Wallog - Adroddiad terfynol ar y prosiect

Canlyniadau allweddol: 

  • Mae system LoRaWAN wedi arbed tua 30,000 - 50,000 litr o ddŵr y flwyddyn i'r fferm trwy ganfod problemau mawr yn gynnar, dod o hyd i ollyngiadau araf nad ydynt wedi’u canfod o'r blaen, pwmpio'n fwy effeithlon a lleihau gwastraff.
  • Mae canlyniadau uniongyrchol gwell rheolaeth ar ddŵr wedi cynnwys lles uwch i anifeiliaid, llai o risg o lyngyr, cynhyrchu mwy effeithlon a gwella cynefinoedd dyfrol ar gyfer bywyd gwyllt.
  • Mae monitro o bell wedi lleihau'n sylweddol yr amser llafur a dreulir yn cynnal gwiriadau llaw o'r system.
  • Mae digon o ddata bellach i gynllunio lefelau stoc a rheoli pori drwy gydol y flwyddyn heb i ddŵr fod yn bryder nac yn gyfyngiad sylweddol.

Cefndir: 

Mae Wallog yn fferm tir cymysg oddeutu 400 erw sy'n cael ei rhedeg gan Dai Evershed a'i dad Jack. Mae'r busnes yn canolbwyntio ar gynhyrchu ŵyn stôr croesfrid o oddeutu 700 o famogiaid Cymreig gan ddefnyddio dulliau lles uchel sy’n ystyriol o natur. Mewn tirwedd economaidd ansicr, eu nod yw cynnal allbwn a safonau, neu eu cynyddu ychydig, wrth gadw mewnbynnau a llafur mor isel â phosib, ac osgoi neu leihau risgiau i’r busnes. Un brif flaenoriaeth a nodwyd yw diogelu cyflenwad dŵr o ffynnon gyfyngedig ac anwadal, heb unrhyw opsiwn i gysylltu â'r prif gyflenwad. Er mwyn lleihau problemau cyflenwi a lleihau'r amser a dreulir yn gwirio â llaw, roedd angen system arnynt i fonitro argaeledd a llif y dŵr a lefelau storio dŵr mewn amser real.

Diben y gwaith: 

  1. Monitro perfformiad y system: Olrhain cyfraddau llif y dŵr a chyfeintiau storio ar draws y fferm i ganfod problemau'n gynnar, gan gynnwys gollyngiadau, galw gormodol, pympiau’n methu neu amhariadau eraill. Mae hyn yn helpu i leihau gwirio â llaw ac yn sicrhau bod y cyflenwad yn parhau i fod yn ddibynadwy drwy gydol y flwyddyn.
  2. Asesu sicrwydd dŵr yn yr hirdymor: Ffurfio darlun cywir o argaeledd dŵr yn y ffynnon drwy gydol y flwyddyn i ddeall y terfyn uchaf ar gapasiti stocio a llywio cynllunio yn y dyfodol.
  3. Gwella defnyddioldeb ac amseroedd ymateb: Datblygu dangosfwrdd symudol ar gyfer delweddu'n glir y system ddŵr gyfan a chreu rhybuddion awtomatig ar gyfer gollyngiadau, codiadau sydyn yn y galw a risgiau fel rhewi.

Yr hyn a wnaed: 

Gosodwyd porth rhwydwaith ardal eang o bell (LoRaWAN) (yn debyg i lwybrydd ar gyfer eich rhwydwaith Wi-Fi cartref) mewn pwynt canolog ar y fferm i ddarparu cymaint o signal â phosibl.
Gosodwyd synwyryddion cyfradd llif LoRaWAN mewn sawl lleoliad allweddol:

  • Mewnlif o'r ffynnon naturiol i'r gronfa gasglu.
  • Cyfradd y pwmp o'r ddalfa gasglu i'r brif gronfa storio.
  • Llif disgyrchiant o'r hen fferm ymhell i'r brif gronfa storio (Gaeaf yn unig).
  • All-lif o'r brif gronfa storio i sawl pwynt terfyn penodol, gan gynnwys cafnau a siediau da byw.

Defnyddiwyd synwyryddion lefel dŵr LoRaWAN ym mhob cronfa i fonitro cyfeintiau storio, a gosodwyd chwiliedyddion tymheredd aer a phridd i fonitro ac adrodd risgiau cyflenwi sy'n gysylltiedig â'r tywydd.

Cofrestrwyd y dyfeisiau a’r porth ar-lein ar blatfform o'r enw "The Things Network", a chrëwyd dangosfwrdd symudol rhyngweithiol ar blatfform "Datacake" (mae darparwyr dangosfyrddau eraill ar gael). Sefydlwyd rhybuddion e-bost awtomataidd ar yr un platfform ar gyfer gollyngiadau a phroblemau eraill.

Roedd rheolyddion pympiau wedi'u gosod â switsh clyfar Wi-Fi sy'n gydnaws â’r Rhyngrwyd Pethau (IoT) ar gyfer awtomeiddio yn y dyfodol.

