawn ar ansawdd cyffredinol y porthiant dan amodau’r arbrawf.
- Ar fferm Cwmrisca, llwyddodd Kelp Crofters a Soil Point i gynyddu cynnwys protein crai a ffibr, gan awgrymu y gallai defnyddio’r cynhyrchion mewn modd wedi’i dargedu wella cydrannau dethol penodol o ran ansawdd porthiant.
Er bod nifer o gynhyrchion biolegol wedi dangos newidiadau amlwg o ran dangosyddion pridd, lefelau maetholion y dail, ansawdd porthiant a chynnyrch ar draws y tair fferm, dylid dehongli’r canfyddiadau hyn yn ofalus. Roedd nifer o baramedrau pridd, yn enwedig ar fferm Cwmrisca, yn dangos newidiadau rhifol mawr sydd fwyaf tebygol o fod o ganlyniad i amrywiaeth naturiol mewn samplu ac amodau tymhorol nag effaith uniongyrchol o ganlyniad i’r driniaeth. Hyd yn oed mewn achosion lle gwelwyd gwelliannau, roedd y rhain yn digwydd dros dymor unigol, ac efallai na fyddent yn cynrychioli tueddiadau hirdymor. Gall mewnbynnau biolegol gefnogi bioleg y pridd ac ansawdd porthiant, ond mae eu heffeithiau’n dueddol o fod yn fach, yn ddibynnol iawn ar amodau ar y safle, ac yn cael eu dylanwadu gan y tywydd, ffrwythlondeb y pridd ac arferion rheoli. Felly, dylid ystyried canlyniadau’r adroddiad hwn fel awgrymiadau o ymatebion posibl yn hytrach na chanlyniadau pendant.
Ffactorau allweddol i’w hystyried gan ddibynnu ar y canlyniadau dymunol:
- Mae echdynion gwymon megis Kelp Crofters yn cynnig y potensial i gynyddu cyfraddau twf a chynnyrch glaswellt pan fo planhigion yn profi straen, megis prinder dŵr. Gallai ei botensial i gynyddu effeithlonrwydd ffotosynthesis arwain at gynnydd mewn lefelau Brix mewn planhigion, sy’n gysylltiedig â gallu gwrthsefyll plâu yn well.
- Mae cynnyrch addasu pridd hwmig megis Soil Point yn cynnig potensial i gynyddu argaeledd a chymeriant maetholion gan blanhigion ac i wella ansawdd y porthiant, yn enwedig os yw deunydd organig presennol y pridd yn is na’r lefelau delfrydol, neu os yw strwythur y pridd yn gywasgedig neu wedi’i ddiraddio. Byddent hefyd yn fuddiol mewn sefyllfaoedd lle ceir amheuaeth o gloi maetholion o ganlyniad i ddiffyg cydbwysedd pH neu lefelau uchel o gloi mwynau, gan fod sylweddau hwmig yn celadu maetholion, gan eu gwneud yn fwy hygyrch i blanhigion a microbau. Mae’r cynnyrch yn arbennig o fuddiol wrth sefydlu’r cnwd er mwyn cefnogi datblygiad y gwreiddiau a chryfder cychwynnol.
- Mae cynhyrchion consortiwm microbaidd megis Sylgen yn cynnig y potensial i gynyddu ansawdd porthiant ac iechyd y pridd mewn sefyllfaoedd lle mae gweithgarwch biolegol yn isel, neu wrth geisio hybu swyddogaethau ecolegol penodol megis cylchedu maetholion, dadelfennu deunydd organig (gan gynnwys dadelfennu gwellt), neu atal clefydau.
- Mae cynhyrchion bacterioffag megis Biocat yn cynnig y potensial i wella ansawdd porthiant mewn systemau lle caiff pathogenau bacteriol penodol eu nodi’n ffactorau cyfyngu sylweddol. Mae’n cynnig y potensial i ail-gydbwyso microbiomau’r pridd trwy fynd ati’n rhagweithiol i dargedu bacteria niweidiol yn y pridd, sy’n gallu gwella iechyd planhigion, cynnyrch a lefelau Protein.
- Gallai cynhyrchion cyflyru pridd megis Sea2Soil a Terrafed helpu i gynyddu cynnyrch, ansawdd porthiant ac iechyd y pridd yn gyffredinol. Maent yn gallu bod yn arbennig o effeithiol mewn priddoedd gyda gweithgarwch biolegol isel neu wrth bontio o arferion confensiynol i arferion adfywiol i sbarduno poblogaethau microbaidd trwy ddarparu asidau amino ac elfennau hybrin sydd ar gael yn rhwydd, cefnogi twf ac adferiad cyflym i blanhigion, a sbarduno gweithgarwch microbaidd yn y pridd, yn enwedig yn ystod cyfnodau lle mae’r galw am faetholion yn uchel, neu lle bo bioleg y pridd wedi lleihau.
Cysylltwch â timtechnegolcff@mentera.cymru os hoffech dderbyn copi o’r adroddiad terfynol llawn ar gyfer y prosiect hwn.