Canlyniadau: 

  • Mae'r cyfuniad o fonitro o bell trwy'r dangosfwrdd symudol a chanfod problemau yn gynharach wedi lleihau gofynion llafur yn sylweddol. Amcangyfrif realistig yw arbediad o tua phum diwrnod gwaith y flwyddyn, a hynny trwy osgoi ymweliadau safle diangen a chanfod problemau cyn iddynt waethygu.
  • Mae monitro’r defnydd yn well hefyd wedi atal colli cryn dipyn o ddŵr. Yn flaenorol, roedd y system yn profi tua thri digwyddiad gollwng mawr y flwyddyn, ynghyd â gollyngiadau araf llai a chyfnodau o or-bwmpio. Gyda'r drefn newydd, amcangyfrifir bod arbedion dŵr blynyddol o oddeutu 30,000-50,000 litr wedi cael eu cyflawni.
  • Mae goruchwyliaeth barhaus, drwy gydol y flwyddyn - yn enwedig yn ystod amodau sych tymor yr haf 2025 - wedi rhoi dealltwriaeth lawer cliriach i'r ffermwyr o'r cyflenwad sylfaenol, gan gadarnhau isafswm mewnlif o 5 L/mun. Gyda'r wybodaeth hon, a chan feddu ar fwy o hyder yng ngwydnwch y system, roeddent yn gallu buddsoddi mewn tanc storio newydd a rhwydwaith cafnau ar floc pori mawr a oedd wedi dibynnu’n gyfan gwbl ar bwll ar gyfer dŵr yfed i’r stoc. Mae'r newid unigol hwn wedi darparu sawl budd:
    • Gellir ymgorffori'r bloc yn llawn mewn cynlluniau pori cylchdro ac adfywiol, am nad oes angen mynediad cyson i'r pwll canolog ar anifeiliaid mwyach.
    • Mae pori cymysg a/neu gynyddu maint y ddiadell bellach yn realistig.
    • Mae'r pwll wedi'i ffensio a chaniateir iddo ddychwelyd i gyflwr naturiol, sy’n lleihau'r risg o lyngyr ac yn gwella iechyd anifeiliaid ac ansawdd y dŵr. 
  • Ar y cyfan, mae'r prosiect wedi gwella effeithlonrwydd, wedi cryfhau sicrwydd dŵr, ac wedi agor cyfleoedd newydd ar gyfer rheoli tir a da byw. 

 

Ffigur 1. Sgrinlun o'r map a geir ar ddangosfwrdd Datacake ar gyfer system monitro dŵr Wallog ar 10/12/2025. Mae’r ffigurau mewn cylchoedd gwyn wedi'u rhaglennu i arddangos naill ai: dyfnder y ffynnon (m), cyfradd y llif (L / h), Lefelau dŵr (% y llestr / cronfa ddŵr sydd wedi'i llenwi) neu dymheredd y pridd (°C). Mae'r llinellau glas yn cynrychioli pibellau dŵr.

Sut i’w roi ar waith ar eich fferm chi: 

  1. Gwiriwch a yw'ch fferm eisoes o fewn cyrraedd porth LoRaWAN - chwiliwch am "TTN coverage map" neu dermau tebyg. Byddai hefyd yn werth cysylltu â'ch Cyngor Sir, sy'n debygol o fod â thîm neu unigolyn â gwybodaeth am dechnoleg cysylltedd gwledig a’r signal yn eich ardal chi, gan gynnwys LoRaWAN. Cofiwch, ar ôl y buddsoddiad cychwynnol, nad oes unrhyw gost barhaus am ddefnyddio LoRaWAN.
  2. Os nad yw'ch fferm o fewn cyrraedd porth cyhoeddus, neu os ydych am roi hwb i'r signal, bydd angen i chi osod eich porth eich hun. Gwiriwch am grantiau yn gyntaf - er enghraifft, mae rowndiau’r Grantiau Bach - Effeithlonrwydd sydd ar gael drwy Daliadau Gwledig Cymru (RPW) yn aml wedi cynnwys offer LoRaWAN gan gynnwys pyrth a synwyryddion.
  3. Unwaith y bydd gennych signal da, gosodwch rai synwyryddion. Nid yw synwyryddion yn gyfyngedig i fonitro dŵr yn unig; gellir eu defnyddio ar gyfer diogelwch, statws ffensys trydan, cyfeintiau storfeydd porthiant, olrhain anifeiliaid neu gerbydau, data am y tywydd a data amgylcheddol, a llawer mwy o ddefnyddiau.
  4. Cofrestrwch y synwyryddion (a’r pyrth os yw'n berthnasol) ar The Things Network a dechrau casglu data.
  5. Ychwanegwch eich dyfeisiau at blatfform dangosfwrdd trydydd parti (dylai chwiliad rhyngrwyd o "IoT dashboard TTN" neu dermau tebyg roi rhestr o opsiynau i chi). Mae haenau am ddim ar lawer o'r platfformau i chi roi cynnig arnynt.